Blodeuwedd - Y Panto.

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Blodeuwedd - Y Panto.

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 23 Meh 2006 1:35 pm

Rhywun yn cofio'r cynhyrchiad clasurol yma 'nôl yn Nadolig '92? Gyda Helen Rosser Davies fel Rhosyn a Rhodri Owen yn chwarae rôl Lleu Llaw Gyffes?

A phwy all anghofio Iestyn Harris yn chwarae rhan y 'dame'. Gwychder ei hun. Ydy pantos fel hyn yn dal i fod, gwedwch?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Cymro13 » Gwe 23 Meh 2006 2:55 pm

Odd y Panto yna'n hollol shit i fi - Nia Elin yn edrych yn od

Twm Sion Cati
Robin ap Croeso
Jac ar Jyreiniym

oedd y clasuron. Fi'n meddwl bo nhw dal yn neud nhw ond rhai shite Planed Plant i blant bach
I fi mae panto dda fod yn ddoniol i bobl ar bob lefel i blant ac i oedolion
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan sian » Gwe 23 Meh 2006 3:19 pm

Artaith - roedden ni wedi trefnu i fynd fel trît i'r mab hyna ond fe ddaeth e adre o'r ysgol feithrin mewn hwyl ddrwg a dweud nad oedd e ishe mynd.
"Dere" medde fi. "Gawn ni hwyl."
"Dw i DDIM ISHO HWYL," sgyrnygodd e.
Fuodd raid i ni ei fanhandlo fe mewn i'r car. Fe lefodd e'r holl ffordd i Port.
Fe eisteddodd trwy'r hanner cynta a golwg miladda arno.
Ac fe ddaethon ni adre.

A dw i ddim yn meddwl bod e'n bantomeim da iawn chwaith.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan huwwaters » Gwe 23 Meh 2006 3:21 pm

Cymro13 a ddywedodd:Odd y Panto yna'n hollol shit i fi - Nia Elin yn edrych yn od

Twm Sion Cati
Robin ap Croeso
Jac ar Jyreiniym

oedd y clasuron. Fi'n meddwl bo nhw dal yn neud nhw ond rhai shite Planed Plant i blant bach
I fi mae panto dda fod yn ddoniol i bobl ar bob lefel i blant ac i oedolion


Robin Croeso oedd enw'r peth.

Dwi'n cofio mymryn ar rw gan ynddo hefyd:

"Robin Siriol, Robin Siriol yw fy enw i..."
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan sian » Gwe 23 Meh 2006 3:22 pm

Cymro13 a ddywedodd:I fi mae panto dda fod yn ddoniol i bobl ar bob lefel i blant ac i oedolion


Iawn - ond mae gas 'da fi pan fydd jôcs hollol anweddus mewn panto sydd wedi'i anelu'n benna at blant. Dw i ddim yn meddwl bod hynny'n deg â'r plant.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Cymro13 » Gwe 23 Meh 2006 3:25 pm

huwwaters a ddywedodd:Robin Croeso oedd enw'r peth.

Dwi'n cofio mymryn ar rw gan ynddo hefyd:

"Robin Siriol, Robin Siriol yw fy enw i..."


Na Robin ap Croeso oedd enw'r Panto - Bendant

Enw'r prif gymeriad oedd Robin Sion Ap Croeso
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cymro13 » Gwe 23 Meh 2006 3:27 pm

sian a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:I fi mae panto dda fod yn ddoniol i bobl ar bob lefel i blant ac i oedolion


Iawn - ond mae gas 'da fi pan fydd jôcs hollol anweddus mewn panto sydd wedi'i anelu'n benna at blant. Dw i ddim yn meddwl bod hynny'n deg â'r plant.


Na dim jocs anweddus on i'n golygu jyst pethau fyddai Plant ac Oedolion yn gweld yn ddoniol ar ddau lefel gwahanol
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 23 Meh 2006 3:38 pm

huwwaters a ddywedodd:Robin Croeso oedd enw'r peth


Na - mae'r ddau ohonoch chi'n anghywir - Robin Siôn ap Croeso oedd o, a Plwmp (Owain Gwilym) oedd ei said-cic o, a Poli (Eleri Sion) oedd ei gariad o, a'r Barwn Barfddu (Geraint Griffiths) oedd y dyn drwg... "Taran, mellten, gwynt a glaw - mae'r Barwn Barfddu cas gerllaw."

Roeddwn i yn yr ysgol uwchradd pan ddaeth Blodeuwedd allan, felly o'n i ddim mor obsesd efo hwnnw â'r hyn fuais i ynghynt, ond dwi dal yn cofio'r gân "Rwy mewn cariad â Lleu, ond dyw e'm yn fy ngharu fi" ar ddiwedd Act 1, a'r finale "Rwy mewn cariad a Lleu" [enter Lleu] "Ac rwyf fi'n dy garu di". Aah :)

Roedd Jiw Jiw Jeifin Jencins yn dda. Caneuon gwych ynddo, e.e. Elfis Preseli am ei gitar hud: "Mae hon yn amhrisiadwy a'i swn yn anghredadwy. Mae'n brofiad byth gofiadwy - Cymer hi" - Mi fues i'n canu y gan honno gan ddefnyddio brwsh gwallt fel gitar yn fodlon iawn am flynyddoedd lawer :lol:

Jac a'r Jereniym oedd fy fferfyn i dwi'n meddwl. Ond, cofio cael hunlle am Llew Llinyn Trons (Dewi Pws) a Llywela-Lle-Mae-Mhres-i (Mari Gwilym), gan fod eu cân 'Cas Cas ac Ych-a-fi' yn gorffen efo'r bygythiad "Ella ddown ni i'ch ty chi heno". Ai fi di'r unig un erioed i gael hunllef am Mari Gwilym?!
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Sili » Gwe 23 Meh 2006 4:12 pm

Plwmp oedd fy "nghrysh" cynta i :wps: Nesi wirioni'n llwyr wrth wylio Twm Sion Cati a wedyn gesi fynd i weld Plwmp ar ol y sioe wedi i Anti Haf ddeud wrtho mod i'n ffan enfawr. Nesi gochi a gwrthod siarad efo fo. Ond mi gesi afael yn ei law a chael crys T'r sioe ganddo (dwi dal yn ei wisgo hyd at heddiw er fod y defnydd chydig yn dennau erbyn hyn...). Mi bwdis i'r holl ffordd adref gan fod Plwmp yn methu dod am swpar acw. Harymff.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Gwen » Gwe 23 Meh 2006 4:56 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Na - mae'r ddau ohonoch chi'n anghywir - Robin Siôn ap Croeso oedd o...


Naci, naci :rolio: . 'Robin ap Croeso' oedd enw'r pantomeim, er mai Robin Siôn ap Croeso oedd enw'r prif gymeriad, felly Cymro13 sy'n gywir.

Dwi'n meddwl mai'r pantomeim gora gen i (ar wahân i rai Llechan Las) oedd y cynta welish i erioed. Rhyw bedair oed on i, felly dwi'm yn cofio llawer - ddim hyd yn oed y teitl. Ella y medrwch chi fy helpu fi, er nad ydw i'n rhyw ffyddiog iawn chwaith gan 'mod i ymysg hynafgwyr y maes 'ma. Beth bynnag, Cefin Roberts oedd yn y brif ran, ac un o'i ganeuon o oedd 'Na, na, na, na, na, dwi'm isho bod yn hogyn da'. Y Wrach Wen oedd ei fam o, ac roedd na ryw anghenfil y mae ei enw fo ar flaen fy nhafod i, ond na fedra i cweit ei gofio fo ar y funud. Roedd ar ffrind i mi wirioneddol ofn hwnnw. Be oedd ei enw fo eto, dudwch? Ddo i nôl os bydda i wedi cofio.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron