Rhys Llwyd a ddywedodd:Fflipin hec Osh, ti'n teithio holl ffor fynnu o bonty i ymarfer ar gyfer y sioe newydd?
hm, ddwedes i bo fi'n ffanatic! na, fel ti'n gwbod, dwi yn y coleg yn aber, so tan diwedd tymor o'n i'n agos i'r ymarferion beth bynnag (ma tipyn o aelodau ann yn mynd i aberystwyth iwnifersiti). ac ers diwedd tymor, dwi wedi teithio fyny tipyn (dyna pam dwi'n hwyr!), ond ma'r nains a taids yn byw yn dyffryn dyfi, a dwi'n treulio lot o'r gwylie yma bob amser beth bynnag, so dwi ddim nol a mlaen o'r de o hyd. ond fydde fo dal yn werth o!
Chwadan a ddywedodd:Nest ti ddod mewn i Spar dydd Sul do a talu efo cerdyn
helo chwadan! ma na sbeis yn bob man! ddylwn i ddim defnyddio ngharden -- ma pawb yn gallu trackio fi [/paranoia]. dwi'n cofio merch yn syrfio fi yn spar dolgelle, ond o'n i braidd yn hyngofyr, felly ma popeth yn gymylog. oedd o jyst am botel o ddwr neu rwbeth? sori am ddefnyddio carden am rywbeth mor fach, ond naeth ym mhres i gyd ddiflannu i rwle noson cynt ddylet ti wedi deud "helo, chwadan ydw i", fyswn i wedi deffro chydig wedyn falle. wedi colli cyfle i gwrdd a'r enwog chwadan!
Leusa a ddywedodd:Heheheee!! Branwen Llew a fi nath hynna gan bo ni wedi di sbotio di tu ol y ffenasd
trystio leusa "fflyrt benchwiban" i fod yn ymwneud a'r fath ddrygioni
branwen llewellyn a ddywedodd:ond alla i ddim aros tan dydd Sul wan! er fod yr "3 awr cyntaf yn mynd i fod yn hunllef"! Vote of conffidens de Derek!
am ryw reswm, alla i ddim aros chwaith. ma'r ffaith bod derec/k di deud bod o'n mynd i fod yn hunllef wedi neud fi'n fwy intrigued am ryw reswm - faint o hunllef allith ymarfer CThM fod? mae'n siwr fyddai'n difaru deud hynna fory
gan bod cymaint ohonoch chi o gwmpas, 11 tan pryd mae'r marfer fory?