Tudalen 1 o 1

Ymholiadau cyfrifiad 1861 hyd 1901

PostioPostiwyd: Sul 31 Gor 2005 4:12 am
gan Hen Rech Flin
Ambell i bwt mewn edeifion eraill am hel achau.

Os digwydd bod aelod o'r Maes am gael gwybod am hynafiaid sydd yn ymddangos yng Nghyfrifiadau Cymru a Lloegr 1861, 1871, 1881, 1891 neu 1901 gallwn wneud ymchwiliad am danynt ar eich cyfer (o gael gwybodaeth gall i wneud eu cwrsio'n obeithiol - nid y John Jones from Wales 'rwy’n cael 10 waith y dydd mewn e-lythyrau o'r UDA!).

Gofynnwch - dim gwarant y cewch, ond mi geisiaf fy ngorau!

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 2:21 am
gan Mali
Diolch yn fawr am y cynnig HRF...mi gefais i blwc o hel achau rhyw ddwy flynedd yn ôl , ac mi gefais i hyd i'm hên nain yn censws 1881. Heb wneud dim byd ers hynny a heb fentro i censws 1901 eto ...Mae'n job gwybod lle i gychwyn , dyna'r drwg . Beth wyt ti'n awgrymu?

PostioPostiwyd: Llun 01 Awst 2005 10:10 am
gan Hogyn o Rachub
Byddwn i'n rili licio gwybod ychydig mwy am fy nheulu cyn taid a phwy oedden nhw, a ches innau hefyd obsesiwn bach efo hel achau ychydig yn ol.

Beth fyddat ti eisiau gwybod? Dyddiau marw a geni (ac enw, wrth reswm!)

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 1:05 am
gan Hen Rech Flin
Mali a ddywedodd:Diolch yn fawr am y cynnig HRF...mi gefais i blwc o hel achau rhyw ddwy flynedd yn ôl , ac mi gefais i hyd i'm hên nain yn censws 1881. Heb wneud dim byd ers hynny a heb fentro i censws 1901 eto ...Mae'n job gwybod lle i gychwyn , dyna'r drwg . Beth wyt ti'n awgrymu?


Yr wyf wedi ateb neges Hogyn o Rachub mewn ymholiad bellach a daeth drwy neges breifat.

I ateb cwestiwn Mali. Os wyt wedi cael manylion o gyfrifiad 1881 dyro cyfeirnod y wybodaeth. Rhywbeth yn debyg i RG11/xxxxx, o hynny caf afael yn weddol hawdd i'r teuluoedd yn y cyfrifiadau eraill. Os nad yw'r cyfeirnod ar gael beth oedd y manylion?

Yn gyffredinol enw sydd ei angen. Mae gwybod ym mhle cafodd yr hynafiad eni neu le'r oedd o'n byw yn gymorth. Mae cysylltiad teuluol arall gwr, gwraig, mam, tad brawd yn help i wirio cysylltiad, fel y mae unrhyw glem at oedran (carreg bedd yn dweud yn 54 pan fu farw yn 1944 ac ati).

Po fwya o wybodaeth sydd ar gael po hawsed yw cael hyd i'r unigolyn yn y cyfrifiad.

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 11:31 am
gan bartiddu
Dwi wedi cael llwyth o wybodaeth da oddi ar wefan y mormoniaid mae yna ambell 'wall fan hyn a fan draw (americanwyr yn cam sillafu enwau cymreig ayb) ac mae'n werth cadarnhau'r gwybodaeth o ail fynhonell hefyd, ond mae bron pob dim dwi wedi darganfod wedi bod yn gywir wrth cymharu hefo perthnasau sy' wedi bod oamgylch mynwentoedd ag ati.

PostioPostiwyd: Maw 02 Awst 2005 8:08 pm
gan Mali
Hen Rech Flin a ddywedodd: Os wyt wedi cael manylion o gyfrifiad 1881 dyro cyfeirnod y wybodaeth. Rhywbeth yn debyg i RG11/xxxxx, o hynny caf afael yn weddol hawdd i'r teuluoedd yn y cyfrifiadau eraill. Os nad yw'r cyfeirnod ar gael beth oedd y manylion?


Mi wnês i brint o'r canlyniad ac wedi ei gadw'n ofalus. Ddim yn cofio gweld cyfeirnod arno , ond mi wnâf anfon y manylion i ti mewn neges breifat.

Diolch am y linc i safle'r mormoniaid hefyd bartiddu.

PostioPostiwyd: Mer 03 Awst 2005 8:50 am
gan sanddef
1901: John Hughes, Gwalchmai (Ynys Mon), priod i Elun/Elen Lewis, Gwalchmai?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Awst 2005 2:06 am
gan Hen Rech Flin
sanddef rhyferys a ddywedodd:1901: John Hughes, Gwalchmai (Ynys Mon), priod i Elun/Elen Lewis, Gwalchmai?


Rwy'n ansicr am be wyt yn gofyn.

Ai ofyn am fanylion rhywun o'r enw John Hughes a anwyd yng Ngwalchmai ym 1901 wyt, neu'n gofyn am fanylion am rywun sy'n ymddangos yng nghyfrifiad 1901?

Os mae gofyn am fanylion allan o gyfrifiad 1901 wyt, a'i gofyn am rywun yn byw ym mhlwyf Drewalchmai wyt neu'n gofyn am fanylion un a anwyd yno?

Does neb ym mhlwyf Drewalchmai o'r enw John Hughes sydd â phriod o'r enw Elun/Elen yng Nghyfrifiad 1901, ond mae son am ddau John Hughes a anwyd yng Ngwalchmai ac yn briod i Ellen, ond yn byw ym mhlwyfi eraill:

# John Hughes a oedd yn byw yng Ngroeslon Rodyn Llanidan, beili fferm a anwyd tua 1856 yng Ngwalchmai ac Ellen ei wraig a anwyd tua 1863 yn Llanidan.

# John Hughes a oedd yn byw yn 18 Queen Street Caergybi, morwr ar y LNW? Steamers, a anwyd tua 1856 yng Ngwalchmai ac Ellen ei wraig a anwyd tua 1859 yn Amlwch.

Mae nifer o ddynion dibriod o'r enw John Hughes a anwyd yn / neu yn byw ym Mhlwyf Trewalchmai hefyd. A wyt yn sicr bod dy John dithau wedi priodi ag Elun/Elen Lewis cyn 1901?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Awst 2005 3:21 am
gan Hen Rech Flin
bartiddu a ddywedodd:Dwi wedi cael llwyth o wybodaeth da oddi ar wefan y mormoniaid mae yna ambell 'wall fan hyn a fan draw (americanwyr yn cam sillafu enwau cymreig ayb) ac mae'n werth cadarnhau'r gwybodaeth o ail fynhonell hefyd, ond mae bron pob dim dwi wedi darganfod wedi bod yn gywir wrth cymharu hefo perthnasau sy' wedi bod oamgylch mynwentoedd ag ati.


Mae gwefan y Mormoniaid yn lle difyr i'w hymchwilio.

Mae Mormoniaid, o ran defosiwn yn hel achau er mwyn sicrhau bod hynafiaid a anwyd cyn i'w crefydd cael ei ddatgelu (tua 1830 os gofiaf yn iawn) yn cael cystal siawns at gyrraedd yr ogoniant a'r rhai a anwyd wedi hynny.

Er mwyn cynorthwyo eu defosiwn y maent wedi mynegeio doreth o ffynonellau hel achau. Mae dipyn go lew o wybodaeth ar eu gwefan:

Mynegai i gyfrifiad 1881 Cymru a Lloegr (ambell i frych o ran enwau llefydd yng Nghymru).

Yr International Genealogical Index. Sef casgliad o wybodaeth achyddol sy'n gallu bod yn ddefnyddiol neu'n annefnyddiol gan ddibynnu ar eu ffynhonnell. Un o'r pethau sy'n rhaid ei gofio am y ffynhonnell hon yw bod yn well i Formon gwneud camgymeriad a sicrhau mynediad i'r gogoniant i rywun sy ddim yn perthyn iddo, (gan obeithio ei fod yn gywir) na chau aelod o'r teulu allan o ogoniant trwy ddiffyg prawf teg! Ar y cyfan gellir gwahaniaethu rhwng y "siawns" a'r ffynhonnell deg trwy edrych ar y wybodaeth am y casgliad.

Os ydy'r casgliad yn dweud ei fod yn ffrwyth ymchwil unigolyn rhaid ei amau, os ydy o'n dweud ei fod wedi ei gasglu o gofrestrau plwyf ac ati, mae'n weddol ddibynadwy.

Dipyn o hanes gan y Mormoniaid yng Nghymru. Bu ofn yn y 1850 bod y sect am fod yn fwy na'r Methodistiaid! Rhywbeth sydd wedi ei rwbio allan o hanes Cymru ar y cyfan.

Roedd gan Brigam Young (sylfanydd y sect) achau Cymreig - yn wir, mae o'n berthynas bellennig i mi - ond trwy ein hachau Saesnig ysywaeth.

Teulu'r Osmonds (canwyr pop yn y saithdegau) yn Formoniad o Ferthyr Tudful

Martha Hughes Cannon; un o arloeswyr ym myd meddygaeth i fenywod a phlant ac arwrwraig i'r Suffragettes; oedd yr aelod benywaidd gyntaf i'w cael ei hethol i senedd daleithiol yn yr UDA (wedi sefyll fel gwrthwynebydd i'w gŵr). Hogan o Lanrwst a ymfudodd i Utah oherwydd bod ei theulu yn Formoniaid.

Gwerth crybwyll yr Athro Ronald Denis hefyd, athro'r Portiwgaleg ym Mhrifysgol Brigham Young. Mormon o dras Gymreig a dysgodd y Gymraeg er mwyn hel ei achau. A bellach yn dysgu'r Gymraeg yn ei brifysgol. Gwefan difyr iawn ganddo yw:

Welsh Mormon History