Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:20 pm
gan Macsen
Tafod_Bach, mae na wahaniaeth mawr rhwng cerflun wedi'i greu gan unben i foli ei hun ac cerflun wedi ei greu i ddathlu ein diwylliant. ;)

Madfallen a ddywedodd:Wrth gwrs, rwy'n gefnogol i gael cerflun yng Nghymru, ond efallai y byddai'n well dechrau gyda symbol sy'n fwy cyfarwydd e.e. Dewi Sant neu y Ddraig Goch. Nid yw Bendigeidfran yn symbol o'n hunaniaeth a dim ond canran fach o Gymry Cymraeg (sef rhai dysgedig) a phrin dim Cymry diGymraeg sy'n gwybod amdano. Rwy'n derbyn y byddai'r cerflun yn eu haddysgu ond efallai y byddai hefyd yn cau pobl mas.


Petai fi am adeiladu cerflun sy'n gyfarwydd i bawb mi fyddwn i'n medru creu car anferth, neu ffon symudol anferth, neu teledu anferth. Hanner pwynt y cerflun yw cael pobl i gymryd diddordeb mewn diwylliant Cymru. Os nad yw Bendigeidfran yn gyfarwydd iddynt, peth da, oherwydd bydd y prosiect yma yn agor byd gwbwl newydd a chyffrous.

Madfallen a ddywedodd:ond efallai y byddai'n well dechrau gyda symbol sy'n fwy cyfarwydd


Tydi hi'm fel petai na ddiffyg cerfluniau o ffigyrau hanesyddol yn Nghymru eisoes. Ma 'na gerflun o Dewi Sant yn ei gadeirlan.

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:22 pm
gan Tegwared ap Seion
Madfallen a ddywedodd:Nid oes lle i agweddau fel hyn yn yr 21G.


'Di ots pa ganrif yw hi? Y rheswm salaf.erioed.

Madfallen a ddywedodd:Wrth gwrs, rwy'n gefnogol i gael cerflun yng Nghymru, ond efallai y byddai'n well dechrau gyda symbol sy'n fwy cyfarwydd e.e. Dewi Sant neu y Ddraig Goch.


Ond mae'r ddraig goch i'w gweld ymhobman yng Nghymru, faint mwy o symbol bydda codi Draig arall? Dwi'n siwr y byddai'n gelfyddyd llawer mwy trawiadol pe tasai o Bendigeidfran, (boed o'n berson dychmygol neu fel arall) does neb yn gwybod sut yr edrychai felly "cynrychioliad" o Bendigeidfran fyddai'r cerflun, a fyddai wedyn yn gneud i bobl ofyn "bedio?" "pwy oedd o?" "be mae'n da yn fama?", megis Angel y Gogledd. Mae hwnnw'n hynod drawiadol, ac yn gneud i mi feddwl "be 'di'r pwynt?" "Oes stori tu

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:33 pm
gan Geraint
Sut da ni am berswadio adran cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri?

Synaid arall: adeiladu bont mewn ffurf Beindigeidfran yn gorwedd dros y bwlch!

Newydd gael syniad, cyn gemau rygbi erbyn Iwerddon, dylai rhywun gwisgo lan fel Efnisien. Yn nghanol y cae fydd sach, a bydd Efnisien yn mynd fyny ato a gwasgu y 'pen' (sef water melon) tan iddo chwalu. Gwell na dyn tew yn canu!

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 12:56 pm
gan Tegwared ap Seion
Gwych Geraint!!! Nai raddio mewn 3/4 blynedd a dod nol i Sir F

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 1:05 pm
gan tafod_bach
Tafod_Bach, mae na wahaniaeth mawr rhwng cerflun wedi'i greu gan unben i foli ei hun ac cerflun wedi ei greu i ddathlu ein diwylliant. :)

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 1:20 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Macsen a ddywedodd:
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:(Sori os dwi'n swnio'n nawddoglyd, ond chafodd Benigeidfran mo'i gladdu. Doedd o ddim yn bod go iawn)

Wedi dod yn ei ol o Iwerddon mae ei ben yn cael ei gladdu yn Llundain yn gwynebu Ffrainc. Dwi'n credu mai at gynnwys y chwedl oedd Caws yn son.
chwedl? ma popeth dwi'n gredu ynddo newydd gael ei chwalu. . . y mabinogion ydy hanes cymru go iawn siwr, cyn llywelyn a ballu. plis peidiwch a chwalu mreuddwydion i. :crio:

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 1:36 pm
gan bartiddu
Rhaid i chi cael gair hefo Michelle Cain am syniadau! 8)
Mae'n edrych yn wych o'r hewl, dim wedi sylwi os ydi o 'na o hyd yn ddiweddar.

O.N. Wps!
The centre, which is owned by the trust, will take down the giant otter and sell it off to raise funds at the end of the summer.

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 1:47 pm
gan Macsen
Angen ei adeiladu o rywbeth mwy cryf 'na pren dwi'n meddwl. Carreg ar y tu allan gyda sgwerbwd o haearn ar y tu mewn i'w ddal o fyny.

Delwedd

Er hynny mi fyddai locsyn bach mwsoglyd yn neis. :)

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 5:27 pm
gan Socsan
Waw, hoffi

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2006 5:59 pm
gan tafod_bach
Delwedd

peidiwch anghofio fire proofing de.