Deiseb Cerflun Bendigeidfran

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Deiseb Cerflun Bendigeidfran

Postiogan Macsen » Maw 17 Ion 2006 3:49 pm

Rydw i wedi bod yn ceisio meddwl am symbol o barhad diwylliant y Cymru Cymraeg, ac wedi dod i'r casgliad y dylai ni adeiladu cerflun anferth o Bendigeidfran a'i osod mewn lle amlwg yn Nghymru, bosib ar ben Twthill yn Nghaernarfon.

Manteision i hyn:

1.) Symbol o'n diwylliant celtaidd, cymeriad o'r Mabinogi.
2.) Atynnu twristiaid i ardal tlawd.
3.) Methu gwneud llanast o'r peth wedyn fel busnes, e.e. y Galeri. Cerflun yw cerflun, mi fydd o yno am 3,000 o flynyddoedd.
4.) Nid yw cerflun yn gofyn am gyfranogiad y bobl.
5.) Mae cerfluniau anferth yn edrych yn wych.
6.) Wir, oes unrhyw un erioed wedi adeiladu cerflun anferth a difaru'r peth wedyn?
7.) Os yw'r Gymraeg yn marw bydd o'n uffar o garreg fedd.

Os yw'r syniad hwn yn lwyddiant gall cymeriadau eraill o'r Mabinogi cael ei adeiladu wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Huw Psych » Maw 17 Ion 2006 4:19 pm

Cerflun maint llawn o Bendigeidfran?! Bydda'n taro cysgod dros Gaernarfon!!:lol:

Dwi'n cytuno. Yn caernarfon mae'r castell yn dathlu brenhiniaeth Lloegr, felly pam nad ydi hi'n bosibl cael gosodiad i ddathlu cymreictod...rwbath mawr...fel castell!!

Ydi hyn o ddifri am ddigwydd?!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Macsen » Maw 17 Ion 2006 4:21 pm

Huw Psych a ddywedodd:Ydi hyn o ddifri am ddigwydd?!

Wrth gwrs! Os yw'r Cymru yn fodlon cefnogi.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Llefenni » Maw 17 Ion 2006 4:22 pm

Waw! Swnio'n ardderchog! :ofn: :D
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Al » Maw 17 Ion 2006 4:30 pm

Awe foi

Mond i Bendigeidrfan edrych tuag ar Iwerddon, cael yr effaith :)
Al
 

Postiogan docito » Maw 17 Ion 2006 4:36 pm

beth am geflun anferth o Mrs. Willy Nilly yn cael ei spancio gan ei hathro ar y bryniau uwchben Talacharn??
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Huw Psych » Maw 17 Ion 2006 4:58 pm

Macsen a ddywedodd:
Huw Psych a ddywedodd:Ydi hyn o ddifri am ddigwydd?!

Wrth gwrs! Os yw'r Cymru yn fodlon cefnogi.

Da iawn. Dwi'n un Cymro sy'n fodlon cefnogi!

Mi fydda'n syniad da i gal dathliad o'n cymreictod wrth ddadorchuddio gwrthrych o'r fath. Fel a gafwyd yma wrth ddathlu dadorchuddio cofeb i owain lawgoch!!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Gwen » Maw 17 Ion 2006 5:17 pm

Yn Harlech y dylai o fod.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Maw 17 Ion 2006 5:27 pm

Gwen a ddywedodd:Yn Harlech y dylai o fod.


Syniad da, lle neis arall yn Gwynedd. Cawn ni ddewis ble i'w roi os mae 'na ddigon o ddiddordeb.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gwen » Maw 17 Ion 2006 5:33 pm

Tisho cyfraniad, Macsen?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai