Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan CreyrGlas » Sul 08 Ion 2006 7:30 pm

http://news.enquirer.com/apps/pbcs.dll/article?AID=/20050522/NEWS01/505220367

:ofn:

Nes i weld rhaglen gan Doctor Winston ar y teledu rhai wythnosau yn ol o'dd yn ymchwilio i fodolaeth Duw - The Story of God fi'n credu odd ei enw e. Rhaglen ddiddorol iawn o'dd yn cynnig dadl ddiddorol, yn enwedig gan fod Dr Winston yn Iddew ac yn Wyddonwr. Sawl gwaith yn ystod y rhaglen nath y doctor ddarganfod ei hun yn dadle dros y naill o'r ochr a'r llall
(yr un sy'n dod yn syth i'r cof yw dadl gath e gyda efengylwr o'r enw Ken Ham - gwele'r ddolen uchod. Yn fyw ar y radio cafwyd y sgwrs yma:(wedi ei gyfieithu)
Doctor: Wyt ti wir yn credu ystyr llythrennol geiriau'r Beibl?
Ham : Odw, credu pob gair, a dwi'n byw fy mywyd yn ol y Beibl.
Doctor: Ti wedi cael enwaediad te?
Ham : ....yyyyymmmm......
:)
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Postiogan huwwaters » Sul 08 Ion 2006 7:57 pm

Dwi'n gweld y dechreuad yn debyg i rifau. Os chi'n mynd yn
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 08 Ion 2006 7:58 pm

CreyrGlas a ddywedodd:(yr un sy'n dod yn syth i'r cof yw dadl gath e gyda efengylwr o'r enw Ken Ham - gwele'r ddolen uchod. Yn fyw ar y radio cafwyd y sgwrs yma:(wedi ei gyfieithu)
Doctor: Wyt ti wir yn credu ystyr llythrennol geiriau'r Beibl?
Ham : Odw, credu pob gair, a dwi'n byw fy mywyd yn ol y Beibl.
Doctor: Ti wedi cael enwaediad te?
Ham : ....yyyyymmmm......
:)Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan Chwadan » Sul 08 Ion 2006 8:07 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Felly, Creyr Glas, mi wyt ti wedi dangos fod Ken Ham yn slow OND wedi defnyddio enghraifft wael iawn yn erbyn crefydd.

Ac mi wyt titha wedi dewis gwrthbrofi un enghraifft fechan sydd
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 08 Ion 2006 8:08 pm

...un peth arall. Er nad ydw i'n cytuno efo Ken Ham, dwi'n credu dylai bobl ddarllen ei theori ef cyn datgan eu barn.

A fydde chi yn datgan eich barn am esblygiad heb ei ddarllen? Na, yn union.

Mae e'n haeddu cael rhoi ei theori gerbron gymaint ag esblygwyr. Does dim o'i le, hyd y gwela i, i bobl gael mynd i'r amgueddfa a dod i benderfyniad drostynt hwy eu hunain.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan CreyrGlas » Sul 08 Ion 2006 8:09 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Felly, Creyr Glas, mi wyt ti wedi dangos fod Ken Ham yn slow OND wedi defnyddio enghraifft wael iawn yn erbyn crefydd.


Sori am ddefnyddio enghraifft wael! Ond fel wedes i, dwi ddim yn grefyddol, a ddim yn wybodus iawn am grefydd ayyb, felly gobetiho gwnei di esgusodi fi am beidio bod yn fanwl gywir!

Ond dwi'n credu bod Dr Winston wedi defnyddio yr enghraifft yna fel rhan o ddadl gyffredinol am gredu'r Beibl yn llythrennol - yn arbennig o safbwynt Ken Ham, efengylwr sydd ar drothwy creu sefyllfa anodd iawn yn fy marn i.

Rhys, allai ofyn i ti wyt ti'n cyd-fynd a'r theori o Creationism yma de?
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 08 Ion 2006 8:11 pm

Chwadan a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Felly, Creyr Glas, mi wyt ti wedi dangos fod Ken Ham yn slow OND wedi defnyddio enghraifft wael iawn yn erbyn crefydd.

Ac mi wyt titha wedi dewis gwrthbrofi un enghraifft fechan sydd
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 08 Ion 2006 8:14 pm

CreyrGlas a ddywedodd: Rhys, allai ofyn i ti wyt ti'n cyd-fynd a'r theori o Creationism yma de?


Na dydw i ddim yn cytuno efo holl theori Ken Ham.

Serch hynny, dydw i ddim a problem credu fod Duw yn medru neud gwyrthiau. Fy mhryblem i gyda Ken Ham yw fod e'n defnyddio arfau ei elynion. Hynny yw holl bwynt crefydd ydy fod e'n rwbeth arallfydol - os oes modd esbonio gwyrthiau a gwyddoniaeth yna maen nhw'n peidio bod yn wyrthiau.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan CreyrGlas » Sul 08 Ion 2006 8:21 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
CreyrGlas a ddywedodd: Rhys, allai ofyn i ti wyt ti'n cyd-fynd a'r theori o Creationism yma de?


Na dydw i ddim yn cytuno efo holl theori Ken Ham.

Serch hynny, dydw i ddim a problem credu fod Duw yn medru neud gwyrthiau. Fy mhryblem i gyda Ken Ham yw fod e'n defnyddio arfau ei elynion. Hynny yw holl bwynt crefydd ydy fod e'n rwbeth arallfydol - os oes modd esbonio gwyrthiau a gwyddoniaeth yna maen nhw'n peidio bod yn wyrthiau.


Felly tase ti'n digwydd taro ar fformiwla wyddonol/ffaith hanesyddol sy'n esbonio un o wyrthiau Duw, sut fyse ti yn dadansoddi'r dystiolaeth? Bydde ti'n ei anywbyddu? Neu yn fodlon derbyn dystiolaeth gadarn, er ei fod yn mynd yn erbyn dy grefydd?

Achos dyna mae Ken Ham yn gwneud gyda'r amgueddfa yma. Mae tystiolaeth gadarn yn profi fod y byd wedi bodoli ers biliynau o flynyddoedd, mae gwyddoniaeth geneteg wedi dangos bod y theori Darwinism yn gywir, ac mae'r broses o CarbonDating yn ychwanegu at y dystiolaeth.
Mae gwrthbrofi gwyddoniaeth gyda ffydd ac esboniadau "arallfydol" yn beryglus iawn....
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Re: Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 08 Ion 2006 8:31 pm

CreyrGlas a ddywedodd:Mae gwrthbrofi gwyddoniaeth gyda ffydd ac esboniadau "arallfydol" yn beryglus iawn....


Dydw i ddim yn y busnes o wrth-brofi gwyddoniaeth. Dwi jest yn deud there's more to it. Ti'n deall sut dwi'n meddwl?

Un theori sydd well da fi nag un Ken yw fod Duw wedi creu y Byd eisioes yn aeddfed. Dau berson wedi tyfu fynny oedd Adda ac Efa nid babanod. Ti'n deall be sda fi? Pam na fydde Duw felly yn medru creu byd oedd eisioes wedi aeddfedu. Dyna un theori am gen Gristnogol i un Ken.

Dwi'n sicr na fydde ni byth mewn sefyllfa ple byddai gwyrth yn cael ei brofi gan wyddoniaeth.

Troi dwr yn win - amhosib.

Troi 5 torth yn 5000- amhosib.

Creu y byd mewn amrantiad - amhosib.

Alla i ddim gweld gwyddoniaeth yn profi gwyrthiau. Dim ond rhwbeth arall fydol all wneud pethau fel yr uchod.

Basiclly, yn y bon, yr hyn wi'n dweud ydy fod credu mewn Creationism pur Ken Hamaidd ddim yn gwneud ti'n Gristion. Ma na Gristnogion di-dwyll ar ddau ochr y ddadl e.e. mae Stuart Bell, Vicer St Mikes Aberystwyth un o Efengylwyr mwya blaenllaw Cymru yn credu mewn esblygiad. Iesu sy'n allweddol - cred a ffydd fod Iesu wedi marw drosto ti sy'n neu ti'n Gristion a'i peidio nid credu mewn Darwin neu Ken Ham.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron