Tudalen 1 o 4

Hoywon Cymraeg

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 7:12 pm
gan muu404
Falle mae'r neges ma di cael ei wneud ond...ble mae'r bobl hoyw Cymraeg yn y ddinas ma??

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 8:04 pm
gan ceribethlem
Pa ddinas?

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 8:07 pm
gan muu404
S'dim ots rili - gadawon ni fe i Gymru ife?!

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 8:12 pm
gan Dili Minllyn
Dwi'n gwybod am ddwy dafarn hoyw yng Nghaerdydd (y Golden Cross a'r White Cross) ond wn i ddim byd am eu Cymreictod.

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 9:08 pm
gan Barbarella
Oes unrhywun yn gweld gwerth mewn cael Cylch Hoyw ar y Maes? (sef ryw fath o is-fforwm preifat)

Neu fforwm newydd sbon yn rhywle? (Rhag ofn bod ambell un eisiau defnyddio enwau gwahanol?)

Meddyliwch am peth -- trafodaethau di-ddiwedd am gwshins a llenni a Kylie. Gwych ;-) Gyrrwch neges breifat os oes diddordeb.

Mae na rhestr o dafarndai a digwyddiadau hoyw ledled Cymru fan hyn gyda llaw.

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 10:40 am
gan Iesu Nicky Grist
Barbarella a ddywedodd:Mae na rhestr o dafarndai a digwyddiadau hoyw ledled Cymru fan hyn gyda llaw.


Waw, o'n i'm yn sylweddoli bod fath beth a saunaz hoyw. :ofn:

Ma'r Locker Room ar Charles Street (Y stryd hoyw yng Nghaerdydd :lol: ) yn cynnig bwydlen 'da puns hefyd :!:

The cafe offers hot and cold and drinks, sandwiches and snacks, made to order. Try the HOT sausage sandwich.


Jiw jiw.
Enw da i'r grwp cerdded lesbianaidd hefyd: Boots 'n' boobs :lol:

Bach yn well na Hike with a dyke. :?

Ymddiheuriadau :wps:

Re: Hoywon Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 11:09 am
gan Dewi Bins
muu404 a ddywedodd:Falle mae'r neges ma di cael ei wneud ond...ble mae'r bobl hoyw Cymraeg yn y ddinas ma??


Yn llanddewibrefi!

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 1:28 pm
gan Barbarella
Hmm, wel dwi'n meddwl bod y ddau neges yna yn profi'r angen am fforwm ar wah

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 1:35 pm
gan Ray Diota
Barbarella a ddywedodd:Neu fforwm newydd sbon yn rhywle? (Rhag ofn bod ambell un eisiau defnyddio enwau gwahanol?).


Bydd Gay Diota 'na! :D

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 2:01 pm
gan Iesu Nicky Grist
Barbarella a ddywedodd:Hmm, wel dwi'n meddwl bod y ddau neges yna yn profi'r angen am fforwm ar wah