Brwydr Gwyddoniaeth VS Crefydd yn dwyshau....

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Huw Psych » Iau 23 Chw 2006 1:13 am

Cymaint i ddweud ond cyn lleied o amser! Fel dwi wedi deud, dydi'r atebion hyn ddim bob tro ar flaen fy mysedd, mae hi'n cymryd amser i fynd i chwilio ac edrych am yr atebion yda chi'n chwilio amdany nhw; hefyd mae gwaith yn galw yn ddiweddar!

I'r cwestiynau a ofynnir ganddoch, gwell byddai gofyn i ddiwinydd neu rhywun tebyg i'w hateb. Dyna yw eu pwrpas, i'w holi, mi fydd yr atebion ar flaenau bysedd y rheiny.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Senghennydd » Mer 01 Maw 2006 10:58 am

O'n i ar ddeall mai pwynt diwinyddion oedd cyfri sawl angel oedd yn gallu dawnsio ar ben pin?
:D
Ac i fod yn gyfoesol, a fydd aelodau Priory of Seion yn caniatau prawf DNA ar aelod presennol llinach IG?
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 01 Maw 2006 1:39 pm

llinach Iesu Grist? Gafodd o blant?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan CreyrGlas » Mer 01 Maw 2006 7:11 pm

reit....rhwybeth newydd i roi'r "sbaner yn y gwaith" fel petai (ma hwna 'run mor boenus i fi ei deipio ag yw e i chi ddarllen...ond, methu meddwl am idiom cymraeg i gymryd ei le, sori)

http://www.bibleufo.com

wrth ymchwilio i opsiynau eraill am grefydd - ei sail,ble dechreuodd e ayyb....dyma fi'n dod ar draws hwn. ac o chwerthin bues i am sbel go hir....

OND

meddyliwch am y peth...

gwedwch bod yna Extra terrestrials o blaned llawer mwy datblygiedig n'an un ni wedi penderfynu cynnal arbrawf....

ceisio newid amgylchiadau planed di-fywyd i gynnal miloedd o rywogaethau....
felly dyma nhw'n chwarae ambiti gyda'u tractor beams (nid extension i riverlea :rolio: ) ac yn tynnu'r blaned fach hon i fewn i'r safle perffaith oddi wrth yr haul i gynnal bywyd. Yna, dyma nhw'n gosod dau 'lab rat' ar y blaned i weld beth fyddai'n digwydd....
do, nathoch chi ddyfalu'n gywir - adam ac efa.
llewyrchodd y byd wrth gwrs, ond dechreuodd pobl gwestiynnu pam eu bod nhw yn bodoli (fel r'yn ni'n neud nawr mewn ffordd)....a dyma'r aliens yn danfon lab rat arbennig arall i'r blaned - Iesu Grist. y gwahaniaeth oedd, ei fod ef wedi cael gwybod pwy nath ei greu, a'i dasg oedd i ledaenu'r gair.

wrth gwrs, gallwn gymryd y miracles yn ganiataol wedyn - gyda gywbodaeth digonol, a gwyddoniaeth sydd llawer yn fwy datblygiedig 'na'n un ni, bydde particle animators a mutators yn ei wneud yn ddigon posib i droi dwr yn win, i achosi i moroedd agor, i rannu torth rhwng 5 mil...ayyb.

ac wrth gwrs, byddai diflaniad ac atgyfodiad iesu yn ddigon credadwy wedyn hefyd....beam me up scotty.

mae'r beibl yn son bydd y byd yn cael ei ddinistrio a phawb yn marw yn yr ail-ddyfodiad....beth os taw'r ail ddyfodiad yw'r aliens yn dod nol i derfynu'r arbrawf?

AAAA, byddai hyn oll yn esbonio nefoedd ac uffern - rhywle mawr gwyn, neu artaith llwyr gyda phicellau tan, llosg a phoenau uffernol- swnio'n debyg iawn i'r disgrifiadau o alien abductions i fi.

be chi'n feddwl?

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Postiogan Mr Gasyth » Iau 02 Maw 2006 9:50 am

CreyrGlas a ddywedodd:be chi'n feddwl?

:winc:


Wel ma'n fwy credadwy na be sy'n y Beibl tydi (sylwer, dim winc)

Bosib iawn mai o blaned arall y daeth bywyd i'r ddaear, boed hynny'n fwriadol fel mae'r stori yma'n awgrymu neu drwy ddamwain wrth i facteria gael eu cludo yma ar gomet.

Mae'n bosib wrth gwrs, fod planed yr aliens holl bwerus yma wedi cael ei dinistrio gan ryw ddigwyddiad cosmig tua 2000 o flynyddoedd yn ol a buasai hynny'n egluro pam nad ydyn nhw wedi bod o gwmpas yn ddiweddar.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Senghennydd » Iau 09 Maw 2006 2:48 pm

Darllenais i 'Very Short Introduction: The Bible' echnos

http://www.amazon.co.uk/exec/obidos/ASI ... 91-7365201

Gorolwg ddifyr o hanes testunol y Beibl.
Oes rhywun arall wedi'i ddarllen?
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Postiogan huwwaters » Llun 09 Hyd 2006 2:47 pm

Dwi'n licio'r ffaith fod pawb sydd wedi bod o blaid Crefydd dros Gwyddoniaeth, dim ond wedi bod yn nodi, ar y cyfan, Cristnogaeth 'Mainstream'. Hynny yw, mae'n ymddangos eich bod ddim wedi darllen cefndir y Beibl, na be mae ffigyrau hanesyddol wedi dadansoddi o hanes ac o ysgrifau Beiblaidd.

Y ffaith fod chi dim ond wedi cyfeirio at Genesis fel rhywbeth llythrennol ac nid rhywbeth alegoriaidd yn dangos rhywbeth.

Hoffwn nodi bod dau fath o theori creadigaeth yn ôl y Beibl. Yr un llythrennol, sef bod Duw wedi creu'r byd mewn 6 diwrnod, a'r un alegoriaidd sy'n defnyddio Genesis fel ryw beth athronyddol i ddynodi cychwyn y Beibl. Efo'r un alegoriaidd maent yn cydnabod cafodd Genesis ei ail hysgrifennu tua 500BC a fod gan Adda wraig cyn iddo gael Eva, sef Lilith.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Boibrychan » Mer 11 Ebr 2007 10:37 pm

Dwi'n sylwi fy mod yn dod a edefyn marw yn nol i fywyd ond wnes i edrych am Richard Dawkins ar y maes a gweld yr edefyn yma, a darllen tipyn bach o'r edefyn.

Ymddiheuraf felly os ydyw wedi'u drafod yn barod ond dwi'n nghanol darllen llyfr diwedderaf Richard Dawkins "The God dellusion"ac yn ei fwynhau yn fawr.

Sudro os oedd unrhywun yn gyfarwydd a'i ddadleuon ac os oedd unrhywun eisiau trafod nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan sian » Iau 12 Ebr 2007 6:57 am

Trafodaeth ar The God Delusion yn fan hyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Boibrychan » Iau 12 Ebr 2007 9:21 am

sian a ddywedodd:Trafodaeth ar The God Delusion yn fan hyn.


Diolch doedd dim yn digwydd ond doeddwn gyda'r linc, ond wedi ymuno a Chriw Duw a nawr dwi'n gallu ffeindio fo.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron