Deiseb Cerflun Bendigeidfran

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Macsen » Maw 17 Ion 2006 5:36 pm

Gwen a ddywedodd:Tisho cyfraniad, Macsen?


Dim eto! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan HBK25 » Maw 17 Ion 2006 7:05 pm

Ie, os ydi rywun arall am dalu. :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Mer 18 Ion 2006 3:32 pm

ba am gael un yn Llundain (ne lle bynnag gath o'i gladdu). . . taro chydig o gysgod dros rhen Loegr cw?!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 18 Ion 2006 3:47 pm

Na. Os ydym ni eisiau i Loegr ein parchu ni fel cenedl a gwlad ar wahan, maen rhaid i ni barchu eu hunaniaeth genedlaethol hwythau felly hefyd. Dwi ddim yn meddwl bod gennym ni'r hawl i ddechrau meddwl am daflu ein cysgod dros y ddinas. Dwi'n gwybod mai ni'r Cymry oedd ei pherchen hi ers stalwm, ac felly bod gennym ni rywfaint o hawlfraint ddiwylliannol dros rai o'i hardaloedd a'i hadeiladau, ond mater arall yw creu rhywbeth o'r newydd yno er mwyn ei hawlio...
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 18 Ion 2006 5:46 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Sori os dwi'n swnio'n nawddoglyd, ond chafodd Benigeidfran mo'i gladdu. Doedd o ddim yn bod go iawn


:D

Dwi'n meddwl fod na ddigon o bobl Cymreig yn y byd real sy'n haeddu cerflun yn fwy na chymeriad ffuglenol fel hwn. Be am yr holl feirdd chwyldroadol ar ser o fyd Chwaraeon?

Credaf fod llawer gwell pethau i wario arian ar yng Nghymru, er enghraifft gwella sefyllfa'r iaith yn un.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 18 Ion 2006 9:56 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod na ddigon o bobl Cymreig yn y byd real sy'n haeddu cerflun yn fwy na chymeriad ffuglenol fel hwn. Be am yr holl feirdd chwyldroadol ar ser o fyd Chwaraeon?


Na, am nifer o resymau. Y cynllun yw creu eicon fydd yn gyfystyr a Cymru, fel mae Angel y Gogledd yn gyfystyr a gogledd Lloegr. Ni all person go iawn gynrychioli Cymru oll; mae pob person go iawn yn ddadleuol i ryw raddau; mae gan bobl wleidyddiaeth gwahaol, mae nhw'n hoffi chwaraeon gwahanol, etcetera.

Mae Bendigeidfran yn cynrychioli hanes celtaidd Cymru, llenyddiaeth Cymru, a penderfyniad y Cymru i sefyll fyny i eraill. Hefyd mae'r ffaith bod Bendigeidfran yn gawr yn esgus gwych i adeiladu cerflun hollol anferthol gyda cleddyf hiwj.

Dychmygwch edrych draw dros y mor o Bortmeirion wrth i'r haul ddisgyn a gweld amlinell anferth Bendigeidfran yn codi ei gleddyf yn heriol tuag at Iwerddon. :D

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Credaf fod llawer gwell pethau i wario arian ar yng Nghymru, er enghraifft gwella sefyllfa'r iaith yn un.


Mae cymaint o bres yn cael ei wastraffu bob blwyddyn, waeth iddo gael ei ddefnyddio i hybu rywbeth fydd yn parhau.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 18 Ion 2006 10:00 pm

ia duwcs, pam lai?! Sdicia fo ar ben Ynys Enlli i goblyn!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Macsen » Mer 18 Ion 2006 10:51 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:(Sori os dwi'n swnio'n nawddoglyd, ond chafodd Benigeidfran mo'i gladdu. Doedd o ddim yn bod go iawn)

Wedi dod yn ei ol o Iwerddon mae ei ben yn cael ei gladdu yn Llundain yn gwynebu Ffrainc. Dwi'n credu mai at gynnwys y chwedl oedd Caws yn son.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwwaters » Mer 18 Ion 2006 10:55 pm

Dwi'n meddwl fod hwn yn syniad reit cwl, ond beth am gael cerfluniau anferth wrth ymyl ffin Lloegr, tebyg i'r rahi sydd ar yr afon yn Lord of the Rings: Fellowship of the Ring, a'r llaw yn atal y gwynt oer o'r dwyrain...
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Macsen » Mer 18 Ion 2006 11:28 pm

huwwaters a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod hwn yn syniad reit cwl, ond beth am gael cerfluniau anferth wrth ymyl ffin Lloegr, tebyg i'r rahi sydd ar yr afon yn Lord of the Rings: Fellowship of the Ring, a'r llaw yn atal y gwynt oer o'r dwyrain...


Un cerflun ar y tro, bobl. Mae gen i gynllun i adeiladu draig lawr yn y de ar ffin Lloegr os yw hwn yn lwyddiant.

Nid codi un bys ar wlad arall yw'r nod ond ymfalchio yn ein gwlad a'n diwylliant ein hun.

Bydd Bendigeidfran yn bygwth Gogledd Iwerddon gyda'i gleddyf be' bynnag. ;)
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron