Top Tips - Aberystwyth

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan tafod_bach » Sad 20 Awst 2005 9:46 pm

NB: paid a mynd i mecca am goffi! ma nhw'n iwsio lot gormod o lefrith (sy'n rhy boeth), mae'n ddrud, ac *peswch*perchnogionannifyr*peswch*

1. Fwyty - ma harry's yn neis am bryd "sbesial", 'lounge' ne be bynnag dio ar bwys y pier hotel (bwyty lliw oren). dwim yn siwr am y llefydd tsienîz - er mae'n debyg (yn ol y cambrian news) fod yr un off terrace road (gyferbyn yr 'all spice cafe') yn ganolfan gudd ar gyfer grwp smyglo imigrants (a bridio cripi crawlis) tan yn ddiweddar. wir. yr all spice cafe'n iawn am indian, dwnim am y lleill heblaw *thumbs lawr* i agra ar north parade.

(ww, y rheidol cafe yn werth fisit. tro i'r chwith heibio'r weston vaults a weli di'r arwydd. cacs! a pherchnogion doniol a chwyslyd!)

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol - ymm. aber jazz (aber iaazzzz) yn rummers yn cyfri? tony fernando/yr amigos yn scholars ar nosweithiau llun (di hynna'n dal i fynd?) efo gwraig perchennog harry's sy'n rhyw fath o shirley bassey throwback (*champaaaaagne*). mae'n syniad cal gafael ar raglen y drwm (plyg plyg) a chanolfan y celfyddydau. yn anffodus, dwi'n rhy hwyr i dy hysbysu am yr wyl pwns a siwdi ryngwladol oedd ar y prom heddiw. fydd ffleiars am gigs a ballu yn andy's records (neu jyst gofyn i andy. fo oedd y boi moel yn y cwps.)

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio. blaw i fyny/lawr yr arfordir (gwgla wallog), i fyny pen dinas (i.e. y plinth gwag ti'n weld uwchben y dre i'r de), tan y bwlch. fwy 'inland' cwm rheidol, cwm ystwyth, bwlch nant yr arian ymmm - dwi byth yn cofio enwau'r llefydd ma, sori.

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! wyyyy. wedi blino. ym, ceisia osgoi'r castell 'after dark'. neu os ti'n mynnu mynd, cer a jonis er mwyn dyn.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Defi » Sad 20 Awst 2005 9:49 pm

NB: paid a mynd i mecca am goffi! ma nhw'n iwsio lot gormod o lefrith (sy'n rhy boeth), mae'n ddrud, ac *peswch*perchnogionannifyr*peswch*


Beth yw ti'n meddwl wrth hyna te tafod?
:?
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Postiogan Archalen » Sad 20 Awst 2005 11:04 pm

Newydd gofio- Agra am y bwyd Indiaidd gore, yn enwedig eu Chicken Tikka Balti Saag...mmmmm...glafoer...mmmmm...
If they'd've won her, we wouldn't have heard the end of her ar f'enaid i!
Rhithffurf defnyddiwr
Archalen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 381
Ymunwyd: Llun 06 Meh 2005 3:30 pm
Lleoliad: Rhwng dwy stol

Postiogan tafod_bach » Sul 21 Awst 2005 11:25 am

Beth yw ti'n meddwl wrth hyna te tafod?:?

be wedes i! os tisie i fi weud e mewn ffordd fwy blodeuog: "dyw naws y lle ddim yn gyfeillgar iawn, a mae "diffyg ethos tim" y staff yn gwneud i mi deimlo'n annifyr".
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 22 Awst 2005 1:07 pm

Gei di fwyd neis yn y lle tapas sy rownd ar bwys yr Angel. San Miguel ar dap 'na 'fyd. Harry's yn posh a drud fyd(gei di'm plated mowr, ond ffaaaaac ma'n bert). Yn Harry's PAID gofyn am beint o wife-beater yn lle dweud Stella. A PAID gad'el i'r fenyw ganu. Jesus. Ond gad hi fela dy din di. Joies i Little Italy, er bo'r fenyw'n meddwl bod e'n shit. Ma lle tu ol neuadd y farchnad 'fyd sy'n edrych mwy fel siop barbwr o'r tu fas - es i byth, ond odd ffrindie'n hoffi'r steaks 'na. Ma lle posh over-priced wrth y Treehouse fyd. Treehouse yn ffein am bethe iach (a te) (a box hippy).

Chippies - (Earnies wedi cau???) Central odd wrth y garej? Dim pell o'r blac 'fyd - bridgend chips?. Gyferbyn a Downies. Top "Minge Hill" (fel ma bois deliveries yn galw Penglais) - taten rhywbeth. Chips. Chaaaaaaaaps.

Fry up yn ffein gyferbyn a'r train station, caffi morgan, upper limit (gyferbyn hefyd - drutach, ond llai o saim), a'r pubs. Cadw bant o Rheidiol Cafe am yr un rhesymau ma tafod bach yn dweud wrthot am fynd yno. Ges i custard slice da cler am ddim 'na rhyw brynhawn, a gwario rest o'r wythnos yn pisho trw'n din.

Am goffi, cer i siop Mecca (perchennog odd 'da poy-tail), nid y caff (lle ma'i wraig bert), pryn goffi, a cer g'tre. Chepach. Blue Creek, Cabin a Carlton Steak House i ga'l pip ar y bocs (sy fel arfer yn staff!). Cer i'r Penguin i werthin ar hen bobl / ca'l cachad.

Pubs - (B)(Sc)(WWV)(R)ummers (pizza's ffein) pub neis, tr'eni mai mond ar ol 6 ma nhw'n agor a ma'r unig pub "neis" sy ar agor yn hwyr, Shit & Hassle (gwyddelig iawn - ie, 'na ni, smelly), Castle (sgrech flwch), Weston Vaults (barman anabl sexy), Blac (trw'r dydd. Sgrech flwch Cymraeg, da), Angel (nos, yn racs), Scholars, Downies, Pier Hotel (yn enwedig yn prynhawn 'da gwir lenorion/dramodwyr/academics), Vale of Rheidiol (so misunderstood), y Bae (dirty bay), Cwps ...pob pub heblaw am yr hen gapel a'r hen white horse (?) (varsity?). Sick & wrong. A'r Cambrian (gay bass tunes). Ma'r Gogerddan Arms yn Llanbadarn da biwt o Guinness(a bwyd ffein chep).

Adeilad gore Aber yw'r Llyfrgell Gen. Sexy uffernol.

O ran pensaerniaeth (odw, fi'n gay), fi'n hoffi lan top wrth yr Undeb a'r Arse Centre (rownd y bac yn nuts nawr fel te UFO celtaidd wedi glanio 'na) (er bod 'La Scala' neu 'Steps 'an' wedi tynnu'r naws o' 'na) a edrych ar adeilad Llanbadarn ar gampws y coleg o gyfeiriad yr astroturf. Ma'r ddau le 'ma yn edrych yn berffaith ar gyfer ffilm newydd Columbo (a ma ty welwch chi o stepiau'r Llyfrgell Gen os edrychwch draw ar y bryn i'ch dde, sy hefyd yn berffaith i'r olygfa lle mae Columbo yn honni bod ei wraig yn ffan mawr o sioe y gwr (sy'n amlwg yn euog) sy'n cael ei gwestiynnu gan y dictecif bler).

Siop - Siop! Ystwyth Books - fi mo'yn siop fel hyn, Cheap Charlies - fi mo'yn siop fel hyn, Tobacconist gyferbyn a Caffi Morgan (y siop ore'n Aber - good selection o "Mamgu" sweets i'r non-smokers hefyd) fi mo'yn siop fel hyn. Andy's. Siop gerddoriaeth ar bwys Lord Beeching's. Siop y Pethe i ga'l CDs John ac Alun. Cerdd Ystwyth er mwyn pisso'r boi off trw ware pob gitar sy 'na, a mynnu gofyn am bethe anghyfleus i'w hol - "Ma ishe 'ddo fe fod yn ystwyth..." fatty. Newsagents gyferbyn a'r Penguin (sy ddim yn gwerthu lot o born - fi'n gwbo, es i trw' stoc nhw). Newsagents ar bwys yr Angel (top siop porno Aber ers i'r siop fach 'na gyferbyn a'r Spartacus ar Spar bach gau lawr dwy/tair nol). Y caban bach na ar ddiwedd South Rd da hufen ia ffein.

Lle/peth/digwyddiad celfyddydol - wel dim ffacin Aber Jazz By Numbers. Clapo ar ddiwedd ffilm yn y Commodore siwr o fod. Lot o bethe 'mla'n yn yr Arse Centre - lovely place. Marchnad Ffermwyr Ffrengig "so nhw'n golchi'u dwylo 'an." Hippies mas yn y goedwig i'r gogledd o'r dre, rownd Penrhyn Coch ffor' na. Pethe misol "techno"/"reggae" / "drwm a bass" / "ta beth" naill ai'n yr Arse, Dirty Bay, clwb rygbi, clwb peldroed neu yng nghefn yr Angel. Darlithiau agored am bob math o gachu (fi wir yn colli rhain....achos foreigners pert). Football - Aber Town yn shit, ond entertaining. Garantiid o weld Glan Cluste a gweiddi "ffacin mochyn" ato.

