'Dolig 'Schmolig

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Iesu-ar-acid » Mer 21 Rhag 2005 9:56 pm

Nes i just geirio fe'n wael tro gynta, ma'r ffaith dal yn wir a chi really methu denyo fe hyd yn oed os chi'n cristion. HBK lle wyt ti'n dod o? Odd gwersu addysg grefyddol ni yn bach o 'yawnfest' achos odd y dosbarth yn fwy scientifically minded.....falle bod ardaloedd arall yng Nghymru'n fwy crefyddol.

HBK25 a ddywedodd:Mae crefydd yn "brainwashing" o'r fath orau/gwaethaf i geisio atal pobl rhag y ffaith fod ddim byd ar ol i farw. Dyna pam dwi ddim yn rhy oddefgar tuag y bobl syd yn cwyno bod gwir neges 'Dolig wedi diflanu. Boo freakin' hoo.


Fi'n cytuno'n llwyr. Ma fe'n real scandal fod athrawon yn cael son am crefydd o gwbwl, achos odd llawer o'r athrawon hyn (yn yr ysgol gynradd yn enwedig) yn manteisio ar eu statws fel rhywun 'doeth' i trial gwthio gyd o'r stwff na arnom. Roedd un athrawes yn pregethu at y dosbarth o hyd, ac yn enwi'r plant oedd yn mynd i capel fel y plant "da" a sut dyle'r atheists bach drwg dilyn eu esiampl. Thank God (heheh methu resisto) nes i llwyddo tyfu lan heb gadael y brainwashing 'na effeithio fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu-ar-acid
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 6:11 pm

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 22 Rhag 2005 9:36 pm

Manon a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae hyn yn fy ngwylltio i'n gacwn - sut gall genedigaeth y Gwaredwr olygu y dylen ni dderbyn pobol sydd yn ei wrthod o? :?
Felly be' wyt ti'n ei gynnig? Na ddylai cristnogion dderbyn crefyddau arall?
Ia, yn union. Mae hynna yn sylfaenol i gred y Cristion - mae Iesu'n dweud:
"Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof i."
Mae o'n beth eitha sarhaus i bob crefydd i ddweud y dylen ni dderbyn bod pob un yn gywir ac yn arwain at Dduw gan eu bod nhw yn eu gwrthod ei gilydd - mae Islam yn gwrthod Crist fel mae Cristnogaeth yn dweud mai'r unig ffordd at Dduw ydi Iesu Grist.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Cwlcymro » Gwe 23 Rhag 2005 4:04 pm

Dwi wrth y modd efo dolig, dwnim bedio, cymysgfa o'r trimings, y partis, yr anrhegion, sion corn, y bwyd, y teulu, y traddodiada teuleuol, y caneuon a'r ffilms gachu etc etc. Dwi'n gwbo fod Dolig yn lot o betha gwahanol i lot o bobl gwahanol, ond i fi dydi Iesu, Mair, Joseph, Bethlehem, bugeiliaid, seren na'r un gwr doeth yn dod yn agos i'n meddwl i dros y Dolig. I fi dydi Dolig ddim byd i'w wneud efo Cristnogaeth.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan HBK25 » Sad 24 Rhag 2005 10:34 pm

Gwyrthiol! Dwi'n teimlo'n hollol nadoligaidd rwan! :D :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai