Tudalen 1 o 1

Geiriau Emyn - "Melys ? cofio'r tadau..."

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 4:35 pm
gan Gloria'Mwn'Di
Rwy'n ceisio dod o hyd i fanylion a geiriau emyn a glywais. Cynulleidfa oedd yn canu, felly roedd hi'n anodd deall y geiriau. Ond roedd yn swnio rhywbeth yn debyg i "Melys wedyn cofio'r tadau/A fu gynt...."

Os oes gan rywun unrhyw syniad beth all hwn fod, plîs, plîs atebwch!

Diolch! :)

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 9:25 pm
gan dawncyfarwydd
Dwi'n methu ei ffendio hi yn y Caniedydd, ac yn Emynau a Thonau'r Methodistiaid. Ti 'di trio Ffaneuon Cudd?

PostioPostiwyd: Mer 24 Mai 2006 9:46 pm
gan Gloria'Mwn'Di
Diolch am chwilio, dawncyfarwydd. Dwi'n gwerthfawrogi hynny.

Dwi newydd orffen sgimio'n fras drwy Caneuon Ffydd, heb lwc.

(Ac mae honna'n frawddeg... ryfedd... i rywun ysgrifennu... :ofn: )

Bydd rhai imi ffonio Rhai Pobl.

PostioPostiwyd: Sul 28 Mai 2006 8:42 pm
gan Del
Falle nad hyn wyt ti'n chwilio amdano, ond fydda'i ddim gwaeth o awgrymu geiriau Gwilym R. Tilsley (o leia' mae'n cynnwys TADAU a GYNT ... ond dim MELYS na CHOFIO ... !)
Fel y bu ei addewidion
gynt i’n tadau’n hyfryd wledd...

(emyn 201, Caneuon Ffydd, pennill 3).

Oes unrhyw gliw arall 'da ti? Ai clywed yr emyn ar radio wnest ti?