Y don newydd ei chwarae ar radio cymru

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Y don newydd ei chwarae ar radio cymru

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 11 Ion 2006 11:43 am

Hia pawb,

gobeithio bo gan rywun syniad be dwi'n siarad am :wps:

O ni yn gwrando ar radio cymru jest rwan ac roedd yna cerddoriaeth clasurol arni.

I ddechrau o ni di synnu ar hyn ac yn meddwl "pam da nhw di rhoid hwn arni?"

Ond yna dyma fe'n dechrau hefo'r meldi sy'n mynd hefo'r geiriau "Dros Gymru'n gwlad, o dad drychafwn gri, y winllan wen ai rhoid in gofael ni...

ac o ni wrth fy modd :D

ddedo nhw rhywbeth am Flinlandia ond doeddwn i methu ffeindio dim amdanno ar gwgl. O ni yn sidro os oedd unrhywun yn gwybod beth oedd e?
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Re: Y don newydd ei chwarae ar radio cymru

Postiogan Mr Gasyth » Mer 11 Ion 2006 11:47 am

SerenSiwenna a ddywedodd:Hia pawb,

gobeithio bo gan rywun syniad be dwi'n siarad am :wps:

O ni yn gwrando ar radio cymru jest rwan ac roedd yna cerddoriaeth clasurol arni.

I ddechrau o ni di synnu ar hyn ac yn meddwl "pam da nhw di rhoid hwn arni?"

Ond yna dyma fe'n dechrau hefo'r meldi sy'n mynd hefo'r geiriau "Dros Gymru'n gwlad, o dad drychafwn gri, y winllan wen ai rhoid in gofael ni...

ac o ni wrth fy modd :D

ddedo nhw rhywbeth am Flinlandia ond doeddwn i methu ffeindio dim amdanno ar gwgl. O ni yn sidro os oedd unrhywun yn gwybod beth oedd e?


Finlandia ydi enw'r don y mae Dros Gymru'n WGalad yn cael ei chanu arni. Fel mai cwm Rhondda yw'r don y cenir 'Guide me o thou great redeemer'
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan krustysnaks » Mer 11 Ion 2006 11:54 am

Darn hyfryd (cathl symffonig - symphonic poem) gan Sibelius ydy Finlandia a gafodd ei dranscribio gan y dyn ei hun i fod yn emyn don. Mae'r geiriau gwreiddiol yn y Ffineg yn wladgarol a rousing iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Aranwr » Mer 11 Ion 2006 11:56 am

Ro'n nhw'n chware 'Finlandia', cathl symffonig gan y cyfansoddwr Sibelius. Dyma erthygl Wikipedia ar y darn - (sori i fod e yn Sysneg ond dos dim erthygl am y darn ar Wikipedia Cymraeg).
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 11 Ion 2006 1:41 pm

oooo, diolch i chi gyd - ella fydd hi'n posib i mi cael gafael arni rwan bo gen i enw'r cyfansoddwr :D

Oedd gen i vision o fi yn sefyll yn hmv yma'n lerpwl yn hymian y don gan obeithio fysa un o rheini yn y crysau-t hmv yn gallu ffeindio fo i mi :lol:

ew, criw wybodus iawn yw criw maes-e de! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan S.W. » Mer 11 Ion 2006 2:36 pm

Os ti isio'r gan hefo'r geiriau just chwilia am unrhyw cd gan Dafydd Iwan os oes ganddo'r gan 'Dros Gymru'n Gwlad' yna hwnne ydy o

Ydw in iawn i ddweud ei bod hi wedi dod yn anthem i'r mudiad cenedlaetholgar yn Ffindir pan roedd Ffindir yn rhan o ymerodroaeth Rwsia?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 11 Ion 2006 3:20 pm

S.W. a ddywedodd:Os ti isio'r gan hefo'r geiriau just chwilia am unrhyw cd gan Dafydd Iwan os oes ganddo'r gan 'Dros Gymru'n Gwlad' yna hwnne ydy o

Ydw in iawn i ddweud ei bod hi wedi dod yn anthem i'r mudiad cenedlaetholgar yn Ffindir pan roedd Ffindir yn rhan o ymerodroaeth Rwsia?


O ni ddim yn gwybod bod findir erioed wedi bod yn rhan o ymerodraeth Rwsia? (ydw i yn iawn i meddwl mae ffinland yw ffindir? :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan S.W. » Mer 11 Ion 2006 3:39 pm

Wyt, Ffindir ydy Finland. Roedd on rhan o ymerodraeth Rwsia tan 1918 dwin meddwl. Dwi wedi gweld 'Grand Duchy of Russia' ar hen fapiau o'r byd yn y wlad sydd bellach yn Ffindir.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan bartiddu » Mer 11 Ion 2006 3:52 pm

Mae'n siwr i mi glywed pwt bach ar y radio o'r blaen, rhaglen Dei Tomos siwr o fod ( llawn o ffeithiau difyr! ;) ) bod y cyfansoddwr yn byw neu ganddo fwthyn bach pren yn y wlad ynghanol yr eira, a bob tro roedd awyren Rwsiaidd yn hedfan dros ben o'dd e'n cymeryd shot ato gyda'i ddrill! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai