Tudalen 4 o 5

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Sad 02 Chw 2008 10:44 pm
gan dawncyfarwydd
Howard Huws a ddywedodd:Diwrnod Santes Dwynwen = "Dwynwen's [Female] Saint's Day"

Diwrnod y Santes Dwynwen, Gw^yl Ddwynwen = "Saint Dwynwen's Day"

Dim cardyn leni? Dwi'n licio mynegi fy chwerwedd drwy sôn am deithi'r iaith hefyd.

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Sul 25 Ion 2009 3:43 pm
gan Orcloth
Diwrnod Santes Dwynwen hapus iawn i chi i gyd, rhen hogia! :) Da chi'm yn cofio ma siwr..........

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Sul 25 Ion 2009 7:26 pm
gan Mali
Wrth gwrs ein bod ni'n cofio .....wel rhai ohonom :winc:
Pam fod angen atgyfodi edefyn tair blwydd oed . Isho cychwyn rhai newydd sydd !!

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Sul 25 Ion 2009 8:28 pm
gan Orcloth
Sori am hynna Mali, to'n i'm yn gweld llawer o bwynt dechra un newydd os oedd y pwnc yna'n barod. Gest ti gerdyn flwyddyn yma? Ches i'm byd eto fyth (dim byd newydd yn fanna felly)!

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Sul 25 Ion 2009 10:11 pm
gan Mali
Orcloth a ddywedodd:Sori am hynna Mali, to'n i'm yn gweld llawer o bwynt dechra un newydd os oedd y pwnc yna'n barod. Gest ti gerdyn flwyddyn yma? Ches i'm byd eto fyth (dim byd newydd yn fanna felly)!


Dim ond cardiau San Ffolant sydd ar werth yma, felly gefais inna ddim cerdyn Santes Dwynwen chwaith ....
Eniwê , diwrnod Santes Dwynwen Hapus i ti Orcloth ! :)

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2009 8:50 am
gan sian
Enwau llefydd ar fap tywydd S4C neithiwr:
Ynys Llanddwyn
Caersws
Bron-yr-aur
Rhosili :?

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2009 10:15 am
gan Orcloth
Mali - diolch yn fawr i ti am y cyfarchion, mae'n amlwg nad ydi'n hogia ni'm yn rhai rhamantus iawn! (gan dybio mai merch wyt ti!). :)
Sian - Efallai'u bod nhw wedi dewis yr enw Rhosili am ei fod yn debyg i'r gair rhosyn?

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2009 10:41 am
gan sian
Orcloth a ddywedodd:Sian - Efallai'u bod nhw wedi dewis yr enw Rhosili am ei fod yn debyg i'r gair rhosyn?


Neu "sili".
Na, ches i ddim cerdyn chwaith. Ges i un flwyddyn ac wedyn nes i ffeindio bod Bwrdd yr Iaith yn rhoi rhai mas am ddim yn y Co-op :rolio:

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2009 10:55 am
gan Orcloth
Wel, o leia ti di cael un, hyd yn oed os oedd o am ddim! Chai'm un ar y 14eg o Chwefror, chwaith, mae'n siwr, ond o leia neith o'm anghofio'm mhenblwydd ar y 4ydd, gobeithio!

Re: Diwrnod Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2009 12:10 pm
gan cymro1170
Anghfies i amdano i ddweud y gwir. Ond, fues i allan am ginio reit rhamantus :D manpoints i mi