Tudalen 1 o 4

Coeden Nadolig ..un iawn neu un ffug?

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:05 pm
gan Mali
Mae'r coed Nadolig wedi cyrraedd ein siopau yr wythnos yma , ond mae'r rhai ffug yn edrych yn ddel iawn hefyd .
Heb brynu un eto , ond mae'n debyg mai un iawn y cawn ni unwaith eto eleni.
Mae eu prisiau yn dal yn dda yma, os da chi'n gwybod lle i edrych ...tua $22 , sef tua deg punt am goeden chwe troedfedd.

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:10 pm
gan Llopan
O diar...pwnc sensitif yn ein teulu ni! Yn enwedig pan chi'n gweld eich rhieni'n cario coeden fel dau gorach trwy'r pentref! O, y gwarth! :wps:

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:15 pm
gan Wierdo
Iawn bob tro! Os nad dio'n ddigon fopd rhai ffec yn shit, ma rhai go uiawn yn hogla yn lyfli!

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:32 pm
gan Ari Brenin Cymru
Un ffug, ma rhei iawn yn neud uffar o fes yn stafall ffrynt.

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:34 pm
gan Al
Wierdo a ddywedodd:Iawn bob tro! Os nad dio'n ddigon fopd rhai ffec yn shit, ma rhai go uiawn yn hogla yn lyfli!


Ia, be ddwedodd y Alcaholic

:winc:

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 10:36 pm
gan Wierdo
mi wn fy mod yhn feddw, ond mae fy marn yn gywir bob tro. so der.

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 11:37 pm
gan Tegwared ap Seion
y ddwy! 8)

PostioPostiwyd: Mer 07 Rhag 2005 11:52 pm
gan Wierdo
Wel ma huna jesd yn farusd :winc:

PostioPostiwyd: Iau 08 Rhag 2005 12:20 am
gan Mali
Llopan a ddywedodd:O diar...pwnc sensitif yn ein teulu ni! Yn enwedig pan chi'n gweld eich rhieni'n cario coeden fel dau gorach trwy'r pentref! O, y gwarth! :wps:


:lol:
Ia dipyn o straffagl ydio hefyd .....pam wnei di ddim 'i helpu nhw?

PostioPostiwyd: Iau 08 Rhag 2005 12:20 am
gan Macsen
Mae'n bosib cael un go iawn sydd ddim yn gollwng pins dyddiau 'ma.

Wnes i roi fy un fi i fyny dydd llun yn gynhyrfus fel arfer, a wedyn sefyll yn ol i werthfawrogi y goeden nadolig hyfryd yn fy ystafell fyw. Ond wedyn meddwl, "Blydi hel mae hyn yn uffar o beth rhyfedd, codi coeden yn fy ystafell fyw. Petai fi'n symud y dodrefn i gyd i'r ardd bysai pobl yn meddwl mod i'n wallgo."

Syniad pwy oedd y hurtni 'ma? :?

Dwi'n beio Wierdo!