Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 10:29 am
gan Owain
khmer hun a ddywedodd:4. Dafarn – .......Mill am beinten da Penglasiers a ’neud nhw deimlo’n bad am golli’u hiaith (fi ddim, rili).


Nes i anghofio am y Mill, tafarn fach fendigedig....ydw i'n iawn i ddeud bod i yn y 'Good Pub Guide'?

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 8:43 am
gan Rhodri Nwdls
Rargol! Diolch am hyn - digon o sdwff fan'na i gadw fi fynd am fisoedd.

Ma maes-e jest yn blydi gret weithia tydi, fatha cael Hitchhiker's Guide Cymraeg! Canllaw Ffawdheglwyr Cymru...ddim cweit efo'r un ring rwsut nacdi. Fasa 'di cymryd blynyddoed o treial and eryr i ffeindio'r sdwff ma allan (dwi di bod i un chippy doji ar y diawl yn barod...)

Welai chi gwmpas bobols...

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 12:32 pm
gan S.W.
khmer hun a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Pob un heblaw am - Rummers diwedd noson - brojgn ddiawledig,


Nawr, fi di trio 'ngore glas i ddyfalu ystyr y gair 'ma. Swno’n Swedish. Brojgn iawn a’i fabwysiadu fel gair newydd. Mm.



Wps BORING oeddwn in trio'i deipio :? :wps: :? :wps: :? :wps: :? :wps: - dyna dwin gael am teipio rhywbeth yn ddiawl o sydyn ar y slei tra roeddwn i fod yn neud gwaith !

Dwin un da am encryptio negeseuon trwy typos ddiawledig

....a ma sillfau fi'n uffernol beth bynnag.

Da byddai llwytho 'cysgair' ar maes-e i bobl fel fi!

:wps:

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Iau 01 Medi 2005 4:58 pm
gan Gorwel Roberts
1. Fwyty - Cafe All Spice
2. Caffi
i) ar gyfer coffi - Blue Creek
ii) ar gyfer ffrei-yp - Caffi Morgan
3. Siop - Co-op y Waun
4. Dafarn - Y Cwps wrth gwrs, Ship & Castle, Rummers
5. Adeilad - Llyfrgell Gen
6. Le/peth/digwyddiad celfyddydol - Canolfan y Celfyddydau'n neud bwyd neis a rhad, sinema neis yno hefyd
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio - Pen Dinas, Traeth Tan y Bwlch
8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! - Y Prom!




R[/quote]

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Iau 01 Medi 2005 7:58 pm
gan sian
Gorwel Roberts a ddywedodd:1. Fwyty - Cafe All Spice
Lle mae hwn? Pa fath o fwyd?
Gorwel Roberts a ddywedodd:2. Caffi
i) ar gyfer coffi - Blue Creek
Lle mae hwn? Pa fath o fwyd?
Gorwel Roberts a ddywedodd: ii) ar gyfer ffrei-yp - Caffi Morgan
Rhai pethe byth yn newid :lol:
Gorwel Roberts a ddywedodd:8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! - Y Prom!
Ie, hyfryd, ges i panini hyfryd 'na amser cinio dydd Mawrth o'r stondin bach awyr agored 'na ac roedd y môr yn las, las a thipyn go lew o Gymry o gwmpas.
Hyfryd, hyfryd. Falle wna i ymddeol i Aber. :lol:

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 9:24 am
gan joni
Allai'm ychwanegu llawer yn fwy na ma pawb arall di sgwennu (ma ryff guide ING yn spot on) ond wnai jyst dweud hyn...
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio
Ma na parc jyst gyferbyn a'r cwps sy'n cynnig llwybrau cerdded digon braf lan heibio'r cwrs golff ac i dop consti. Neis iawn yn yr Hydref.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 9:32 am
gan Mr Groovy
6. Le/peth/digwyddiad
Cofia am y farchnad ffermwyr - ma'n digwydd fory, pob yn ail ddydd Sadwrn tan 'rhydref, ac unwaith y mis drwy'r gaeaf.
Gwd styff.

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 9:32 am
gan Mr Gasyth
joni a ddywedodd:Allai'm ychwanegu llawer yn fwy na ma pawb arall di sgwennu (ma ryff guide ING yn spot on) ond wnai jyst dweud hyn...
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio
Ma na parc jyst gyferbyn a'r cwps sy'n cynnig llwybrau cerdded digon braf lan heibio'r cwrs golff ac i dop consti. Neis iawn yn yr Hydref.


Parc gyferbyn a'r Cwps, eh?

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 9:38 am
gan Twyllwr Rhinweddol
Mr Gasyth a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Allai'm ychwanegu llawer yn fwy na ma pawb arall di sgwennu (ma ryff guide ING yn spot on) ond wnai jyst dweud hyn...
7. Lwybrau cerdded/rhedeg/beicio
Ma na parc jyst gyferbyn a'r cwps sy'n cynnig llwybrau cerdded digon braf lan heibio'r cwrs golff ac i dop consti. Neis iawn yn yr Hydref.


Parc gyferbyn a'r Cwps, eh?


Fel ti'n troi i mewn i Ffordd y Gogledd ia? Cofio mynd am dro ffor'na efo trigolion fflat y Cwps sdalwm... heb sgidia... im yn syniad da...

Re: Top Tips - Aberystwyth

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 9:43 am
gan joni
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Fel ti'n troi i mewn i Ffordd y Gogledd ia? Cofio mynd am dro ffor'na efo trigolion fflat y Cwps sdalwm... heb sgidia... im yn syniad da...

Dyna'r boi. Neis iawn pan ma'r dail yn cwmpo.