Five Star Photos - wedi cau

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Five Star Photos - wedi cau

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 20 Rhag 2005 10:09 am

Nes i basio heibio echddoe a sylwi bod y siop ffotograffiaeth Five Star Photos wedi cau lawr. Siop fach wych oedd yn datblygu lluniau yn rhad iawn. O nhw hefyd yn gallu croesbrosesi ffilmiau. Odd y boi oedd yn rhedeg y lle wastad yn gyfeillgar ac yn barod i rhoi cymorth.

Dwi ddim ishe mynd a'n ffilms i Boots neu ffycin Jessops!

Gyted.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 20 Rhag 2005 12:21 pm

A'i hwnna sydd wrth y arosfa fysiau a'r Happy Gathering ? Aml iawn oedd yn cerdded pasio y siop, heb fod yn sicr pa fath o siop roedd o. :rolio:

Dwi'n gobeithio na fyddem yn cael siop elusen yn ei le, mae angen un arall yn Nhreganna fel twll yn pen.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 20 Rhag 2005 12:32 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:A'i hwnna sydd wrth y arosfa fysiau a'r Happy Gathering ? Aml iawn oedd yn cerdded pasio y siop, heb fod yn sicr pa fath o siop roedd o. :rolio:

Dwi'n gobeithio na fyddem yn cael siop elusen yn ei le, mae angen un arall yn Nhreganna fel twll yn pen.


Na Popes yw hwnna - lle gwych, siop gamerau a projectors hollol hen yskol.
Busnes teuluol ers dros saithdeg mlynedd. Ma hwn hefyd yn cau lawr. Trist iawn.

Dwi'n beio camerau digidol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan blanced_oren » Maw 20 Rhag 2005 5:34 pm

A gweud y gwir, fe ges i sawl broblem gyda 5 star photos. Wrth gwrs mae'n well 'da fi fynd i siopau bach gyda gwasanaeth fwy personol, ond dwi 'di cael lluniau gwell yn Jessops a Boots.

Mae'n drist i weld Popes yn cau - roedd y staff yn annwyl a helpus iawn.

Bwlch yn y farchnad nawr!

Blanced Oren
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 5 gwestai

cron