reit....rhwybeth newydd i roi'r "sbaner yn y gwaith" fel petai (ma hwna 'run mor boenus i fi ei deipio ag yw e i chi ddarllen...ond, methu meddwl am idiom cymraeg i gymryd ei le, sori)
http://www.bibleufo.com
wrth ymchwilio i opsiynau eraill am grefydd - ei sail,ble dechreuodd e ayyb....dyma fi'n dod ar draws hwn. ac o chwerthin bues i am sbel go hir....
OND
meddyliwch am y peth...
gwedwch bod yna Extra terrestrials o blaned llawer mwy datblygiedig n'an un ni wedi penderfynu cynnal arbrawf....
ceisio newid amgylchiadau planed di-fywyd i gynnal miloedd o rywogaethau....
felly dyma nhw'n chwarae ambiti gyda'u tractor beams (nid extension i riverlea
) ac yn tynnu'r blaned fach hon i fewn i'r safle perffaith oddi wrth yr haul i gynnal bywyd. Yna, dyma nhw'n gosod dau 'lab rat' ar y blaned i weld beth fyddai'n digwydd....
do, nathoch chi ddyfalu'n gywir - adam ac efa.
llewyrchodd y byd wrth gwrs, ond dechreuodd pobl gwestiynnu pam eu bod nhw yn bodoli (fel r'yn ni'n neud nawr mewn ffordd)....a dyma'r aliens yn danfon lab rat arbennig arall i'r blaned - Iesu Grist. y gwahaniaeth oedd, ei fod ef wedi cael gwybod pwy nath ei greu, a'i dasg oedd i ledaenu'r gair.
wrth gwrs, gallwn gymryd y miracles yn ganiataol wedyn - gyda gywbodaeth digonol, a gwyddoniaeth sydd llawer yn fwy datblygiedig 'na'n un ni, bydde particle animators a mutators yn ei wneud yn ddigon posib i droi dwr yn win, i achosi i moroedd agor, i rannu torth rhwng 5 mil...ayyb.
ac wrth gwrs, byddai diflaniad ac atgyfodiad iesu yn ddigon credadwy wedyn hefyd....beam me up scotty.
mae'r beibl yn son bydd y byd yn cael ei ddinistrio a phawb yn marw yn yr ail-ddyfodiad....beth os taw'r ail ddyfodiad yw'r aliens yn dod nol i derfynu'r arbrawf?
AAAA, byddai hyn oll yn esbonio nefoedd ac uffern - rhywle mawr gwyn, neu artaith llwyr gyda phicellau tan, llosg a phoenau uffernol- swnio'n debyg iawn i'r disgrifiadau o alien abductions i fi.
be chi'n feddwl?