Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 11:50 am
gan Macsen
Mae angen dechrau cynllunio hwn o ddifri. Duw a ŵyr na fydd cyngor celfyddydau Cymru yn gwneud hyn drostan ni.

Beth sydd ei angen i ddechrau:

1.) Gwefan yn esbonio'r cynllun.
2.) System o hel pres ar-lein.
3.) Rywun a medr i greu cerflun 3D ar ei gyfrifiadur.
4.) Rywun i wneud y PR (mi alla'i wneud hyn).

Wedi gwneud y pethau syml mi allan ni ddechrau dadlau am hawl cynllunio, ayyb

Cyn i fi ddechrau potchan gyda'r uchod, oes 'na unrhyw syniadau?.

Falle bod hyn yn ymddangos yn wallgo

Re: Deiseb Cerflun Bendigeidfran

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 12:03 pm
gan 7ennyn
Macsen a ddywedodd:6.) Wir, oes unrhyw un erioed wedi adeiladu cerflun anferth a difaru'r peth wedyn?

Hen frodorion Ynys y Pasg ella?

Ond, duw, dos amdani. Mae gennai hanner paced o sment yn fy ngarej yn rhwla, os ydi hynny rhywfaint o help.

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 1:00 pm
gan Tegwared ap Seion
a finna 'fyd - er dwi'n credu mai hanner paced o sment solid sydd gen i!

Re: Deiseb Cerflun Bendigeidfran

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 1:14 pm
gan Leusa
Macsen a ddywedodd: 6.) Wir, oes unrhyw un erioed wedi adeiladu cerflun anferth a difaru'r peth wedyn?

Wyt ti erioed wedi gweld Owain Glyndwr yng Nghorwen? :lol:

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 1:20 pm
gan Leusa
o.n, pam Bendigeidfran a dim Branwen? pol piniwn!

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 1:26 pm
gan Macsen
Leusa a ddywedodd:o.n, pam Bendigeidfran a dim Branwen? pol piniwn!

Mae Bendigeidfran yn sathru ar Branwen. Mae o'n gawr am un peth, ac felly yn gwneud cerflun lot gwell.

Pa fath o ddelfryd ymddwyn ydi merch sy'n cael ei dal mewn twr ac yn gorfod hel y hogia draw i'w hachub hi be' bynnag? Petai fi am greu cerflun o un o ferched y Mabinogi mi fyddwn i'n gweud Blodeuwedd, o leiaf roedd hi'n annibynol a phenderfynol.

Re: Deiseb Cerflun Bendigeidfran

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 1:27 pm
gan Macsen
Leusa a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd: 6.) Wir, oes unrhyw un erioed wedi adeiladu cerflun anferth a difaru'r peth wedyn?

Wyt ti erioed wedi gweld Owain Glyndwr yng Nghorwen? :lol:

Wele'r gair 'anferth' yn fy nyfyniad uchod. Mae'r cerflun o Owain Glyndwr yn gorrach.

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 2:18 pm
gan Leusa
Macsen a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:o.n, pam Bendigeidfran a dim Branwen? pol piniwn!
Pa fath o ddelfryd ymddwyn ydi merch sy'n cael ei dal mewn twr ac yn gorfod hel y hogia draw i'w hachub hi be' bynnag?

Pa fath o argraff byddai dyn sy'n rhoi ei chwaer i wyddel seico efo mwstash yn ei roi?

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 2:59 pm
gan Tegwared ap Seion
O'dd Matholwch yn clean-shaven. Ffaith.

PostioPostiwyd: Llun 17 Ebr 2006 3:27 pm
gan 7ennyn
Cewri eraill i'w hystyried:

-Idris (mwstashiog)

-Ysbaddaden (mwstashiog)

-Caradog y cawr (o record Dafydd Iwan ac Edward - 'mwstashiog?')

-John Charles (y cawr addfwyn - 'clean shaven')

-El Bandito (mwstashiog)