Diwrnod Gwyl Dewi

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Diwrnod Gwyl Dewi

Postiogan MC Sosban » Maw 14 Chw 2006 2:05 pm

Yn anffodus, mae dal nifer fawr o Gymry ddim yn sylweddoli bod Fflag Dewi Sant yn bod :x
Meddwl oeddwn i, oes rhywun ar Maes-e, efo Fflag Dewi Sant i'w roi o fyny yn ystod yr wythnos pan fydd diwrnod Gwyl Dewi?...er mwyn codi ymwybyddiaeth bobol ynglyn a'r Fflag, ac i bobol gael ei weld o :lol:

Be am gael rhestr o'r lleolioadau lle bydd modd gweld y fflag?
MC Sosban
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:41 am

Postiogan Menter Iaith Conwy » Maw 14 Chw 2006 2:12 pm

Mi fydd Baner Gwyl Dewi i weld yn hedfan o ffenest Swyddfa Menter Iaith Conwy, ar y Sgwar yn Llanrwst o Chwefror 27 tan Mawrth 3!

Mi fydd posib gweld y faner mewn digwyddiadau eraill sydd wedi eu trefnu gan y fenter, a bydd posib ei weld o yn yr Orymdaith Gwyl Dewi ym Mae Colwyn, bora dydd Mawrth, Mawrth 1af. :lol:
Menter Iaith Conwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Gwe 13 Ion 2006 9:46 am
Lleoliad: yn y Swyddfa

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 14 Chw 2006 2:41 pm

Mae gen i un ar wal fy llofft...isho dod yma i'w gweld hi wyt ti? Croeso ir ffae... :crechwen:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan MC Sosban » Maw 14 Chw 2006 4:03 pm

meddwl oeddwn i, mi fuasai'n dda cael rhestr o leoliadau drwy Gymru, lle mae'r maeswyr am roi Fflagiau Dewi Sant i fyny, i bobol gael gweld y fflagiau ar eu taith ar Fawrth 1af!..neu yn ystod yr wythnos hwnnw!!
MC Sosban
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:41 am

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 14 Chw 2006 5:38 pm

ond beth fyddai pwrpas cael rhestr?! "I-spy baneri Dewi Sant...50 pwynt os fedrwch chi weld yr un fydd ar ben yr Wyddfa heb ddefnyddio beinocs..."? Ti am hysbysebu'r lleoliadau? "Ewch i Llanbidinodyn rhwng 7am a 10pm ar Fawrth y cyntaf a cewch gyfle unigryw i weld baner Dewi Sant yn cyhwfan (weather permitting)." Sori, dwi jesd ddim yn gweld y pwynt! :)Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan MC Sosban » Mer 15 Chw 2006 9:45 am

Meddwl oeddwn i, fuasai'n neis cael rhestr bach o lle fydd posib gweld baneri, gan fod nifer o Gymry Cymraeg ddim hyd yn oed yn gwybod bod baner Dewi Sant yn bod :x

Beht bynnag, mi fydd Baner Dewi Sant yn i'w weld yn Llanrwst :D
MC Sosban
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:41 am

Postiogan Huw Psych » Iau 23 Chw 2006 1:18 am

Feddylies i am neud hyn, yn enwedig wrth weld cymaint o faneri jac yr undeb (pwy bynnag di jac!) ym mhobman.

Methu meddwl am le i roi un lle gall pawb ei weld o...heblaw os y gwisga i un!! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan sali_mali » Iau 23 Chw 2006 9:38 am

Bydd un yn hongian o ffenest fy fflat yn Nhalybont (Caerdydd) - ma'r fflat ar y drydedd llawr, so gobeithio fydd pobl yn ei weld o.
"Excuse me sir - are you peckish?"

"No, sir, I am Turkish!"
Rhithffurf defnyddiwr
sali_mali
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 57
Ymunwyd: Maw 29 Tach 2005 1:42 am
Lleoliad: Caerdydd amser tymor!


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron