alli di jyst ofyn i dy ysgol, dy fanc, ac ati, i newid dy enw ar eu records heb unrhyw "dystiolaeth", a ddyle fo ddim bod yn broblem o gwbl. o ran pasbort, i arbed arian, fyswn i'n aros tan bod yr un presennol yn dod i ben (alli di dal ei ddefnyddio er bod Jones arno), wedyn yn llenwi dy enw fewn ar y ffurflen adnewyddu pasbort efo dy enw newydd. os mai Bob Menai sydd lawr ar bopeth heblaw pasbort, dwi ddim yn gweld pam fyse'r asiantaeth basport yn mynnu cadw at yr hen un. yn syml, yr enw ti'n ddefnyddio ydy dy enw di. jyst deud wrthyn nhw "ond Bob Menai ydy fy enw i rŵan"
mae gollwng cyfenw yn eitha syml wedi'r cwbl (ac mae cannoedd os nad miloedd wedi neud yng nghymru). dwnim, falle fyse fo chydig bach mwy cymhleth taset ti ishe newid dy enw o Bob Menai Jones i Abu Musab al-Zarqawi...