Tudalen 1 o 1

Diwrnod Gwyl Dewi

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 2:05 pm
gan MC Sosban
Yn anffodus, mae dal nifer fawr o Gymry ddim yn sylweddoli bod Fflag Dewi Sant yn bod :x
Meddwl oeddwn i, oes rhywun ar Maes-e, efo Fflag Dewi Sant i'w roi o fyny yn ystod yr wythnos pan fydd diwrnod Gwyl Dewi?...er mwyn codi ymwybyddiaeth bobol ynglyn a'r Fflag, ac i bobol gael ei weld o :lol:

Be am gael rhestr o'r lleolioadau lle bydd modd gweld y fflag?

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 2:12 pm
gan Menter Iaith Conwy
Mi fydd Baner Gwyl Dewi i weld yn hedfan o ffenest Swyddfa Menter Iaith Conwy, ar y Sgwar yn Llanrwst o Chwefror 27 tan Mawrth 3!

Mi fydd posib gweld y faner mewn digwyddiadau eraill sydd wedi eu trefnu gan y fenter, a bydd posib ei weld o yn yr Orymdaith Gwyl Dewi ym Mae Colwyn, bora dydd Mawrth, Mawrth 1af. :lol:

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 2:41 pm
gan Tegwared ap Seion
Mae gen i un ar wal fy llofft...isho dod yma i'w gweld hi wyt ti? Croeso ir ffae... :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 4:03 pm
gan MC Sosban
meddwl oeddwn i, mi fuasai'n dda cael rhestr o leoliadau drwy Gymru, lle mae'r maeswyr am roi Fflagiau Dewi Sant i fyny, i bobol gael gweld y fflagiau ar eu taith ar Fawrth 1af!..neu yn ystod yr wythnos hwnnw!!

PostioPostiwyd: Maw 14 Chw 2006 5:38 pm
gan Tegwared ap Seion
ond beth fyddai pwrpas cael rhestr?! "I-spy baneri Dewi Sant...50 pwynt os fedrwch chi weld yr un fydd ar ben yr Wyddfa heb ddefnyddio beinocs..."? Ti am hysbysebu'r lleoliadau? "Ewch i Llanbidinodyn rhwng 7am a 10pm ar Fawrth y cyntaf a cewch gyfle unigryw i weld baner Dewi Sant yn cyhwfan (weather permitting)." Sori, dwi jesd ddim yn gweld y pwynt! :)

PostioPostiwyd: Mer 15 Chw 2006 9:45 am
gan MC Sosban
Meddwl oeddwn i, fuasai'n neis cael rhestr bach o lle fydd posib gweld baneri, gan fod nifer o Gymry Cymraeg ddim hyd yn oed yn gwybod bod baner Dewi Sant yn bod :x

Beht bynnag, mi fydd Baner Dewi Sant yn i'w weld yn Llanrwst :D

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 1:18 am
gan Huw Psych
Feddylies i am neud hyn, yn enwedig wrth weld cymaint o faneri jac yr undeb (pwy bynnag di jac!) ym mhobman.

Methu meddwl am le i roi un lle gall pawb ei weld o...heblaw os y gwisga i un!! :lol:

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2006 9:38 am
gan sali_mali
Bydd un yn hongian o ffenest fy fflat yn Nhalybont (Caerdydd) - ma'r fflat ar y drydedd llawr, so gobeithio fydd pobl yn ei weld o.