Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Gwe 16 Rhag 2005 12:53 am
gan Mali
Miw a ddywedodd:Wyt ti'n gwerthu dy luniau ta 'dyn nhw jysd yn hobi?


Wel, efo camera Kodak Easyshare 2megapixels :wps: , mae'n rhaid i mi fodloni ar iddo fod yn hobi :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 6:12 pm
gan Mali
Ocê, wedi penderfynu mynd am un ffug eleni .... neis iawn hefyd. 8)
Ond dwi ddim yn rhy cîn ar y gair ffug chwaith . :?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 8:21 pm
gan sian
Mali a ddywedodd:Ond dwi ddim yn rhy cîn ar y gair ffug chwaith . :?


Beth am ddweud "un sy'n para byth" 'te?
Oedd 'na sôn ar y radio am ryw fenyw tua Castell-nedd neu rywle sy'n defnyddio'r un un ers 63 o flynyddoedd!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 9:25 pm
gan Bendigeidfran
Macsen a ddywedodd:
Syniad pwy oedd y hurtni 'ma? :?



O'r Almaen ddaeth y syniad gyda Albert, gwr Victoria brenhines Lloegr, yn 1841 hyd y gwn i. Ond er gwaetha hynny, un go iawn i mi bob tro, mewn pot hefo gwreiddia, sy'n ddigon hapus allan yn yr ardd weddill y flwyddyn.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 9:46 pm
gan sian
Bendigeidfran a ddywedodd:un go iawn i mi bob tro, mewn pot hefo gwreiddia, sy'n ddigon hapus allan yn yr ardd weddill y flwyddyn.


Yr un un ti'n ddefnyddio bob blwyddyn?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 9:59 pm
gan Bendigeidfran
Yr un un ti'n ddefnyddio bob blwyddyn?[/quote]

Ia, defnyddio'r un goeden ers rhyw ddeng mlynedd - tua troedfedd oedd hi i gychwyn ond mae tua chwe throedfedd erbyn hyn - blwyddyn neu ddwy arall a mi fydd yn rhy fawr i ddod i'r ty - mi geith ei rhyddhau yn y gwyllt wedyn a mi wna i achub un bach arall o ryw siop DIY erchyll!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 10:08 pm
gan sian
Bendigeidfran a ddywedodd: mi geith ei rhyddhau yn y gwyllt wedyn a mi wna i achub un bach arall o ryw siop DIY erchyll!


Da!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 10:39 pm
gan Mali
sian a ddywedodd:Oedd 'na sôn ar y radio am ryw fenyw tua Castell-nedd neu rywle sy'n defnyddio'r un un ers 63 o flynyddoedd!


Chwarae teg iddi! Mae hi wedi safio dipyn o brês . :D

PostioPostiwyd: Gwe 08 Rhag 2006 10:52 pm
gan 7ennyn
Dwi dal i gael nydwyddau pin yn sdicio fewn i draed fy sannau yn nhy Dad a Mam - er nad oes yna goeden 'dolig iawn wedi bod yno ers 15 mlynedd! Ond mae yna ogla da arnyn nhw sydd yn fy atgoffa o nadoligoedd fy mhlentyndod.


Ond blydi lol ydi dolig eniwe!