Tudalen 1 o 30
Cwmni Theatr (ieuenctid??) Maldwyn
Postiwyd:
Iau 26 Meh 2003 11:26 pm
gan branwen llewellyn
Bellach, mae Cwmni Maldwyn yn gwmni sioe gerdd enwog iawn yng nghymru. Cwestiwn ydi, pa sioe ydi'r ffefryn??
tydw i heb feistrioli'r grefft o ddefnyddio pol pinwin eto, felly nai jest gofyn yn blaen:
Pwy bynnag sydd wedi eu gweld nhw, pa un ydi eich ffefryn?
(dyma'r sioeau i gyd. dechrau o'r dechrau:
Y Mab Darogan - Son am Owain Glyndwr.
Y Cylch - stori wreiddiol am fywyd clwb nos yn y '50au o's ydw i'n gywir!!
Y Llew A'r ddraig - un o'r pethe battle of the classes dwi'n meddwl
Pump Diwrnod o Ryddid - y siartwyr a'u brwydyr yn erbyn gormes y wyrcws a'r bonedd
Heledd - stori Heledd, chwaer Arglwydd Cynddylan ym Mhengwern. Stori am losgach a chariad at gartref a chynefin
Myfi Yw - oratorio am Iesu Grist a'r croeshoelio
Ann - y sioe newydd (neb i votio hwn tan ar ol steddfod genedlaethol plis!!)
dwi'm yn disgwyl llawer o ymateb, ond dio'm bwys, os fydd na un bach yn ateb fyddai'n hapus! (allai roi enwau'r caneuon mwyaf poblogaidd o bob sioe os oes raid)
diolch !
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 12:28 am
gan Rhys Llwyd
Dwi di perfformio 5DR a EMY a wedi gweld MD a H ac heb os nac oni bai 5DR ywr gorau o bell ffordd!
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 12:57 am
gan Rhys Llwyd
Ychydig benillion allan o'm hoff un i Pum diwrnod o ryddid. Falle bod rhai o'r geiriau yn anghywir oherwydd mae yna 7 mlynedd ers i mi ei pherfformio hi.
Cannwyll ein Rhyddid
Cannwyll ein rhyddid
Cymer ni yn ein gwendid
Gwn ni'n gryf ac unedig
Yn ddewr ac yn ddoeth
Bydd ei'n ofnau yn cilio
Ar fflam yn goleu
Y fflam yn ein tywys
Ni heno i ryddid y dydd
Glywi di'r swn
Glywi di'r swn y corn yn canu
Yn atseinio'r draws y wlad
Galw'r gweithwyr dewr i'r fyddin
Galw'r tlawd i faes y gad
Glywi di'r swn yn mynd ith galon
Ac yn chwlau'r holl amheuon
Rhyddid sydd ar ddod
Rhyddid sydd ar ddod
Can y Werin
Mae'r gwaith yma'n galed ar oriau'n felltith o hir.
A'r blydi byddigion yn tyfu yn dewach bob dydd.
Ar noson fel hon
Ar noson fel hon
Fe heriwn y brenin ei hun
Fe fentrwn y cyfan
Cyhoeddwn i'r pedwar gwynt
Ar alwad yr utgorn
Fe ddaw tyrfa yng nghyd
I fynnu eu hawliau
A rhyddid bob un
Mae na gyfle nawr I roi y byd yn ei le
Fe ddaw pobl o'r dwyrain, gogledd a de
Ar noson fel hon.
Fe godwn ein gwydrau i'r newid a ddaw
Fe godwn ein siarter heb unrhyw fraw
Daw banner y gweithwyr o ben uchar twr
I fynnu ein siarter i gyd fel un stwr
De ni ar y ffordd i ryddid
De ni am gyfiawnder i'n gwlad
De ni ar y ffordd i ryddid
I fynnu cyfiawnder, cyfiawnder i'n gwlad
Ar noson fel hon.
Agoraf ddrysau'r gell ar led
Oes na obaith yn rhywle
Oes na olau yn rhywle
Oes na rhywyn neiff wrandod
Rhywyn wnaiff estyn llaw
Rhaid i mi sefyll yn gadarn
A dangos fy mod i yn ddyn.
Agoraf ddrysaur gell ar led
Mi ddaw fy mhobol eton rhydd.
Pwy Ddaw? staring Morus a Jarman (a.k.a Ffred Francis)
Morus:
Siarad a siarad bob nos yr run gan
Ond heno o heno mae'r freuddwyd ar dan
Pwy sy'n barod i ddangos asgwrn cefn?
Pwy sy'n barod i sefyll ar ei draed?
Yn Llundain mae'r targed - pwy ddaw yno nawr?
A llosgi y sendd i'r llawr?
Jarman:
Cyn i chwi wneud rhywbeth ffol
Cyn i chwi ddyfaru
Gwrandewch ar un a ddaeth un ol
Ystyriwch nawr fy ngeiriau
Trwyr wlad i gyd mae miloedd fel chi yn y run sefyllfa.
I gyd yn ysu am y bastills newydd ac yn ysu am eu difa.
Ond credwch fi os dilynwch lwybr trais
fydd ganddo chi ddim gobaith
Does dim angen colli gwaed
Does dim angen lladdfa
Gwrandewch ar un a ddaeth yn ol
Ystyriwch nawr fy ngeiriau
CLASUR O SIOE GERDD! Snam byd gwell na canu caneuon 5 dwrnod o ryddid ar y piano yn Cwps (er da ni siwr a fod yn mynd ar nerfa pawb arall sydd yna!)
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 12:59 am
gan Rhys Llwyd
Dylia rhywyn gomisiynu cwmni maldwyn i sgwenu sioe ynghlyn a brwydr yr iaith ddiwedd y 60au/dechraur 70u neu hyd yn oed yn well sioe a brwydr y sianel yn gefndir iddi.
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 10:09 am
gan Chwadan
Oedd Er Mwyn Yfory ddim yn sioe CTM?
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 11:00 am
gan branwen llewellyn
oedd er mwyn yfory yn sio Cwmni Theatr Meirion, felly dio'm yn cal ei gyfri. Dim Linda Gittins aru neud y miwsic chwaith, ond Robart Arwyn aru neud yr holl gerddoriaeth. Tydi o ddim cweit mor dda a'r lleill dwi'm yn meddwl.
5 diwrnod o ryddidydi'r sioe ore o bell ffordd, ond mae genai obsesiwn anghygoel efo'r Mab Darogan ar hyn o bryd! Dwi wedi ei wylio fo tua 5 gwaith mis yma! a dwi wedi mopio efo Heledd (onin grando ar y tap bore 'ma!!).
Mae Ann am fod yn glasur hefyd ! lot o anthemau!
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 11:05 am
gan Rhys Llwyd
dwin siwr bod na rhyw gysylltiad efo Er mwyn yfory a maldwyn. Nige fe Derek Williams ywr cysylltiad?
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 11:16 am
gan Chwadan
Cytuno BM, dwi'm yn rhy cin ar gerddoriaeth Er Mwyn Yfory chwaith. Ond ma'r stwff newydd i Ann yn wych
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 11:19 am
gan Rhys Llwyd
ma na ormod o rapio yn EMY hefyd, neu sgript dir gair cywir!
Postiwyd:
Gwe 27 Meh 2003 2:10 pm
gan Leusa
dwin siwr bod na rhyw gysylltiad efo Er mwyn yfory a maldwyn. Nige fe Derek Williams ywr cysylltiad?
Ia, Derec oedd yng ngofal Er Mwyn yfory hefyd, a cywirwch fi os oes angen, dwi'n ama fod Penri yno hefyd, jyst dim Linda.