Ydi'r eisteddfod wir yn gneud gwahaniaeth i'n diwilliant ni fel Cymry?
Dwi o dan yr argraff fod na rai sydd ond yn cymryd rhan yn eu diwilliant er-mwyn cael cystadlu mewn eisteddfodau. Mae hyn i mi yn drist gan nad y sdeddfod ydi holl ddiwilliant Cymru ac os ydi pobl ond yn cymryd rhan yn y diwilliant hwnnw er-mwyn ennill yna dydi'r bwriad iawn ddim tu-ol i'r
cystadlu.
Dylsa cystadleuaeth fod yno i bobl ddangos eu balchder o'u diwilliant, fel y mae hi rwan mae pobl ddigon parod i ddangos eu diwilliant am ddwrnod neu ddau yn yr eisteddfod er-mwyn ennill medal, ond oni ddylsa ni fod yn dangos ein blachder drwy gydol y flwyddyn?