Y Mrs wedi gofyn i fi ofyn y neges yma i chi gwybodusion.
Ydy hi'n 'dderbyniol' i chwarae'r diwn (dim y geiriau) ar gyfer y gan Myfanwy mewn priodas sifil? Dwi'n gwbod bod y geiriau yn braidd yn depressing - am golli cariad ayyb yn y diwedd o be dwi wedi'w ddallt. Bydd yno ddeuawd telyn a ffliwt yn chwarar cyn ac ar ol y seremoni a dwi'n awyddus bod caneuon enwog traddodiadol Cymraeg yn cael eu chwarae - bydd y seremoni yn Ucheldiroedd yr Alban. Un o'r caneuon dwi wedi hoffi erioed ydy'r gan Myfanwy (diolch i'r ffilm Hedd Wyn).
Byddech chi'n synnu o glywed y gan yma'n cael eu chwarae neu'n meddwl ei fod yn beth da?
Y gan arall dwi wedi ei hoffi ydy 'Ar Lan y Mor', eto y tiwn yn unig fydd hwn hefyd. Unrhyw awgrymiadau o caneuon traddodiadol Cymraeg eraill a allai fod yn gymwys. Does dim modd cael emynau, sy'n cynnwys Calon Lan gan bod yn rhaid i bopeth fod yn 'seciwlar' a dim son am Dduw ayyb.
Diolch