cam 1 Gofyn i gyfreithwr am neud Statutary Declaration o dy ewyllys i newid dy enw. Cost= 35-40 punt.
cam 2 Anfon y Statutary Declaration ynghyd â ffurflen pasport i gael pasport newydd efo dy enw newydd. Cost= 30-35 punt.
Mor hawdd â hynny.
Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
Geraint a ddywedodd:Os yn newid i'r susdem 'ap', yda chi'n meddwl dylid cymreigio enwau?
e.e. newid John i Sion?
Hen Rech Flin a ddywedodd:Does dim rhaid talu twrnai £35+ am baratoi datganiad statudol i newid dy enw. Yr unig beth sydd raid ei wneud yw profi dy fod yn defnyddio'r enw "Cymraeg" yn gyson ac yn ddieithriad.
O gael anhawster i brofi defnydd cyson a dieithriad (er enghraifft gan dy fod newydd benderfynu newid dy enw) bydd hysbyseb £3 yn dy bapur bro yn datgan dy fwriad i ddefnyddio'r enw o hyn allan o gystal werth a datganiad twrnai.
Os gawsoch eich geni cyn 1969 does dim angen gwneud dim i newid cyfenw i "ap" gan nad oes cyfenw ar gyfer y plentyn yn ymddangos ar y dystysgrif geni tra bod enw bedydd y tad yn ymddangos arni.
dwi ddim yn meddwl bod rhaid o gwbl, ond yn bersonol fyswn i yn achos dwi'n meddwl fod ap yn swnio'n well efo enw cymraeg.Geraint a ddywedodd:Os yn newid i'r susdem 'ap', yda chi'n meddwl dylid cymreigio enwau?
e.e. newid John i Sion?
sanddef rhyferys a ddywedodd:
Rhaid ei wneud os ti am gael pasport ac ymweld â gwlad arall. Does dim angen neud unrhywbeth swyddogol os ti'n aros ym Mhrydain.
Hen Rech Flin a ddywedodd:sanddef rhyferys a ddywedodd:
Rhaid ei wneud os ti am gael pasport ac ymweld â gwlad arall. Does dim angen neud unrhywbeth swyddogol os ti'n aros ym Mhrydain.
Mae fy nhrwydded teithio yn yr enw yr wyf yn defnyddio, nid yr enw sydd ar fy nhystysgrif geni a hynny heb newid fy enw yn "swyddogol" na thalu dimai i dwrnai.
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai