Faswn i byth yn medru diflasu efo'r Nadolig. Ydi siwr, mae o'n adeg i deuluoedd a ffrindiau ddod at eu gilydd a chael amser da , a dwi'n mwynhau hynny .
Ond mae'n hawdd anghofio gwir ystyr y Nadolig wrth wylio'r hysbysebion bondigrybwyll ar y teledu ac yn ein siopau. Mae mynd i wasanaeth neu gyngerdd Nadolig ,a gwrando ar garolau hen a newydd yn golygu mwy i mi na'r holl wario.