Cwmni Theatr (ieuenctid??) Maldwyn

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan branwen llewellyn » Mer 02 Gor 2003 10:16 pm

y darn yna 'di bod yn dy boeni di yn arw dydi Gut?!

iymmmmm....mela.....

sori...
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Postiogan Cwlcymro » Mer 02 Gor 2003 10:19 pm

Yndi BM! Ac odda chdi'm lot o help Miss 'Biggest fan'!! :winc:

Diolch Huw!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan -*SbRiNgS*- » Iau 03 Gor 2003 4:50 pm

Y newydd trist iawn iawn iawn Huw, (sy'n peri i fy nghalon oedi bob tro 'dw in meddwl ma y peth!!!) ydi, mai 'Ann!' ydi sioe olaf Cwmni Maldwyn - ma Dad, Pen a Linda wedi deud 'No môr' - mae o'n gymaint o waith medda nhw, er yr holl bleser (a does dim pleser heb boen medde nhw!)
Oddy nhw ddim yn disgwl tyrn-owt mor fawr ar gyfer corws y sioe yma - wedyn ma hi di bod yn sdrygl enfawr i gynhyrchu 'Ann!' -ond 'dw i dal am ddeud bod hon yn mynd i serennu 8) !!!
Falle fod gena i fideo o gynhyrchiad Penweddig yn rhywle...falle...!
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

Postiogan Huw T » Iau 03 Gor 2003 10:48 pm

Ai'r steddfod fydd unig berfformaid y cwmni o Ann? Achos fi bant ar gwrs y Gerddorfa Genedlaethol adeg hynny, ond fi rili moyn gweld y sioe.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

llygedyn o obaith..!

Postiogan -*SbRiNgS*- » Sad 05 Gor 2003 7:11 pm

Gobeithio y bydd dau berfformiad yn theatr Hafren o gwmpas mis Hydref - ond munud y bydd ;na sniff bo'r tocynnau allan - cerwch i'w prynu nhw'n syth - dim bod yn ben mawr na dim felly, ond mi ath y rhai sdeddfod fel slecs! 3,500 mewn 3 wsos!
Falle y bydd 'na un perfformiad mawr yn y De ac un yn y Gogledd - 'de nin gast rhy fawr i fynd ar daith (tua 200 i 175 i gyd! :D )
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

Postiogan Chwadan » Maw 08 Gor 2003 12:17 pm

Waaaa, gobeithio fydda i adra i fod yn y ddau berfformiad ecstra :? Fflipin hec, dwi'n edrych mlaen gymaint at ei neud o yn y Pafiliwn, fydd o'n wych!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

I'r ffanatics

Postiogan -*SbRiNgS*- » Maw 22 Gor 2003 8:37 pm

i chwi ffanatics, ma Penri wedi sgwennu pennod mewn llyfr o'r enw 'blas ar fwnder maldwyn' gan Heledd Maldwyn Jones, yn son am Gwmni Theatr 'Ieuenctid' Maldwyn - mae o'n ddiddorol, a do'n i hyd yn oedd ddim yn gwbod am rai o'r pethe sy 'di digwydd 'hyd y blynyddoedd! Mae on gamoladwy chware teg! Da iawn Pen!

'Dw in meddwl y dylse ni 'neud ri-mix o ganeuon Mab Darogan chos ma na rei regge gwych hefo potensial ail-wampio! Be am dani?! 8)

Warning swyddogol i'r 'ogia sy'n dod i weld y sioe newydd - 120 o ferched mewn leotarts (mond ar y top!Sgert ar gwaelod!) ar y llwyfan am 90 munud - gwyliwch eich hunan!
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

Postiogan Osian Rhys » Mer 23 Gor 2003 1:35 am

hwre -- o'n i ddim yn gwbod bod trafodaeth am cwmni theatr maldwyn ar maes e! ddim wedi meddwl bydde na sgwrs mor ddiddorol o dan "celfyddydau eraill"...

ga i hefyd gofrestru fy hun yn swyddogol fel rhywun dychrynllyd o obsesd efo theatr maldwyn :wps: .

o ran y sioe ore, ma hi'n ofandwy o agos rhwng pum diwrnod o ryddid a heledd. dwi'n nabod lot o bobl oed fi oedd yn gwrando ar pum diwrnod o hyd ac o hyd pan oedden nhw'n ifanc. o'n i'n fach iawn pan es i i weld y sioe, a dwi'n dal i gofio!

ond dwi yn cytuno efo pwy bynnag ddwedodd mai heledd sy'n mynd a hi o drwch blewyn -- es i i'w gweld hi ddwywaith (a wedyn y fideo...), ac oedd hi'n hollol anhygoel.

mae cymaint o ganeuon anhygoel yn ann! hefyd (gobeithio neith ein dawnsio boclynaidd ansicr ni ddim ei sbwylio hi :rolio: ) -- dwi ddim yn deall sut maen nhw'n gallu creu cymaint o gampweithiau!

sbrings, dweda wrth dy dad bod raid iddyn nhw gario mlaen! fydd bywyd ddim run peth... ok, spose bod hynna'n annheg; mae'n siwr bod o'n ofandwy o lot o waith. tase gynnon ni hunanlywodraeth, mi fydde llywodraeth cymru'n noddi nhw i gymryd blwyddyn off eu job normal iddyn nhw gael digon o amser i neud sioe arall. sori, dwi'n dechre mwydro eto -- mae'n hwyr.

mae'n joc bod s4c ddim am benderfynu dangos y sioe tan bod nhw wedi'i gweld hi -- i feddwl yr holl trash man nhw'n ddangos fel arfer. mae'r ffaith bod y sioe di gwerthu allan mor gyflym yn dweud rwbeth wrthyn nhw fod pobol eisie gweld y sioe does bosib?! licien i weld nhw'n trio gwerthu 3500 o docynne i weld "Jocars" am ddecpunt yr un.

ie, beth bynnag, well i fi fynd i gysgu (gwrando chydig ar heledd gynta falle!). ymarfer nos wener :!:
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Postiogan branwen llewellyn » Mer 23 Gor 2003 11:26 pm

hmmm...... Osian Rhys? Pwy wyt ti?! dwi'n dy hoffi di'n barod, ond dwi wedi llwyr golli cownt o pwy ydi pwy....
nai ffindio allan masiwr.

gai ddeud faint mor hapus ydw i o gael heledd yn ol?! dwi am ei wylio fo wan hyn, wel ar ol gorffen ar hwn, a ma hi rwan bron yn haner awr wedi 12 ar nos fawrth. o wel.

ddoe dyma fi a'r chwaer yn gwylio cyngerdd cwmni maldwyn (ar noson fel hon), wedyn y mab darogan, wedyn 5 diwrnod o ryddid. heddiw, dyma ni'n gneud yr un fath!

o diar! ma hi'n wael ma!!

dwi am fynd ar hynt i dy branwen haf i chwilio am y cylch a'r llew a'r ddraig. fues i'n chwarau caneuon o'r ddau yma heddiw, a ma nhwn dda iawn, heb i fi ddallt gwir ystyr y caneuon. edrych ymlaen yn arw!
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Rarglwy!

Postiogan -*SbRiNgS*- » Iau 24 Gor 2003 10:56 am

Wel yr andros annwl dad - sut nad ydym ni wedi cyfarfod o'r blaen Mr Osian Rhys?! A ti yn Cwmni a bob dim! Sut ti'n edrych? Ne, be ti fel arfer yn wisgo (falle bo fin gwbod pwy w ti tin gweld...!) Tyrd atom ni i siarad tro nesa - GADDO?! Ma BM a fi'n bobl hynnod o groesawgar a ffeind! MA siwr b otin gwbod pwy 'dw i - hone sy'n wallgo ag efo gwalld cyrliog a ma dad yn gweiddi arna i o hyd BRANWEN 'AAAAAAAAAAAAAAF! Wps! :wps:

Wedi bod yn canu drwy Er Mwyn Yfory ddoe a wedi cael ymarfer canu hir efo Edryd (fo syn chware gwr Ann)

Be am bleidleisio dros ein can orae yn EMY
*Y Sgriw (y gan corys gyntaf)
*Dilynaf Di (deuawd Dafydd a Rhiannon yn deud i bo nhw un lyyyyrf!)
*Dy Garu o Bell (John HUws y sdiward mwnci mul yn deud bo gyno fo crysh ar Rhiannon)
*Geiriau Gwag (unawd Dafydd rol gweld teulu'n cael eu stoc wedi'w ateilfeddu -meddwl ma dynar gair cywir - am fethu talur degwm)
*Dallt y Gem (can yr arwerthwr)
*Yfory Ddaw (can corys rol i bawb benderfynnu -no mor o dalur degwm - awe i wrthryfel!)
*Popeth er Dy fwyn (hyrfyd!Deuwad rhwn y sdiward John Huws a'r ffermwr a'r potshar tlawd - Dafydd, wrth i'r ddau fynegi eu teimladau tuag at Rhiannon!)
*'Run Fath a Ni (4warawd rhwng y ddau deulu yn troi gwahanu Rhiannon a Dafydd am na fydde nhw byth yr un fath au gilydd)
*Colli' Cyfan (can Edryd, wedi iddo gael ei daflu oddi ar ei fferm)
*Yn Gaeth i'r Cymylau Du (Mae Dafydd yn gorfod byw'n alltud a cyn mynd mae on meddwl am Rhiannon a canu'r gan yma)
*Y Gaeaf a Ddaeth (Rhiannon yn clywed fod Dafydd yn mynd)
*Daeth yr Awr (y corws ma eto'n mynnu mynd ar wrthryfel!)
*Sefwch yn Llonydd (can arall Ger Bach wrth iddo dynnu llun o ferthyron y Degwm)
*Er Mwyn Yfory (Can diweddglo hapus, lle ma cariad yn trechu dosbarth cymdeithasol -a hefyd, fod yn rhaid gwneud popeth er mwyn yfory)

Dw i'n pleidleisio Geiriau Gwag - ma hin hyfryd yn wir! Yr un fath a'r teitl - mar gan yn son am wasdraff geiriau gwag rhai pobl :

Ni welais i erioed y fath wendid ymysg dynion
Wrth gau eu llygaid heddiw i boen cymydog tlawd
Mor wylaidd maent yn derbyn cyfundrefn sy'n bychanu
Ein bodolaeth ar y tir
Lle mae'r ysbryd a'r sêl am gyfiawnder
Y gweiddi a'r egni a'r hyder i fyw
Ai hyn yw grym eu gweddiau
A ffrwyth pob ffydd yn ei Duw?
Mor ddewr wrth drafod brwydro
ar ymffrost wrth son am herio
Pan ddaeth yr awr i weithredu
Doedd dim ond eu geiriau gwag
Eu pennau yn eu plu, heb fedru dal edrychiad
Yn cilio o'r goleuni i nos y cywilydd du
A heddwi gwelwyd colled gorchfygwyd nawr eu hyder
A'u balchder sy;n deilchion draw
Gweld cymydog a'i eiddo'n diflannu
Y gamwedd a'r estron yn mynnu ein dal
Ai hun yw rhuddin ein pobl?
Hun sy'n fy ngwneud i yn sal
Mor ddewr wrth drafod brwydro
A'r ymffrost wrth son am herio
Pan ddaeth yr awr i weithredu
Doedd dim ond eu geiriau gwag
Ni fues i yn rhan o ymgyrch gwyr y ddegwm
Eu siarad gwag mor ddiflas, rwy'n ddyn yr awyr iach
Pob dydd fe af i hela ar diroedd rhai sy'n credu
Mai hwy yw'r meistri tir
Does dim dewis, mae'n rhadi i ni newid
Cyfundrefn sy'n tagu ein rhyddid i fyw
Nid geiriau sy'n tanio chwyldro -
Gweithredu sy'n newid y byd
Rwan mae'n rhaid i ni frwydro
Heddiw mae'n rhaid i ni herio
Fe ddaeth yr awr i weithredu
Ac i'r diawl a'r geiriau gwag
Ac i'r diawl a'r geiriau gwag

Sori - on in gorfod gneud huna 8) (gesi i groen gwydd, mond yn eu teipio :ofn: )

I chwi bobl y sioe newydd - pa un 'dich can ore chin fano? Dw in meddwl ma Awdwr Hedd ydy'r ffefryn ar y funud, ond ma Cysga Mhlentyn yn agos iawn! :winc:
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron