Tudalen 28 o 30

PostioPostiwyd: Mer 24 Maw 2004 8:26 pm
gan Chwadan
Hehe, ddois i allan yn ddigon buan lly - fyddai'm ar y teli! :D

PostioPostiwyd: Sul 28 Maw 2004 9:08 pm
gan -*SbRiNgS*-
Chwadan fe fyddi yn y dociwmentari - nos fawrth!

Welodd rywyn Dechrau Canu Dechrau Canmol?!
Wanwl! Son am edrych fel tylluan GO IAWN! O wel, reit emosiynnol - Sar yn canu'n wych. Odd o fwy fel rhagarweiniad i'r 8nos Cwmni sydd i ddod!

PostioPostiwyd: Sul 28 Maw 2004 9:46 pm
gan Meinir Thomas
Y rhaglen yn dda iawn! 'Naeth Sara ganu'n arbennig o dda. Iyffach, ma' llais ffantastig ganddi! Methu aros i nos Fawrth nawr! Diolch byth fod gennym awr yn llai i aros! lol! :D

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:16 pm
gan Rhys Bwlch
Nesh shi fwynhau'r dechra canu'n fawr iawn......da iawn chi hogia!

Dwi'n edrych mlaen at y behind the scenes henoma!

Hwyl a ffag :lol:

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 3:55 pm
gan Meinir Thomas
Ro'n i'n synnu na ddangoson nhw ni'n cynnig llwnc destun i Ann Griffiths noson y premier, cofiwch. Ro'n i wedi disgwyl i saethiad o hwnna fod yn y rhaglen. Buasai fe wedi bod yn saethiad addas iawn ar ddiwedd y rhaglen yn fy marn i. (Siawns am swydd, Elidir? Gan fy mod i'n cynnig syniadau mor dda, de! :lol: )

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 11:49 am
gan Meinir Thomas
Waw! Roedd rhaglen nos Fawrth yn Ann-hygoel!!!! :D
'Di tapio fe, yn naturiol. Mae e'n rywbeth mor braf i'w gael. Gallaf edrych 'nol arno mewn blynydde, a chofio'r cyfnod hapus iawn a dreuliais gyda Chwmni Theatr Maldwyn. :D
God, ma'r cwmni 'ma'n FFANTASTIC!!!!!

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 12:02 pm
gan Meinir Thomas
GWEFAN NEWYDD AM GWMNI THEATR MALDWYN!

http://hometown.aol.co.uk/meinir1982/my ... sical.html

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 8:14 am
gan -*SbRiNgS*-
rhaglen nos fawrth yn hollol hollol wych. pawb dw in nabod wedi mwynhau - aelodau cwmni i gyd yn eu dagrau! -Jaco yn *!
Be odd pawb arall yn feddwl?! Nos sadwrn am dani rwan de! Mi giciw ni dinnau!

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ebr 2004 9:56 am
gan Meinir Thomas
Lot o bobol yn yr ardal hyn 'di dod lan ata i i'n llongyfarch. Dweud fod y rhaglen yn wych, ac yn disgwyl ymlaen yn fawr at y sioe nos yfory.
'Di hyd yn oed cael "fan mail" ddoe! lol! Hen ffrind ysgol i mi'n gofyn pryd all hi ddod draw i gael fy llofnod! :lol:
Wel, mynd i gael fy nishgled nawr. Hwyl am y tro! Mwynhewch nos yfory! :D

PostioPostiwyd: Sad 03 Ebr 2004 8:54 pm
gan Meinir Thomas
O, waw! Roedd hwnna'n wych! Ro'n i yn fy nagrau erbyn y diwedd! Ma' gweld hwnna 'di codi hiraeth ofnadw arna i. :crio: 'Wi bron marw ishe perffornio'r sioe eto! 'Wi'n colli pawb yn ofnadw! :crio: