Dwi'n credu ei bod hi wir werth meddwl am gael un lleoliad parhaol i'r Eisteddfod.
Mi fyddai modd cael adeiladau parhaol o safon yn lle ryw babell sy'n ysgwyd yn y gwynt a'r glaw a stondinau bach budr. Byddai modd hefyd ychwanegu at y safle dros y blynyddoedd, gan osod cerfluniau, adeiladau newydd, a chelf o bab math i ddathlu cyfoeth diwylliannol ein gwlad. Ac wrth gwrs gosod meini parhaol go iawn ar faesteddfod yn lle rhaid plastig. Mi allai'r Eisteddfod sefydlu adeiladau sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, fel amgueddfa i hanes yr Eisteddfod, i godi mwy o arian. Pob man dwi'n mynd yng Nghymru dwi'n gweld hen gadeiriau a choronau yn denu llwch mewn rhyw gornel, beth am eu casglu nhw ynghyd a'i rhoi mewn man lle all pobl ei gweld nhw?
Dim ond ychydig o oriau ar y mwyaf mae'n ei gymryd i fynd i'r Eisteddfod o unrhyw le yng Nghymru erbyn hyn. Roedd angen mynd a'r Eisteddfod at y bobl yn y gorffennol ond nawr gall y bobl ddod at yr Eisteddfod yn ddi-drafferth.