docito a ddywedodd:Y 3 peth sydd ar goll yn ein diwylliant poblogaeth sydd yn ei wneud yn crap ac sydd yn golygu bod gwell gan ffyliaid fel fi edrych ar George Galloway yn neud tit o'i hun na'r ffwl yna sydd ar peledr ecs gyda boi sy'n neud bywoliaeth o ddynwared John Major a Rhodri Morgan yn y Gymraeg!!!:
1. Noethni - Pam mewn rhaglen 'cutting edge' i'r ifanc fel 'Caerdydd' bod yna ddim un nipple i'w weld heb son am unrhywbeth arall.
2. Satire - ..... (lle am drafodaeth)
3. Gair cymraeg am 'satire' - na dyw 'dychan' ddim yn gweithio
1. Ti'n trio deud bod noethni yn hanfodol i wneud i raglen weithio? Mi welais i'r bennod gynta o "Caerdydd" a mi o'n i'n meddwl ei fod o'n gweithio'n iawn hebddo fo. Mae noethni diangen yn beth dwl - ond mi wyt ti fel tasa chdi'n awgrymu nad oes posib i raglen fod yn 'cutting edge' ac 'i'r ifanc' hebddo fo.
2. Dychan (Be ti'n feddwl, dydi 'dychan' ddim yn gweithio fel gair Cymraeg am 'satire'? Dyna ydi'r gair!) - mae 'na chydig o ddychan o gwmpas (Ma 'Cnex' yn iawn, ond mi allai fod yn well) ac yn Saesneg ma petha fel Bremner Bird And Fortune yn bod. Mi allai na fod fwy, fel ti'n deud.
Y peth ydi, ma pobol yn gwylio crap ar y teledu yn hytrach na dim byd arall. Mae crap (fel Big Brother) yn rhad i'w gynhyrchu ac yn cael ratings. Does 'na ddim insentif i gwmniau teledu i gynhyrchu rhaglenni o safon, sy'n gwneud i bobl feddwl, achos ei fod o'n ddrutach ac yn fwy o waith na chynhyrchu crap sy'n mynd i gael cynulleidfa dderbyniol beth bynnag.
Dwi'n meddwl mai dyna oedd dy bwynt di, eniwe. Ges i job dallt y paragraff cynta.