Sut i Gymreigio dy enw yn rhad a swyddogol

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan ceribethlem » Maw 16 Awst 2005 7:08 pm

Lodes Fech Glen a ddywedodd:Ydi'r camau yr un peth os wyt dan ddeunaw ?
Fi ddim yn credu bod hawl gyda ti heb caniatad dy rieni os o dan 16. Beth sy'n bod gyda dy enw di ta beth?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 16 Awst 2005 8:39 pm

Ray Diota a ddywedodd:Ai. Yn union. I raddau, be ti'n galw dy hun yw dy enw, sdim rhaid ar dystysgrif. Ond ma hyn yn eith lletchwith. dim newid f'enw nes i, jyst dewis defnyddio'r enw canol fel cyfenw - odd y bancs yn gwrthod casho cheques wedyn ny os oedden nhw yn f'enw llawn. Diawl o beth. :x


Yup - gesh i'r broblem honno hefyd, ond mi roedd gen i dystysgrif i brofi gan fy mod wedi gwneud yn "swyddogol" ;) Dwi newydd ddechra swydd newydd fis yma, a doedd yr adran bersonel ddim yn fodlon fy nghofrestru heb fod gen i brawf o'r ffaith fod fy enw'n wahanol i'r hyn sydd ar fy nhystysgrif geni.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 16 Awst 2005 8:39 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Lodes Fech Glen a ddywedodd:Ydi'r camau yr un peth os wyt dan ddeunaw ?
Fi ddim yn credu bod hawl gyda ti heb caniatad dy rieni os o dan 16. Beth sy'n bod gyda dy enw di ta beth?


Ti'n iawn - rhaid cael caniatad y ddau riant (neu mi ROEDD rhaid p'run bynnag)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Sut i Gymreigio dy enw yn rhad a swyddogol

Postiogan Dafydd ab Iago » Sad 19 Awst 2006 8:34 am

sanddef rhyferys a ddywedodd:cam 1 Gofyn i gyfreithwr am neud Statutary Declaration o dy ewyllys i newid dy enw. Cost= 35-40 punt.
cam 2 Anfon y Statutary Declaration ynghyd â ffurflen pasport i gael pasport newydd efo dy enw newydd. Cost= 30-35 punt.
Mor hawdd â hynny.


Dwi'n aros am gael fy mhasport newydd ar ol gwneud deed poll ( http://www.ukdps.co.uk ).

Dafydd
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Postiogan Prysor » Maw 22 Awst 2006 10:16 pm

Panom Yeerum a ddywedodd:erm, John i Ioan ti'n feddwl ia? :wps:


Onid ffurf Gymraeg ar John yw Sion, yn ogystal a Ioan?

Ella mod i'n rong ond does dim engreifftiau o Sion fel enwau cyn dyfodiad y Normaniaid i Brydain a Werddon nagoes? A 's' oedd y Cymry'n arfer ddeud am 'j' am na fedran nhw ddeud 'j'. Felly Sioned am Janet, Siwan am Joan, Rhosier am Roger. Sion am John?

Dewi Prysor Williams ydw i ar fy mhasport a thrwydded gyrru a'r banc ac ati. Ond mae'r banciau lleol yn derbyn sieciau Dewi Prysor.

Dewi Prysor ydw i ar fy nhystysgrif geni, am ges i'ng ngeni cyn 1969.

Sdopiais ddefnyddio'r Williams yn ysgol. Doedd genai'm llawar o ddewis. Alwodd yr un athro na phlentyn fi'n "Dewi Prysor Williams" erioed. Dewi Prysor oeddan nhw'n fy ngalw. Mi sdiciodd. Ac ar ôl cyrraedd ysgol Blaena diflannodd y 'Dewi' hefyd. Prysor oedd pawb yn fy ngalw. Sdiciodd hynny hefyd.

Er ei darddiad Ffrengig dwi'n falch o'r enw teuluol 'Williams' a dwi'n gyndyn o'i waredu'n gyfangwbl a swyddogol. Serch hynny dwi'n fwyfwy ymwybodol o'r busnas 'slave-names' Cymraeg 'ma - yr enwau roddwyd arnom gan ein meistri Seisnig, diolch i'r blydi Tuduriaid. Felly fel cyfaddawd dwi wedi dewis peidio rhoi'r Williams ar fy mhlant. Prysor ydi eu cyfenwau. Llinach newydd o linach hen...

Fyddwn i'n gallu Cymreigio Williams i Gwilym am wn i. Ond fydda fo ddim yn swnio'n iawn rywsut. Er, yn dechnegol mae Dewi a Dafydd yr un enwau felly fyddwn i'n gallu galw fy hun yn Dafydd ap Gwilym!

Falla Fedrwn i Gymreigio fy enw i Dewi ap Ned (dwi'n defnyddio Ap Ned fel ffugenw sgwenu yn aml). Ned ydi enw fy nhad, er mai Edward sydd ar ei dystysgrif geni. Hmmm... Dewi ap Edward? Na! Cyfieithu Edward i Iorwerth? Dewi ap Iorwerth? Na... Iorwerth oedd enw fy nhaid.

Sdicia i efo Dewi Prysor dwi'n meddwl. Pawb yn nabod y ffycar hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan AFFync » Mer 23 Awst 2006 11:18 am

Dwi wedi meddwl am defnyddio enw teulu mam i adlewyrchu ochor Gwyddelig y teulu (mae gan y chwaer enw cynta Gwyddelig) ond wedyn fydd gennai 5 enw! Ella wnai newid yr ail enw i un fwy Gwyddelig.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan Mair Ffair » Mer 23 Awst 2006 3:07 pm

O hyn ymlaen fy enw i yw Gogoniant Carys Mair Ffair Pwdin Banana Dafis.
Rhithffurf defnyddiwr
Mair Ffair
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Mer 09 Awst 2006 8:38 am
Lleoliad: yr anialwch

Postiogan Prysor » Mer 23 Awst 2006 3:30 pm

be da ni fod i alw chdi? Gogoniant? Pwdin? Banana?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 23 Awst 2006 3:37 pm

Aberth cynta'r maes... "Gogoniant i Dduw..."!!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan AFFync » Mer 23 Awst 2006 4:18 pm

AFFync a ddywedodd:Dwi wedi meddwl am defnyddio enw teulu mam i adlewyrchu ochor Gwyddelig y teulu (mae gan y chwaer enw cynta Gwyddelig) ond wedyn fydd gennai 5 enw! Ella wnai newid yr ail enw i un fwy Gwyddelig.


Diolch am yr ysbrodoliaeth Maes-e.
Dwi wedi penderfynnu newid ail enw fi!!
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai