Wel mae'r stori am y pafiliwn pinc yn wir, dwi di clywedd o'r ceg iawn.
Cofiwch wisgo welis i fatsho (os bydd hi'n fwdlyd wrth gwrs)
Os mae'n heulog, bydd rhaid i bawb gael sbecs haul pinc!
Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
S.W. a ddywedodd:Mae'n ddoniol bod pwnc o'r fath wedi creu gymaint o drafodaeth.
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Duwcs ma'r 'Dolig yn ymestyn hyd fis Medi (cynt), felly pam lai Ffwl Ebrill...?!
I fod yn deg, Tegwared ap Seon sy'n gyfrifol am tua traean o gyfraniadau'r edefyn.
Cwmni o wlad Belg sydd yn berchen ar y pafiliwn sydd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol agos. Mae'n debyg fod y cwmni wedi dweud fod angen y pafiliwn nol o fewn 4 diwrnod i ddiwedd yr Eisteddfod, a dyma sy'n peri'r problemau (fi ddim yn siwr os yw'r gost yn wahanol), a dyma pam fydd yr Eisteddfod yn llogi'r pafiliwn pinc eleni.Gwen a ddywedodd:Nid yr Eisteddfod sy piau'r pafiliwn beth bynnag - cael ei logi ar gyfer yr achlysur mae o, ac fel y soniodd rhywun, mae'n debyg y bydd llogi hwn yn rhatach.
Corpsyn a ddywedodd:Tydy hyn ddim yn myndi gostio lot? Neu just cal pot o baent pinc gna nhw! O nin meddwl bod y pafiliwn presenol mond yn 'chydig flynyddoedd oed? a bod yr un gwyn cyn hynny di para oesoedd? (ella mai fy ngof i sydd yn anghywir) Tydyn nhw ddim yn trio arbed arian dyddia hyn?
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai