Dydw i ddim am roi hwn yn Criw Duw neu mi fydd y drafodaeth yn bachu ar y gwahaniaeth rhwng Islam a Christnogaeth, sydd wedi ei drafod eisoes.
Fel Cymro rydw i'n credu y dylai unrhyw ddiwylliant gael ei ddiogelu. Mae yna lot fawr rydw i'n hoffi am Islam; fel Cristnogaeth mae o wedi ysbrydoli mewn dynion rhai o gampau mwyaf pensaerniaeth a chelf sydd ar y Ddaear yma. Rydw i wedi teimlo parchedig ofn yn gweld rhai o'r pethau mae'r diwylliant wedi eu creu.
Ochor arall y geiniog, wrth gwrs, yw bod Islam yn grefydd sy'n cydoddef trais. Mae o hefyd yn ddiwylliant sy'n tyfu megis firws a boddi popeth arall o'i amgylch. Yn wir, catalydd gwrthdaro mawr y ganrif yma yw'r diwylliant Anglo-Americanaidd a'r diwylliant Mwslemaidd yn ergydio mewn byd sydd i nifer yn teimlo'n rhu fach i'r ddau ohonynt.
Felly! Islam, peth da ta drwg?