bartiddu a ddywedodd:Dwi wedi cael llwyth o wybodaeth da oddi ar wefan y
mormoniaid mae yna ambell 'wall fan hyn a fan draw
(americanwyr yn cam sillafu enwau cymreig ayb) ac mae'n werth cadarnhau'r gwybodaeth o ail fynhonell hefyd, ond mae bron pob dim dwi wedi darganfod wedi bod yn gywir wrth cymharu hefo perthnasau sy' wedi bod oamgylch mynwentoedd ag ati.
Mae gwefan y
Mormoniaid yn lle difyr i'w hymchwilio.
Mae Mormoniaid, o ran defosiwn yn hel achau er mwyn sicrhau bod hynafiaid a anwyd cyn i'w crefydd cael ei ddatgelu (tua 1830 os gofiaf yn iawn) yn cael cystal siawns at gyrraedd yr ogoniant a'r rhai a anwyd wedi hynny.
Er mwyn cynorthwyo eu defosiwn y maent wedi mynegeio doreth o ffynonellau hel achau. Mae dipyn go lew o wybodaeth ar eu gwefan:
Mynegai i gyfrifiad 1881 Cymru a Lloegr (ambell i frych o ran enwau llefydd yng Nghymru).
Yr International Genealogical Index. Sef casgliad o wybodaeth achyddol sy'n gallu bod yn ddefnyddiol neu'n annefnyddiol gan ddibynnu ar eu ffynhonnell. Un o'r pethau sy'n rhaid ei gofio am y ffynhonnell hon yw bod yn well i Formon gwneud camgymeriad a sicrhau mynediad i'r gogoniant i rywun sy ddim yn perthyn iddo, (gan obeithio ei fod yn gywir) na chau aelod o'r teulu allan o ogoniant trwy ddiffyg prawf teg! Ar y cyfan gellir gwahaniaethu rhwng y "siawns" a'r ffynhonnell deg trwy edrych ar y wybodaeth am y casgliad.
Os ydy'r casgliad yn dweud ei fod yn ffrwyth ymchwil unigolyn rhaid ei amau, os ydy o'n dweud ei fod wedi ei gasglu o gofrestrau plwyf ac ati, mae'n weddol ddibynadwy.
Dipyn o hanes gan y Mormoniaid yng Nghymru. Bu ofn yn y 1850 bod y sect am fod yn
fwy na'r Methodistiaid! Rhywbeth sydd wedi ei rwbio allan o hanes Cymru ar y cyfan.
Roedd gan Brigam Young (sylfanydd y sect) achau Cymreig - yn wir, mae o'n berthynas bellennig i mi - ond trwy ein hachau Saesnig ysywaeth.
Teulu'r Osmonds (canwyr pop yn y saithdegau) yn Formoniad o Ferthyr Tudful
Martha Hughes Cannon; un o arloeswyr ym myd meddygaeth i fenywod a phlant ac arwrwraig i'r Suffragettes; oedd yr aelod benywaidd gyntaf i'w cael ei hethol i senedd daleithiol yn yr UDA (wedi sefyll fel gwrthwynebydd i'w gŵr). Hogan o Lanrwst a ymfudodd i Utah oherwydd bod ei theulu yn Formoniaid.
Gwerth crybwyll yr Athro Ronald Denis hefyd, athro'r Portiwgaleg ym Mhrifysgol Brigham Young. Mormon o dras Gymreig a dysgodd y Gymraeg er mwyn hel ei achau. A bellach yn dysgu'r Gymraeg yn ei brifysgol. Gwefan difyr iawn ganddo yw:
Welsh Mormon History