Cytuno 110% bod angen i ni wneud mwy i gyflwyno'r iaith a diwylliant Cymraeg i paeb sydd yng Nghymru boed yn ddu, gwyn, brown neu gwyrdd.
Yn flaenorol mi wnes i weithio dros Ogledd Cymru hefo pobl o leiafrifoedd ethnig oedd hefyd yn cynnwys pobl oedd wedi dod i'r wlad fel Ymgeiswyr Lloches a Ffoaduriaid. Roedd hi'n syfrdannol faint ohonynt ddoth atai mewn sesiwn yn Wrecsam a cwyno nad oedd neb wedi dweud wrthynt sut i fynd ati i ddysgu Cymraeg ac ati. Yn nol be roedden nhw'n dweud wrthai, roedden nhw wedi dod i Loegr, a'r wladwriaeth o dan y cynllun 'disperal' wedi cael tocyn tren i Wrecsam gyda gwybodaeth am ble i fynd i dderbyn gwersi Saesneg a ble i dderbyn cyngor ac ati. Ond erbyn iddynt nhw gyrraedd Cymru roedd hi'n hollol amlwg bod Wrecsam a mwy nag un iaith gan bod yr arwyddion ffordd yn ddwyieithog a iaith diarth yn cael ei ddarllen allan ar y tannoy yn yr orsaf drennau.
Be oedd yn gwylltio nhw oedd bod pobl yn eu cyhuddo nhw o beidio a chymysgu na parchu diwylliant frodorol yr ardal ond doedd y wladwriaeth na chwaith y gymuned leol heb wneud dim byd i gyflwyno'r iaith iddynt. Roedd llawer yn dweud wrthai "where I am from I can speak 4 language fluently and write in 3 of them, do you think I dont understand your bilingualism"?
Esgus y wladwriaeth ydy bod gan y bobl hyn fwy iw boeni amdano nag dysgu mwy nag un iaith.
Yn ogystal a nifer bychan o ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid yma mae na hefyd boblogaeth Pwyleg sylweddol yma, a wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd maith - mae na hyd yn oed Ysbyty arbennig yma ar gyfer cynfilwyr Pwyleg a'u teuluoedd ers yr Ail Ryfel Byd sy'n rhan o'r GIG. Erbyn hyn mae na siop delicatessen wedi agor hefo arwyddio gwbl dwyieithog - Cymraeg a Phwyleg!
Mae angen i ni gyflwyno ein iaith a'n diwylliant i'r bobl yma. Mae ganddynt berffaith hawl iddo a dyma fydd yn creu gwladwriaeth iach a aeddfed, nid rhyw arwahanrwydd.