helo branwen a branwen
peidiwch mynd yn egseited, wir, dydw i ddim yn neb diddorol! mae'n siwr mai achos bo fi'n fachgen reit dawel den ni heb gwrdd
. dwi'n dawel pan dwi'n sobor beth bynnag, a dwi yn sobor mewn ymarferion (pwy sy angen yfed pan allwch chi ganu caneuon meddwol CThM..!)
dwi'n edrych yn eitha sgryfflyd fel arfer, gwallt mawr braidd, bob amser yn hwyr. ma hwnna'n ddisgrifiad reit dda (os da hefyd).
dwi ddim yn GADDO dod i ddeud helo o gwbl branwen -- i'r gwrthwyneb! dwi'n meddwl bo fi'n gwbod pwy ydech chi ac os dwi'n iawn, rydech chi'n sgêri! ai chi sy'n cropian ar lawr tu allan ysgol glantwymyn, ac yn sbecian drwy ffenestri a wedyn yn rhedeg i ffwrdd (nos wener dwetha)?! gobeithio bo fi'n iawn, neu ma hynna'n swnio'n
rhyfedd iawn. os ddim, falle ddoi i ddeud helo
branwen llewellyn a ddywedodd:ddoe dyma fi a'r chwaer yn gwylio cyngerdd cwmni maldwyn (ar noson fel hon), wedyn y mab darogan, wedyn 5 diwrnod o ryddid. heddiw, dyma ni'n gneud yr un fath!
ti'n llawn haeddu'r wobr "merch fwya obsesd" branwen, da iawn. sgen i ddim hawl i honni bod yn obsesd go iawn, achos dwi heb weld y mab darogan i gyd hyd yn oed, na y llew a'r ddraig neu be bynnag oedd ei enw fo.
dwi ddim yn cytuno efo'r bobol oedd ddim yn cîn ar er mwyn yfory -- mae o'n briliant! jyst bod rhai o'r lleill hydnoed yn well! dwi'n chware drwy'r llyfr i gyd ar y piano weithie (ma na
ambell gan sy ddim
cweit cystal a'i gilydd), wel, dwi'n trio beth bynnag. piti bo na ddim llyfr o ganeuon pum diwrnod o ryddid a heledd i gyd. fyswn i wrth y piano trw'r dydd.
o ie, hoff gan. cytuno efo branwen sbrings, geiriau gwag ydy'r un ore. ond ma fory ddaw yn dda, a popeth er dy fwyn, a daeth yr awr, a er mwyn yfory. wps.
ma na gymaint o ganeuon da yn ann mae'n anodd iawn dewis. dwi'n tempted i gopio sbringiau eto a deud awdwr hedd. ond be am pren planedig? a dilyna'r goleuni? a gad i mi dyd dywys di? a'r lleill i gyd? maen nhw'i gyd yn dda! so nai fod yn boring a peidio dewis un
sori, dwi wedi mwydro'n lot rhy hir. hwyl!