Cyfweliad teledu Cymraeg Enoch Powell

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 11 Ebr 2006 12:35 am

krustysnaks a ddywedodd:.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Wy ti di holi archif sgrin y LLG?

http://sgrinasain.llgc.org.uk/

Nid archif sgrin y llyfrgell mohoni, ond Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru.



Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf am fod mor "wleidyddol anghywir" (heb sylwi, cynt, ar yr angen i fod mor sensitif wrth gyfeirio rhywun at gronfa archifol.)

Mi newidiaf fy nghwestiwn!:

A wyt ti di holi Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, sydd yn rhannu adeilad y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn rhannu gwefan y Llyfrgell Genedlaethol, sydd
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Dili Minllyn » Maw 11 Ebr 2006 4:13 pm

Emrys Weil a ddywedodd:Mae'n debyg ei fod yn arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda - ond rhaid peidio ag anghofio, hyd yn oed os nad oedd o ei hun yn White supremacist (ac mae'r rheithgor allan, megis), mi'r oedd yr hyn oedd o'n ei ddweud yn ysgogi pobol o'r fath yna.

Cwestiwn cymhleth. Yn gyntaf, ydy gwleidydd yn gyfrifol am bob dim mae pobl eraill yn ei gredu a'i wneud ar sail ei eiriau e? Yn sicr, doedd Powell ei hunan ddim yn white supremacist: roedd gyda fe hoffter anghyffredin am ddiwylliant yr India, ac roedd e'n siarad Wrdw yn rhugl. Roedd e'n mynnu hefyd 'fod e'n hollol wrthwynebus i bob anffafriaeth a chamdrin ar bobl groenddu yn y wlad yma ("I set my face like flint against discrimination"). Ar y llaw arall, mae'n wir 'fod e'n ffyrnig o wrthwynebus i ragor o fewnfudo gan bobl Asiaidd a chroenddu i Brydain. Doedd araith 1968 ddim yn eithriadol iddo fe chwaith: o edrych ar ei yrfa o'r 1950au hyd ei farw yn 1998, roedd gyda fe ryw obsesiwn gyda faint o fewnfudwyr oedd yn y wlad, a faint roedden nhw'n cenhedlu.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 13 Ebr 2006 1:53 am

Pe bawn am gymharu Enoch Powell a gwleidydd cyfoes arall mi faswn yn dweud ei fod yn fwyaf tebyg i Dafydd Ellis Thomas. Academyddion ydy'r ddau. Pobl yn codi cwestiynau "o ran diddordeb ymateb" yn hytrach nag o ystyried goblygiadau eu cwestiynu.

Bu hen draddodiad o'r gwleidydd academaidd yng ngwleidyddiaeth yr ynysoedd hyn. Blodyn gaeafol bu DET; ond ers trafferthion Powell prin fu'r enghreifftiau diweddar o'r academaidd wleidydd.

Trist, i ddweud y gwir. Onid ydy meddyliau mawr megis rhai Richard Wyn Jones a Laura MacAlister yn cael eu hafradu i'r byd gwleidyddol gan fod "spin" yn bwysicach na sylwedd academaidd yng ngwleidyddiaeth gyfoes?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Cyfweliad teledu Cymraeg Enoch Powell

Postiogan Garnet Bowen » Iau 13 Ebr 2006 8:18 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Oes gan rywun unrhyw wybodaeth am unig gyfweliad teledu Cymraeg (sef yn yr heniaith ei hunan) 'rhen Enoch. Roedd darn amdano yn Barn ychydig flynyddoedd yn
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan HBK25 » Iau 13 Ebr 2006 8:32 am

Emrys Weil a ddywedodd:Mae'n debyg ei fod yn arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda - ond rhaid peidio ag anghofio, hyd yn oed os nad oedd o ei hun yn White supremacist (ac mae'r rheithgor allan, megis), mi'r oedd yr hyn oedd o'n ei ddweud yn ysgogi pobol o'r fath yna. Naill ai ffwl neu ddihiryn felly. Tebyg iawn i Blair, a deud y gwir.

Dwi'n poeni fod ambell i ddarn o'r edefyn yma, a sawl un arall diweddar ar y maes, yn dechrau sentimentaleiddio'r asgell dde Brydeinig.


"O ran y cyhuddiad o hiliaeth, roedd Powell yn mynnu nad oedd ganddo ddim byd yn erbyn Asiaid fel hil neu genedl, ond ei fod yn credu bob presenoldeb cynifer o bobl o ddiwlliant gwahanol ym Mhrydain yn tanseilio hen ffyrdd Prydeinig o fyw. Nid oedd yn credu chwaith y dylai Asiaid gael eu cymathu
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Dili Minllyn » Iau 13 Ebr 2006 8:41 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Pe bawn am gymharu Enoch Powell a gwleidydd cyfoes arall mi faswn yn dweud ei fod yn fwyaf tebyg i Dafydd Ellis Thomas. Academyddion ydy'r ddau. Pobl yn codi cwestiynau "o ran diddordeb ymateb" yn hytrach nag o ystyried goblygiadau eu cwestiynu.

Cytuno, yn y ddau achos.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan blaidd drwg » Gwe 05 Mai 2006 9:50 pm

Ym, dwi'n ddigon hen i gofio cyfweliad EP. Efo Gwyn Erfyl, dwi'n meddwl. Siarad Cymraeg ofnadwy o gywir, fel un oedd wedi dysgu'r iaith fel ymarferiad academaidd. Cofio dyfyniad o Hamlet - "O what a noble mimd is here o'er thrown."
Mae'r blaidd drwg yn nesau
blaidd drwg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 9:26 pm

Postiogan Dili Minllyn » Sul 07 Ion 2007 8:52 am

Os oes diddordeb gan rywrai, mi ffeindiais i pdf o erthygl Gwyn Erfyl o Chwefror 2004 ar wefan Barn.

Hefyd, o ran Cymreictod EP, mi fues i'n pori'n ddiweddar yn hunan-gofiant D Elwyn Jones, ac yntau'n honni iddo gael sgwrs yn Gymraeg gyda Powell "uwchben sudd oren" - mae'n debyg bod y ddau ddyn yn llwyrymwrthodwyr - yng Nglwb Ceidwadol Llandudno tuag 1970, a Powell yn medru'r Gymraeg yn "hynod o dda."

Mae dyfarniaf Gwyn Erfyl ychydig yn fwy carcus:
Gwyn Erfyl ar Powell, Barn Chwefror 2004 a ddywedodd:Ar ôl cysylltu ag e’, gofynnodd i mi anfon y cwestiynau ymlaen iddo yn Saesneg, gyda chyfieithiad Cymraeg. Yna trefnu cwrdd i roi trefn ar y sgwrs a chodi unrhyw gwestiwn perthnasol. Yr oedd yn berffeithydd cysact, yn fawr a ffurfiol ei groeso ond ni siaradodd air o Gymraeg. Soniais am Stephen J Williams a mynegodd ei ddyled fawr iddo am ei gyfarwyddyd yn y Gymraeg. Ymfalchïai yn ei dras. Ymddiheurodd am ei ddiffyg rhwyddineb yn yr iaith ac am geisio’r cwestiynau yn Saesneg gyda chyfieithiad. Eglurodd mai iaith i’w darllen a’i deall oedd y Gymraeg iddo ac nad oedd yn cael fawr o gyfle nac achos dros ei defnyddio mewn sgwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 19 Ion 2007 3:35 pm

Rhag ofn bod diddordeb gan rywrai, mae trawsysgrifiad o'r cyfweliad yn rhifyn Chwefror 1969 o Barn. Ynddo, mae Powell sôn am ei Chymreictod, ei gred mewn Prydeindod, a rhywfaint am hiliaeth, a rhyddid yr unigolyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 19 Ion 2007 5:32 pm

Wedi postio hwn ar y maes o'r blaen, ond dyma fe unwaith eto:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai