Tudalen 1 o 4

Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 4:44 pm
gan Rhodri Nwdls
Dwi newydd symud i Aber. Dwi'n joio ond dwi braidd ar goll heb Gorge With George, NY Deli, Albany Fish Bar, UGC, y Tut, yr Albany, a'r Hawardian Club.

Dwisio eich help chi frodorion a chyn-frodorion Aber i roi fi ar ben ffordd at ddod i nabod y lle, a'i gyfrinachau bach danteithus.

Lle di'ch hoff:

1. Fwyty
2. Caffi
i) ar gyfer coffi;
ii) ar gyfer ffrei-yp
3. Siop
4. Dafarn
5. Adeilad
6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio
8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi!

Sdim rhaid i chi ateb nhw gyd, deu' gwir sdim raid i neb atab nhw o gwbl, ond bydd unrhywbeth yn help. Galwch o'n ryff geid reit ryff rownd yr ochra.

Nais won chafis. Hwre 'wan.

R

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 5:06 pm
gan Mr Gasyth
Lle di'ch hoff:

1. Fwyty - Inn on the Pier, neu Brasserie uwchben
2. Caffi
i) ar gyfer coffi; erm, dwi'm yn mynd allan i yfed coffi fel arfer
ii) ar gyfer ffrei-yp:Upper Limits
3. Siop: Ottakas
4. Dafarn: Llew, Rummers, Angel, Ship and Castle, Castell
5. Adeilad: Y Castell
6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol: Naws, nos wener cynta bob mis, Y Cwps
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio: ma na lwybr beicioyn mynd o'r clwb pel droed ar hyd yr afon ifyny i Bontarfynach. Ma ne dro braf i'w chael drwy'r parc hefyd.
8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! Ma nhw'n gwerthu Leffe yn Weatherspoons, a dio heb ei 'watro lawr' chwaith.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 5:06 pm
gan Dias
Chippie - Dolffin (arfer bod yn Earnies ond ma fe wedi cau).
Pyb - Downies, Blac, Rummers.
Caffi - Cabin, o ran fry ups Upper Limit - lle bach yn scymi ddo...

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 7:40 pm
gan Manag Werdd
Lle di'ch hoff:

1. Fwyty - Hollywood Pizza - ac yndi, mae o yn cyfri fatha bwyty, achos ma na gadeiria yna! :-p
3. Siop - Spar 24 Awr mashwr, hwna di'r unig siop fydda i angan yn Aber!
4. Dafarn - Llew Du - nabod pawb yna, lot o adranna gwahanol os tisho crwydro i weld pwy arall sy na, jysd superb o le!

Sori, ddim lot o amrywiaeth fama - dio'n amlwg bod fi'n stiwdant? :?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 8:44 pm
gan fela mae
1. Bwyty - Ffigaro

[b]2. Caffi
- Penwgin

i) ar gyfer coffi;Meca -

ii) ar gyfer ffrei-yp - Morgan's cafe - siarad Cymraeg yno !

3. Siop Cafe Society a Siop y Pethe !

4. Dafarn Cambiran, Harleys. Llew, Rummers


5. Adeilad
Canolfan y Celfyddydau

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol

Arad Goch - dramau o safon yno yn achlysurol

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio

Dros Consti i Clarach yna mlaen i Borth

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! [/b]

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 3:39 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Wel, mae blwyddyn a hanner wedi mynd heibio ers i mi adael y dref yn swyddogol (er i mi fod yno yn answyddogol am fisoedd wedyn); ond mae fy nghysylltiadau â'r lle dal yn gymharol gryf. Felly:

1. Bwyty - Harry's
2. Caffi i) ar gyfer coffi - Mecca ii) ar gyfer ffrei-yp - ddim yn siwr be ydi enw'r lle, ond hen safle bwyty casablanca
3. Siop - Spar
4. Tafarn - Roeddwn i'n arfer byw yn fflat y cwps, a gall fano fod yn wych ar brydiau; Llew; Rummers; yr Angel
5. Adeilad - Y Llyfrgell Genedlaethol
6. Lle/peth/digwyddiad celfyddydol - Lansiadau llyfrau - digwydd yn aml (digon o ddiod am ddim)
7. Llwybrau cerdded/rhedeg/beicio - Nes i ddim gwneud lot o hyn! - Ond mae gen i gof mynd fyny craig y glais a heibio i Clarach - roedd yn daith oce, a digon o wynt y mor.

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 4:09 pm
gan Archalen
1. Bwyty
Harry's heb os, neu os am fynd yn Uber posh, y Conrah Hotel

2. Caffi
i) ar gyfer coffi; Yr Orendy neu y Blue Creek
ii) ar gyfer ffrei-yp Caffi Morgan

3. Siop
Siop y Pethe wrth gwrs

4. Dafarn
Y Llew Du (neu'r Black i ni'r locals), a Rummers diwedd noson neu os ti'n hoff o Jazz

Paid bradychu busnesau lleol a mynd am yr opsiwn rhad yn yr Orsaf :drwg:

5. Adeilad
Yr Hen Goleg..hefyd, pan ti'n cerdded o amgylch y dref, yn enwedig lawr Great Darkgate St (y brif Stryd), cofia edrych fynny- ma top pob adeilad yn neis iawn.

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol
Marchnad Ffermwyr
sioe Amathyddol Aberystwyth
Castell Roc
Y castell ei hun
Amgueddfa 'Aberystwyth Yesterday'

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio
Lan Pen Dinas, neu cerdded lan Constitution Hill tuag at Clarach

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi!
Cer i wylio ffilm sy'n para tua 3 awr yn y Commodore- profiad a hanner!

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 5:56 pm
gan tafod_bach
1. Fwyty -

2. Caffi -
i) ar gyfer coffi - y coffee pot drws nesa i andy's records wastad yn hwyl, ac y chep. y cabin wrth gwrs. mae ultracomida (aka al qaeda) ar stryd y bont a blue creek (rownd cefn yr academy yn yr un cyfeiriad-drws nesa i ystwyth books *thumbs up* ac wrth neuadd y farchnad *sort of thumbs up*) yn gneud bwyd neis (deli-ish, drud-ish). y pengwin os ti angen piss gan nad oes toilets yn y cabin. hefyd y carlton steak house fyny grisia uwch ben superdrug yn ystod y dydd, i gael sbecian ar bobl.
ii) ar gyfer ffrei-yp - ia, caffi morgan neu'r upper limit.

3. Siop - andy's, siop lyfrau oxfam, ystwyth books, the works (ar gyfer teitlau straight-to-dvd kung fu prin am 99p, yoga manuals, ac offerynnau cerdd weithiau.) yr amusements ar y pier, y siop bunt gyferbyn columbine flowers, y treehouse (sort of. bara neis), woolies, mona lisa (ond mae'n ddrud, ac yn weird), yr art shop (ditto.), galloways. biti garw fod jads wedi cau (a subway wedi agor yn ei le). roedd y lle fel PALAS. o, ac ambassadors werth un fisit clou.

4. Dafarn - ship and castle, rummers (rummers, RUMMERS!), y castle hotel, downey's vaults, cwps weithie, scholars, yr angel, y bae (os ti'n hammered yn barod ond ddim digon hammered i fynd i'r pier), y pier. basically *unrhywle* blaw vale of rheidol, weston vaults, cambrian (heblaw bo ti'n hoffi coctels), kane's, y fountain, ymmmm. wedai beth. nai ddangos i ti wthnos nesa.

5. Adeilad (i.e. llefydd i fynd sy'n neis?) - y coliseum (amgueddfa/hen sinema uwchben y swyddfa dwristiwaeth), llyfrgell genedlaethol (rili. mae'n braf 'na), canolfan y celfyddydau (rioed di bod i'r undeb, for my sins), campfa'r brifysgol,

*ALERT* swper yn barod. 5.5, 6, 7 ac 8 nes ymlaen.

6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol

7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi!

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 7:20 pm
gan krustysnaks
1. Bwyty: Harry's ydy'r neisaf yn y dre. Mae na rai eraill decent fel Figaro a'r Eidal Fach a lot o fwytai Indiaidd dwi byth yn mynd iddyn nhw.

2. Caffi - i) ar gyfer coffi: Mae'r Penguin, sydd ar dop Pier Street, yn eitha neis i jyst cal rôl a phaned ond mae'n dueddol o fod yn llawn staff o'r Hen Goleg a twrists yn ystod yr haf. Mae'r Caban yn olreit, os wyt ti'n hoffi mygu ac os wyt ti'n darllen y Guardian. Fy hoff le i i fynd ydy MG's - bwyd syml da, pobl neis, awyrgylch glos.

ii) ar gyfer ffrei-yp: Upper Limit.

3. Siop: Dyma fan gwannaf Aberystwyth. Tra bo'r dref yn gallu cynnal tua 20 salon torri gwallt, does na ddim hanner digon o siopau da yn y dre. Siop Inc, sy'n ymyl Ystwyth Books a Caffi Blue Creek Cafe, ydy'r siop Gymraeg orau'n y dre.

4. Tafarn: Rummers, Scholars, Cwps, Ship and Castle am ddrink tawel, Kane's ar gyfer gêm tawel o p?l.

5. Adeilad: Canolfan y Celfyddydau. Mae'r hen ddarnau, cyn iddyn nhw ychwanegu'r crap a cluttero'r lle'n ofnadwy, yn stunning - llinellau ac onglau diddorol ym mhobman. Dydy'r lle ddim yn eich taro chi'n yr un ffordd y dyddiau yma ond os wyt ti'n edrych digon cael, fe weli di bensaerniaeth wych mewn ffordd clinical.

6. Lle/peth/digwyddiad celfyddydol: Rhaglen y Drwm, blockbusters ( :rolio: ) yn y Commodore, gigs Naws, jazz yn Rummers, pyb quizzes amrywiol.

7. Llwybrau cerdded/rhedeg/beicio: Mae'r daith dros Consti i Glarach (a'r holl ffordd i'r Borth os wyt ti'n teimlo'n egniol!) yn gallu bod yn odidog. Mae na lwybr beics yn rhedeg trwy Barc y Llyn o Goedlan y Parc sy'n arwain at Gaeau Blaendolau os wyt ti'n ffansio rhedeg o'u hamgylch. Mae'r daith o Draeth y De i ben Consti yn llawer pellach na mae'n edrych gyda llaw. Gall gerdded o un ben yr Avenue i'r llall fod yn eitha neis.

8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! Mae'n werth mynd i'r Castell, i draeth Tanybwlch i weld yr haul yn machlud gyda bag o chips, i'r creigiau yng Nghlarach (out of season), am dro yn Ynyslas, dysgu enwau'r strydoedd a mynd am dro o amgylch y strydoedd cul yn top y dre.

Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 9:41 pm
gan Defi
Oedd chwaer fi yn myfyriwr yn Aberystwyth, a oedd fi yn mynd i gweld hi dros rhai weekends. Bues fi yn y Coleg ar bwys y mor, a oedd yn adeilad fantastic, fel rywbeth mas o llyfr ffantasi. Ond surprise fwyaf fi oedd mynd i'r Lyfrgell Cenedlaethol gyda trip o'r ysgol blynyddau yn ol a gweld yr adeilad fwyaf yn Nhgymru. A fe'n llawn o llyfrau a pethe a lot o weirdos sydd yn gwybod bopeth am Cymru yn gweitho yna.
:ofn:

Fe ceson ni bwyd yno ed, a oedd y restaurant yn un dda iawn.
:)