Hoywon Cymraeg

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Llun 17 Ebr 2006 2:30 pm

Cytuno. Mae'n drist o beth i ddweud, ond fedrwch chi dal ddim cael trafodaeth agored a chall am faterion hoyw mewn fforwm gyhoeddus, boblogaidd fel hyn yn yr unfed ganrif ar hugain. Wel, dim yng Nghymru beth bynnag... :rolio:
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 17 Ebr 2006 3:00 pm

a fel dwi 'di ddeud yn yr edefyn arall...so what pa ganrif ydi?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan krustysnaks » Llun 17 Ebr 2006 3:05 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Oni fysa hi'n haws tysa organebau wedi dal i greu epil ar eu pennau eu hunain, heb draffath felly efo cymar aballu?

Ond wedyn base na ddim cerddi am gariadon yn boddi :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 17 Ebr 2006 3:18 pm

Tybed os byddai gynnon ni gystal traddodiad o ganu serch tysa na fwy o bobol yn agored hoyw? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan muu404 » Llun 17 Ebr 2006 3:59 pm

Mae'n rhaid i fi ddweud, fe ddechreuais y pwnc 'ma i ffeindio mas pwy oedd yn hoyw fan hyn a hefyd i gael rhyw fath o drafodaeth. Dwi'n hoyw, ac dwi'n Gristion (shock horror) ac dwi di rhyfeddu ar y sylwadau uchod. Roedd rhaid i fi ymladd yn erbyn fy rhywoldeb am sbel oherwydd yr oedd pobl o'm cwmpas yn mynnu yr oedd e'n 'evil' i fod yn hoyw. Wel i fod yn onest, wnes i bopeth i drio fod yn 'syth', ac ar y pryd 'yn normal' ond nawr dwi wedi dod i dderbyn y ffaith 'mod i'n hoyw ac yn normal. Dwi wedi gofyn i Dduw i fy helpu, ac mae fe'n fy helpu - ond dyw e ddim wedi fy nhroi i'n 'syth'. Mae lot o Gristnogion yn digon barod i gymryd un darn o'r Beibl a'i defnyddio yn erbyn rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi er fod llawer o bethau o le yn eu bywydau nhw. End of rant!
muu404
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 7:46 pm
Lleoliad: Bae Caerdydd

Postiogan Macsen » Llun 17 Ebr 2006 4:07 pm

Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:Mae'n drist o beth i ddweud, ond fedrwch chi dal ddim cael trafodaeth agored a chall am faterion hoyw mewn fforwm gyhoeddus, boblogaidd fel hyn yn yr unfed ganrif ar hugain. Wel, dim yng Nghymru beth bynnag... :rolio:

Ie, problem Gymraeg yn unig yw homoffobia. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sian » Llun 17 Ebr 2006 4:36 pm

muu404 a ddywedodd: Mae lot o Gristnogion yn digon barod i gymryd un darn o'r Beibl a'i defnyddio yn erbyn rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi er fod llawer o bethau o le yn eu bywydau nhw.


Mae'r ffaith fod dau edefyn ar y pwnc yma'n cydredeg yn eitha conffiwsing.

Dyna beth o'n i'n ei olygu pan wnes i ddyfynnu'r Llythyr at y Rhufeiniaid yn yr edefyn arall.

28 Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Barbarella » Llun 17 Ebr 2006 8:25 pm

Fel ddywedes i uchod -- ac mae'r negeseuon ers hynny yn cryfhau'r pwynt -- mae'n amlwg bod angen fforwm hoyw Cymraeg ar wahan os mai dyma'r ymateb gan y Cymry Cymraeg cyffredinol.

Mae na aelod newydd i'r Maes, sy'n digwydd bod yn hoyw, wedi gofyn cwestiwn digon teg, a'r oll mae wedi cael fel ymateb yw llwyth o ddyfyniadau Beiblaidd yn dweud pa mor bechadurus yw e. Sy'n siomedig iawn, yn fy marn i.

Gydag agweddau fel hyn, does rhyfedd bod gymaint o Gymry ifainc hoyw yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael eu cymunedau Cymraeg a symud i dinasoedd fel Manceinion, Llundain a Chaerdydd i gael bywyd normal. Mae'r culni meddwl yma yn cyfrannu at ddirywiad yr iaith, yn anffodus. Byddai'n werth i ambell un ystyried hynny.

Sori os ydi'n annheg mod i'n mynnu cael y gair olaf fan hyn, ond dwi'n cloi'r trafodaeth yma gan nad yw'n arwain i unrhywle. Mae na drafodaeth arall yn y cylch Criw Duw am agweddau crefyddol/cristnogol tuag at hoywon yn fan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai