Dwi newydd fod yn gwylio'r newyddion ac un o'r straeon dwytha oedd fod y Steddfod am gael pafiliwn pinc 'leni. (Dwi o ddifri)
Pwrpas hyn medden nhw yw codi ymwybyddiaeth o ganser y fron. Dwi yn hollol o blaid hynny, ond pafiliwn pinc?! Ma hynny'n mynd braidd rhy bell. Mae 'na gannoedd o ffyrdd gwell fydda'r Steddfod yn gallu gwneud hyn. Pabell binc ar y maes ella?
Ai stynt ydi hyn i gael mwy o bobl i ddod i'r Steddfod? Dwi'n siwr y gwnaiff o weithio, ond oes rhaid bod mor eithafol?