Tudalen 1 o 1

Amgueddfa'r Glannau Abertawe

PostioPostiwyd: Llun 07 Tach 2005 8:03 pm
gan Emrys Weil
Unrhyw un wedi bod i weld hon eto? Rhyfeddod o le. Arddangosfeydd diddorol yn llawn gwybodaeth, ac mae peth o'r stwff rhyngweithiol (ee yr adran sy'n son am y cyfrifiad yn Abertawe yn y 19eg ganrif) yn gyfareddol.

PostioPostiwyd: Llun 07 Tach 2005 8:25 pm
gan sian
Heb fod yn Abertawe ers BLYNYDDOEDD!
Rhaid galw heibio i'r Amgueddfa pan ddaw'r Steddfod.

PostioPostiwyd: Maw 08 Tach 2005 1:17 pm
gan sian
Yn rhyfedd iawn, mae 'mrawd newydd ffonio i ddweud ei fod wedi cael gwaith glanhau yno.

Felly os byddwch yn mynd i'r Amgueddfa, cofiwch sychu eich traed yn dda ar y ffordd i mewn, peidiwch

PostioPostiwyd: Llun 18 Rhag 2006 5:01 pm
gan Dili Minllyn
Bues i yno ddydd Sul gyda'r meibion. Lle difyr, er bod 'mhlant i dipyn bach yn rhy ifanc i'w lawn werthfawrogi.

Mae'r caffi yn dda, hefyd: mi gesi botelaid o Gwrw Haf Tomos Watkin efo platiad o stroganoff madarch ffres.

Hyd y gwela' i, prinder peiriannau mawr y gallwch chi ddringo arnyn nhw yw unig wendid amlwg y lle.