Cerdded - ar lwybyr yr arfordir i Glarach a Borth. Cer o gampws y brifysgol (pasa'r sports hall) i Lanbadarn (rhaid mynd trw'r fynwent yn Llanbadarn er mwyn ca'l y Dafydd ap Gwilym experioooooooooooooooooooooonce). Tra'th Tan y bwlch - ma llwybr yn mynd i'r monument mowr 'na - Pen Dinas? - a ma modd cerdded ar hyd yr arfordir lawr i gyfeiriad y de (sai'n siwr pa mor bell).
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Owain » Llun 22 Awst 2005 2:57 pm

1. Fwyty
Digon o ddewis yn Aber. Figaro yn neis iawn a Gannets os ti isho 'pure quantity'. Mae bwyty'r Llyfrgell Gen a Llety'r Parc yn dda os ti isho rhywbeth cyflym. Mandarin di'r Chinese gorau, ond yr un arall ar Pier Street a Seafront Palace yn neis hefyd. Earnie's odd y Chippy gorau, Eastgate fydai'n mynd fwyaf erbyn hyn. Kebabs i gyd yn dda.

2. Caffi
i) ar gyfer coffi - dim o'i le efo Caban. Blue Creek yn dda hefyd.
ii) ar gyfer ffrei-yp - heb gael lot o rhain yn Aber, ond dwi'n meddwl mae Caffi Morgan di'r lle gorau.

3. Siop - Cafe Society a First Base o ran dillad. Andy's Records efo cerddoriaeth. Popeth arall, wel Charlie's de!!

4. Dafarn - Fel ma I.N.G. yn deud, ma'r rhan fwyaf yn dda. Dwi'n licio Ship 'n Castle, Downies(i watcho ffwti), Scholars, Glen(os di'n braf), a Cwps wrth gwrs(heblaw am y mwg). Ma Blac yn iawn yn ystod y gwyliau.

5. Adeilad - Llyfrgell Gen mae'n siwr. Dwi'n eithaf licio'r castell hefyd.

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol - Naws yn y Cwps nos Wener cyntaf pob mis. Ffilmiau yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ambell i arddangosfa dda yn dod i'r Llyfrgell Gen hefyd. Pictiwrs yn y Pyb yn fuan iawn gobeithio :winc:

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio - Digon o le i amrywio routes rhedeg. Cerdded y prom a fyny Consti wastad yn braf.

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! - Gemau ffwti Aberystwyth ar nos Wener.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan S.W. » Maw 23 Awst 2005 2:06 pm

1. Fwyty

Le Figaro os ti'n licio stecs - drud! Pin on the Ear os ti'n hoffi istedd lawr efo Peint o Carlsberg Export i fwyta pizza a os ti'n folgi fel fi a mae'r syniad o prynnu 1 pitsa a cael 1 arall am £1 yn apelio

2. Caffi
i) ar gyfer coffi;

dim syniad

ii) ar gyfer ffrei-yp

Upper Limits

3. Siop

inc yn ok, dwim yn licio siops

4. Dafarn

Pob un heblaw am - Rummers diwedd noson - brojgn ddiawledig, gormod o ddarlithwyr ar y pull a stiwdants post grad isio bod yn best mates efo darlithydd nhw, Western Vaults

5. Adeilad

Neuadd Alexander yn pell pella'r 'ffrynt'

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol

Dwim digon gelfyddydol

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio

Dwim yn rhedeg, na beicio pan yn Aber. Cerdded dim ond os oes na bwynt iddo fo = tafarn ar y pen arall!

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi!

sori dim byd
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan khmer hun » Maw 23 Awst 2005 4:46 pm

S.W. a ddywedodd:Pob un heblaw am - Rummers diwedd noson - brojgn ddiawledig,


Nawr, fi di trio 'ngore glas i ddyfalu ystyr y gair 'ma. Swno’n Swedish. Brojgn iawn a’i fabwysiadu fel gair newydd. Mm.


Mae pawb eisoes wedi nomineiddio (!)’r llefydd fi'n lyco ond whatthaheck...

Hoff:
1) Fwyty - Caffi Mogs. Traddodiad. Biti bo Haydn ‘di mynd ond fylna ma bywyd. Caffi Italian (Express) dros ffor' i'r stesion. Ordra dy goffi yn Eidaleg (os na ti'n gallu gofyn wrtho fe dy ddysgu). Fan'na flases i'r lasagne cartre’ cynta'r rioed, un Eidalaidd go iawn, ond siwr bod y Mama wedi hen fynd 'byn hyn. Y Cabin i syllu at feiri ifanc, byffs llyfrgell, pseuds a golygyddion y dre’ a neud nhw’n paranoid. Lle byta bach ’itha ar y gornel uwchben clwb ym, hen Porky’s/K2 neu rywbeth wrth y cloc. A'r Brasserie lan top y Pier i wylio'r drudwns. O ran pub grub – waeth ti ddreifo 'da help Geraint Gyrru i Talbot Tregaron am chenj. Cawl neis 'na yn ol y cigfwytäwyr creulon.

2. Caffi
i) ar gyfer coffi;
ii) ar gyfer ffrei-yp

Sai rili’n mynd am fry-ups. Ond odi'r trucker caff na'n stad ddiwydiannol Llanbadarn dal ar agor? Lle da, rhad flynydde'n ol.

3. Siop – caru pori’n Ottakars. Mae Galloway’s wedi hen fynd, dyw e? A Lettuce and Melbury. Woolies. Monsoooon. Siop wlân. Siop trinkets trendi Canolfan y Clefydau. Polly’s. Charlie’s. A’n hoff le - Furniture Cave i lawr Cambrian St – siwr bydde ti Rhodri’n dwli ar y lle.

4. Dafarn – Scholars ma’n siwr. Cwps yn rhoi cabin fever i fi, er mai fyn’na fi’n lando fwya’. Angel am bo fi’n nabod y bownsers. Rummers achos fi’n lyco neud torth o’n hun yn haslo Saeson bach neis, iste wrth y bar sy’n beth cheap i 'neud unrhyw le arall, cwmpo lawr y grisie cerrig, danso ’da diethriaid a yfed sloe gin. Mill am beinten da Penglasiers a ’neud nhw deimlo’n bad am golli’u hiaith (fi ddim, rili). Byth y Blac, mond os bydd raid i haslo 18 year olds Cymraeg a chael fix o Datblygu.

5. Adeilad – dan y bandstand am smoc. Hen ysgol Penweddig. Arts Centre. Sinema’r hen DM Davies.

6. Lle/peth/digwyddiad celfyddydol – wel, aethon nhw â’r Wyl Ffilmie o ’na’n do fe, Rhods?! Alli di ddim ei ddenu’n ôl neu ddechre Gwyl Pictiwrs? Celf neis yn yr amgueddfa Ceredigion weithie, a chwmni newydd Aberystwyth print-makers yn dangos dipyn o gwmpas. Oriel y Bont yn Bridge St yn dangos llunie neis clichéd drud a derivative o Gymru gan Aneurin Jones, Gareth Parry a’r rhein. Cer i nabod Ruth Jen yn lle a mynd draw i’w gweithdy hi.

7. Llwybrau cerdded/rhedeg/beicio – Y prom. Llwybre beics i bobol ffit a ddim-cweit-mor-ffit yn Nant yr Arian. Cer lan Pumlumon pan dyw hi ddim yn oer, cer i chwilio a chwalu rownd yr Hafod, arwydda lyfr Capel Soar y Mynydd, ac eistedd dan yr ywen yn Ystrad Fflur. Ond fi ‘di mynd bach yn bell o Aber.

8. Unrhyw beth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi!
Bydd rhaid fi ddod adre rywbryd i ddangos i ti...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan krustysnaks » Maw 23 Awst 2005 7:31 pm

khmer hun a ddywedodd:Hoff:
1) Fwyty - Lle byta bach ’itha ar y gornel uwchben clwb ym, hen Porky’s/K2 neu rywbeth wrth y cloc.


Dyma safle salon 4 llawr Richard Lloyd erbyn hyn.

khmer hun a ddywedodd:2. Caffi
i) ar gyfer coffi;
ii) ar gyfer ffrei-yp

Sai rili’n mynd am fry-ups. Ond odi'r trucker caff na'n stad ddiwydiannol Llanbadarn dal ar agor? Lle da, rhad flynydde'n ol.


Shot! Mae fan yma'n wych am fry-up.

khmer hun a ddywedodd:3. Siop – Mae Galloway’s wedi hen fynd, dyw e?


Galloway's dal yno ac yn dal i werthu llyfrau da yn rhad ac ysgrifbinau drud a moethus.

khmer hun a ddywedodd:5. Adeilad – Hen ysgol Penweddig.


Cer yno'n ystod y nos. Ar dy ben dy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Aberystwyth

Postiogan Defi » Maw 23 Awst 2005 8:17 pm

Tad fi'n cofio Galloways pan oedd fe'n myfyriwr yn Aber sbel mawr yn ol. ond nid fel mae y siop heddiw. Cymry Cymraeg oedd yno sprytyny a lot mowr o bargains i gael yno, specially llyfrau Cymraeg. Aeth fi a fe a mam yna dau blwyddyn yn ol a dad yn gweud fod y lle yn gwahanol iawn. Llawn llyfrau Saesneg a dim bargains Cymraeg.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai