Bellach, mae Cwmni Maldwyn yn gwmni sioe gerdd enwog iawn yng nghymru. Cwestiwn ydi, pa sioe ydi'r ffefryn??
tydw i heb feistrioli'r grefft o ddefnyddio pol pinwin eto, felly nai jest gofyn yn blaen:
Pwy bynnag sydd wedi eu gweld nhw, pa un ydi eich ffefryn?
(dyma'r sioeau i gyd. dechrau o'r dechrau:
Y Mab Darogan - Son am Owain Glyndwr.
Y Cylch - stori wreiddiol am fywyd clwb nos yn y '50au o's ydw i'n gywir!!
Y Llew A'r ddraig - un o'r pethe battle of the classes dwi'n meddwl
Pump Diwrnod o Ryddid - y siartwyr a'u brwydyr yn erbyn gormes y wyrcws a'r bonedd
Heledd - stori Heledd, chwaer Arglwydd Cynddylan ym Mhengwern. Stori am losgach a chariad at gartref a chynefin
Myfi Yw - oratorio am Iesu Grist a'r croeshoelio
Ann - y sioe newydd (neb i votio hwn tan ar ol steddfod genedlaethol plis!!)
dwi'm yn disgwyl llawer o ymateb, ond dio'm bwys, os fydd na un bach yn ateb fyddai'n hapus! (allai roi enwau'r caneuon mwyaf poblogaidd o bob sioe os oes raid)
diolch !