Hoywon Cymraeg

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 16 Ebr 2006 2:47 am

krustysnaks a ddywedodd:
Dyn Gwyn Gwirion a ddywedodd:Na, os ga i fod o ddifri am funud - onid Criw Duw yw'r lle ar gyfer dadleuon o'r fath?

Na. Esgus am ragfarn ydy son am grefydd. Mae na le am drafodaeth am ragfarn tu allan i sff
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan krustysnaks » Sul 16 Ebr 2006 10:34 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Onid rhagfarn yw dilyn y farn trendi gyfredol yn hytrach na rhoi ystyriaeth i gwestiwn?

Ond dyna fo, haws yw cyhuddo eraill o ragfarn a chulni na mynd i'r drafferth o agor meddwl i farn ystyrlon eraill a thrafod pwnc, yn hytrach na diystyru barn o herwydd dy ragfarn yn erbyn unrhyw sylw y mae Cristion ych a fi yn meiddio ei wneud.


Mae hyn yn ddau-wynebog - "o na, dwi wedi meddwl yn ddwfn am y pwnc ond does na ddim siawns dy fod di wedi gwneud" - braidd, yndydy?

Allen i aralleirio'r ail ran ar dy gyfer di ond newid Cristion ych a fi am rywbeth gwahanol.

Beth bynnag, nid dyma'r ddadl (mae'n ddrwg gen i am hynny) ond mae'n gas gen i gael fy nghamddeall fel hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan sian » Sul 16 Ebr 2006 7:46 pm

krustysnaks a ddywedodd:Esgus am ragfarn ydy son am grefydd.


Os yw'r Beibl yn dweud bod rhywbeth yn bechod, dw i ddim yn meddwl y galli di ddweud mai rhagfarn ar ran Cristnogion yw credu hynny.
Rhagfarn yw "barn wedi'i ffurfio ymlaen llaw (yn enwedig un anffafriol, ddi-sail)." (GPC).

Dw i'n siwr braidd nad Cristnogion sy'n rhoi hasl i bobl hoyw - ond bobl wirioneddol ragfarnllyd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Chwadan » Sul 16 Ebr 2006 9:42 pm

HRF a ddywedodd:Cyn dyddiau cywirdeb gwleidyddol y farn ryddfrydol oedd "rhydd i bob un ei barn ac i bob barn ei llafar" ymddengys bod dyddiau rhyddid barn wedi hen mynd heibio bellach, wedi eu hoffrymu ar allor "cywirdeb" sosialaeth

Cyn dyddiau cywirdeb gwleidyddol y farn "trendi" oedd peidio gadael i hoywon fyw yn rhydd. Dyna ydi dy fersiwn di o ryddid barn?

Sian - lle mae tynnu'r linell rhwng rhagfarn a choelio fod rhywbeth yn bechod? Dwi'n cyfeirio at rywbeth gafodd ei ddweud mewn edefyn arall rwan, ond pan ma Cristion yn cyfeirio at "gach-drywanu", ydw i fod i goelio mai ffydd ac nid rhagfarn sy'n sail i'w goel?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 16 Ebr 2006 10:05 pm

Fe wnes i ddefnyddio'r term yna am ei fod o'n eghraifft o sut y dylid cyfieithu'n dda o'r Saesneg ac yn fwy chwaethus na 'bymio'.

Dydi fy ffydd i ddim wedi fy arwain i'n uniongyrchol i gredu bod homorywioldeb yn anghywir. Yr hyn mae fy ffydd wedi'i wneud ydi gwneud i mi sylweddoli mai rhwng dyn a dynes y cafodd rhyw a pherthynas eu bwriadu, ac nad ydi hoywdeb oherwydd hynny yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan dafydd » Sul 16 Ebr 2006 10:09 pm

sian a ddywedodd:Os yw'r Beibl yn dweud bod rhywbeth yn bechod, dw i ddim yn meddwl y galli di ddweud mai rhagfarn ar ran Cristnogion yw credu hynny.

Mae moesoldeb y Beibl wedi ei seilio ar ragfarnau yr oes sgrifennwyd y testun. Mae yna grefyddau arall (hynach a newyddach) sydd ddim yn rhannu'r un farn. Mae pob Cristion yn gallu gwneud dewis deallus ar pa rhagfarnau o'r Beibl (yn enwedig o'r Hen Destament) nad ydynt yn derbyn.

Os yw rhywun yn defnyddio'r Beibl yn unig i ffurfio'i barn (am mai dyma'r unig 'wirionedd' i rhai pobl), yna'n sicr fe allwch chi alw hynny yn rhagfarn.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Sili » Llun 17 Ebr 2006 11:26 am

dawncyfarwydd a ddywedodd:Yr hyn mae fy ffydd wedi'i wneud ydi gwneud i mi sylweddoli mai rhwng dyn a dynes y cafodd rhyw a pherthynas eu bwriadu, ac nad ydi hoywdeb oherwydd hynny yn iawn.


Ond pa sail sydd gen ti ar gyfer y ddadl yma? Y Beibl a hanes Duw yn creu y byd ac Adda ac Efa? Onid 'guidelines' ydi'r rhan fwyaf o'r Hen Destament yn enwedig, ffordd y bobl nath ei ysgrifennu o gyfleu rhywbeth nad oeddyn nhw cweit yn ei ddeall ar y pryd? Allai wir ddim credu dy fod yn cymryd y Beibl air am air ac mai dy ffydd sydd felly yn effeithio ar dy agwedd tuag at pobl hoyw yn bennaf.

Ac os wyt ti'n ei gymryd air am air, yna dwi erioed wedi dod ar draws yr un rhan o'r Beibl lle mae'n son yn blwmp ac yn blaen nad ydi natur hoywon yn gywir, ond mae digon o son yno am oddefgarwch i bobl o bob lliw a llyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 17 Ebr 2006 1:49 pm

Sili a ddywedodd:Ond pa sail sydd gen ti ar gyfer y ddadl yma? Y Beibl a hanes Duw yn creu y byd ac Adda ac Efa?
Dwi ddim yn ffwndamentalydd o gwbwl felly dwi'n agored i'r posibilrwydd fod dyn wedi cyrraedd y ddaear ar hyd llwybr o esblygu. (Ond nid damwain ydi o, beth bynnag.) Ond hyd yn oed a chymryd hynny, fedri di ddim gwadu bod popeth bron wedi eu creu'n wryw a benyw ac mai felly y maen nhw'n atgenhedlu. Oni fysa hi'n haws tysa organebau wedi dal i greu epil ar eu pennau eu hunain, heb draffath felly efo cymar aballu?

Sili a ddywedodd:Onid 'guidelines' ydi'r rhan fwyaf o'r Hen Destament yn enwedig, ffordd y bobl nath ei ysgrifennu o gyfleu rhywbeth nad oeddyn nhw cweit yn ei ddeall ar y pryd?
Yn sicir ma'r Hen Destament yn cynnwys rheolau sydd ddim yn berthnasol i ni heddiw, er enghraifft y rheolau bwyd y mae'r Iddewon yn cadw atyn nhw o hyd, ac oherwydd hynny dwi'n credu ein bod ni'n gallu dethol pa reolau sy'n addas heddiw. Hens dan ni'n dal i gadw 'Na ladd' ond yn gwrthod
'A'r llwdn hwch, am ei fod yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.'
Y gwahaniaeth rhwng y ddau orchymyn yna ydi bod un yn rhywbeth cyffredinol na ddylai dyn byth mo'i wneud tra bod peidio bwyta porc yn rhywbeth roedd y Genedl a Duw yn meddwl oedd yn addas ac yn well er eu lles nhw ar y pryd. Yn fy marn i mae gweithredoedd hoyw yn perthyn i'r dosbarth cyntaf hwnnw, sef y pethau fydd yn anghywir byth bythoedd amen.

Sili a ddywedodd:Allai wir ddim credu dy fod yn cymryd y Beibl air am air ac mai dy ffydd sydd felly yn effeithio ar dy agwedd tuag at pobl hoyw yn bennaf.
Camgymeriad ydi meddwl mai'r Beibl sy'n llywio ffydd rhywun - rhywbeth personol ydi ffydd (dan arweiniad yr ysbryd) tra bod y Beibl yn anogaeth ac yn ganllawiau ar sut i fyw. Pe bawn i heb agor y Beibl erioed, swn i'n dal i fod yn gwybod bod gweithredoedd hoyw yn anghywir.

dwi erioed wedi dod ar draws yr un rhan o'r Beibl lle mae'n son yn blwmp ac yn blaen nad ydi natur hoywon yn gywir, ond mae digon o son yno am oddefgarwch i bobl o bob lliw a llyn.

Beth am hwn?
Rhufeiniaid 1:27 a ddywedodd:Ac yn gyffelyb y gwyr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwyr ynghyd a gwyr yn gweuthur bryntni.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Sili » Llun 17 Ebr 2006 2:17 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd: Oni fysa hi'n haws tysa organebau wedi dal i greu epil ar eu pennau eu hunain, heb draffath felly efo cymar aballu?

Mae hyn yn digwydd - asexual reproduction - y ffordd wreiddiol o atgynhedlu yn ol y dystiolaeth. Ond gan nad oes digon o 'mutations' yn yr epil i greu cryfder a 'resistance' dydio ddim yn ffordd effeithiol o esblygu ac felly y ffordd biolegol i ddod dros hyn ydi drwy atgynhedlu rhywiol rhwng partnerau efo amrywiad yn eu gennau.

dawncyfarwydd a ddywedodd:Yn fy marn i mae gweithredoedd hoyw yn perthyn i'r dosbarth cyntaf hwnnw, sef y pethau fydd yn anghywir byth bythoedd amen.

Allai ddim dallt sut elli di feddwl fod bod yn hoyw yn "anghywir", yn enwedig yn y 21ain ganrif. Ffordd o fyw a theimlad hollol naturiol ydio i rei pobl. Jest achos nad wyt ti'n gallu dallt sut ellith un person garu person o'r un rhyw dydio ddim yn golygu ei fod o'n anfoesol a dydio ddim yn Gristnogol iawn i farnu rhywun sydd yn gwneud dim drwg i neb drwy honni fod eu cred a'u ffordd o fyw yn anghywir. Amrywiad felma mewn bywyd sy'n ein galluogi i esblygu, darllenna chydig o erthyglau gwyddonnol ar y pwnc, ma na lawer o theoriau diddorol newydd eu cyhoeddi.

dawncyfarwydd a ddywedodd:Camgymeriad ydi meddwl mai'r Beibl sy'n llywio ffydd rhywun - rhywbeth personol ydi ffydd (dan arweiniad yr ysbryd) tra bod y Beibl yn anogaeth ac yn ganllawiau ar sut i fyw.

Dani'n gytun ar hyn felly. Dyma ddudis i gynna.

Rhufeiniaid 1:27 a ddywedodd:Ac yn gyffelyb y gwyr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwyr ynghyd a gwyr yn gweuthur bryntni.

Ond ydi hyn wir yn deud fod o'n rhywbeth "anghywir" i'w wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Manon » Llun 17 Ebr 2006 2:23 pm

Ffoffycssecs! Ma' 'na edefyn arall yn trafod moesoldeb bod yn hoyw... Nid yr edefyn yma ydi'r lle! Mae Barbarella'n iawn bod angen fforwm trafod gwahanol ar gyfer hoywon os mai dyma'r ymateb mae edefyn fel hyn yn mynd i gael ar y maes. :rolio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron