Blodeuwedd - Y Panto.

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Gwen » Mer 28 Meh 2006 1:24 pm

Ionawr 1981? Wel, mae'n bosib mai dyna pryd gwelish i o ta. Newydd gael fy nhair o'n i, ond mae hynny'n fwy credadwy na mod i wedi'i weld o pan o'n i newydd gael fy nwy. Ond yn Theatr Gwynedd yn bendant yr oeddan ni. Welish i mo'r cynhyrchiad arall na yn Neuadd JP, ond os oedd hynny tua 1991/2, mi fyswn i di bod yn 13/4 ac yn rhy hen i bantomeims.

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Ai yn y pantomeim Llysnafyn es di ar y llwyfan am ei bod hi'n ben-blwydd arnat ti, Gwen? Dwi'n cofio hynna'n iawn, ac yn berwi o eiddigedd nad o'n i'n cael mynd ar y llwyfan!


Na, doeddat ti ddim yna (ac mae hynny'n gneud sens hefyd o feddwl mai 2 fis oed oeddat ti). Dwi'n cofio mai rhwng Mam a ffrind ysgol (ysgol feithrin mae'n rhaid os mai 1981 oedd hi) i mi ro'n i'n ista a'r ffrind yn cael panic atacs bob tro roedd y Llysnafyn yn dwad ymlaen. Mae'n siwr mod i'n meddwl mod i'n tyff a finna'n 3 a hitha ond yn 2.

Mae'n rhaid mai ar fy mhen-blwydd yn 6 neu 7 y cesh i [fy ngorfodi i] fynd ar y llwyfan. Dwi'm yn cofio llawer am y pantomeim, ond rhyw ddynas di gwisgo fel deryn ddoth i fy nol i ac ar ddiwedd y peth (miwsical slebjans os dwi'n cofio'n iawn) mi oedd yn rhaid i mi gael sws slebjanllyd gan y boi na oedd yn actio Ken, perchennog y cartra hen bobol, yn Pobol y Cwm yn ddiweddarach. Dwi'm yn cofio teimlo mwy o gwilydd a swildod erioed (achos sws hir iawn oedd hi hefyd - smwwtsh, wath i chi ddeud).

Be dan ni angen ydi rhestr o bob pantomeim rhwng y saithdega a'r nawdega.

Dafydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan -*SbRiNgS*- » Mer 28 Meh 2006 3:45 pm

Pwy oedd yn actio rhan Twm Sion Cati, a phwy oedd yn actio ei Fam?! (cofio'r llais sgeeeri 'na!) Mi odd gin Twm gan anhyyygoel; "Digon i'r diwrnod yw ei ddrwg ei hun!" WEHEI!

Pam bo nhw di penderfynu gwneud Blodeuwedd yn Gog goman?! Odd gin Nia Elin ryw acen od ac mi oedd hi'n deud "cyw" ar ol pob dim!
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

Postiogan Cymro13 » Iau 29 Meh 2006 8:00 am

-*SbRiNgS*- a ddywedodd:Pwy oedd yn actio rhan Twm Sion Cati, a phwy oedd yn actio ei Fam?! (cofio'r llais sgeeeri 'na!) Mi odd gin Twm gan anhyyygoel; "Digon i'r diwrnod yw ei ddrwg ei hun!" WEHEI!

Pam bo nhw di penderfynu gwneud Blodeuwedd yn Gog goman?! Odd gin Nia Elin ryw acen od ac mi oedd hi'n deud "cyw" ar ol pob dim!


Idris Charles oedd Mam Twm Sion Cati
a Huw Tudur oedd Twm Sion Cati fi'n meddwl - neu enw tebyg i hwnna
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan garetshyn » Iau 29 Meh 2006 1:33 pm

♪Twm Siôn Cati
Sydd yn priodi Leri
Hwyl fawr ichi
Bloeddiwn dros y lle – Hwre!
Twm Siôn Cati
Priodas hapus ichi
Ac i tithau Leri
Ie, ie , ie…!♪ 8)

Am rhyw reswm, Owain Gwilym oedd Twm yn 'y mhen i, ond 'wy'n cofio'n iawn bod Huw Tudur wedi chwarae'r brif ran yn un o'r pantos. Digon posib mai Twm odd e. Pwy odd Leri felly?

A... ym ma un odd y biwt o gan...


Os na ddaw e ata i,
Fydd pawb yn dweud “fe ddwedes i
Does dim dyfodol yna i chi”
Ac os na ddaw e ata i
Ai dyna fydd dweud ffarwel?

Dim ond i weld ei wên
Clywed ei chwerthin
Ond os na ddaw e ata i
Fydd na fory ar ôl?
Rwy’n cofio/anghofio’r geiriau doeth (??)
Ein cariad yw’n cyfoeth (??)
Ond os na ddaw eeee ata i
Dyna fydd ffaaaarwel..

Llio Milward yn canu. Jac a'r Jereniym? Atgofion braf! :)
Rhithffurf defnyddiwr
garetshyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 9:07 am

Postiogan Cymro13 » Iau 29 Meh 2006 3:03 pm

garetshyn a ddywedodd:Pwy odd Leri felly?


Gina off Pobol y Cwm
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Gwen » Iau 29 Meh 2006 3:05 pm

Eleri Sion o'n i'n feddwl... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llefenni » Iau 29 Meh 2006 3:29 pm

Cymro13 a ddywedodd:
garetshyn a ddywedodd:Pwy odd Leri felly?


Gina off Pobol y Cwm


Oedd Catrin fychan yn yr un arall... ond di-i-im syniad be oedd ei enw fo :wps: Yn gallu ei gweld hi mewn ffroc Gingham las mewn carchar yn crio wan :(
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan gronw » Iau 29 Meh 2006 3:57 pm

yn Twm Sion Cati oedd Catrin Fychan, deffinyt. hi oedd Leri. dwi'n cofio hi'n crio mewn carchar hefyd Llefenni (yn rhannol achos nes i ailwylio'r panto tua unwaith yr wythnos am flwyddyn :wps:). a Twm Sion Cati oedd Huw Tudur/Tudor? fel dedodd Cymro13, oedd yn canu efo Catsgam yn ddiweddarach dwi'n meddwl :?

y panto cynta dwi'n cofio oedd yr un efo Hywel Gwynfryn a rhywun fel dwy chwaer hyll (o'r enw Bibop a Lwla??), a rhyw ferch fach wedi cael ei chlymu ar lein rheilffordd, a dwi jyst yn cofio'r trên yn dod yn nes ac yn nes....... :crio:

fe'm sgariwyd am fywyd.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Iau 29 Meh 2006 4:27 pm

gronw a ddywedodd:yn Twm Sion Cati oedd Catrin Fychan, deffinyt. hi oedd Leri. dwi'n cofio hi'n crio mewn carchar hefyd Llefenni (yn rhannol achos nes i ailwylio'r panto tua unwaith yr wythnos am flwyddyn :wps:). a Twm Sion Cati oedd Huw Tudur/Tudor? fel dedodd Cymro13, oedd yn canu efo Catsgam yn ddiweddarach dwi'n meddwl :?

y panto cynta dwi'n cofio oedd yr un efo Hywel Gwynfryn a rhywun fel dwy chwaer hyll (o'r enw Bibop a Lwla??), a rhyw ferch fach wedi cael ei chlymu ar lein rheilffordd, a dwi jyst yn cofio'r trên yn dod yn nes ac yn nes....... :crio:

fe'm sgariwyd am fywyd.


Dewi Pws ac Emyr Wyn oedd Bibop a Lwla (yn Jiw Jiw Jeifin Jenkins):

"Bibop a Lwla fi di'r dela
Mae gen i gariad yn Abergela."
"Wel, os oes gen ti mae'n rhaid ei fod o
Yn hyll fel pechod ac yn hen fel dodo"

... A lot o benillion eraill am lais fel bath yn gwagio a thrwyn fel wy wedi ei ffrio a ballu.

O ran y bobl ddrwg yn Twm Sion Cati - roedd gen ti Ceri Dig Iawn (Toni Carol) a'i meibion Treg a Ron (y Brodyr Gregory). Dwi'n dechra meddwl mai Hywel Gwynfryn oedd enw'r Ddraig yn Robin [Sion] ap Croeso... Cymro 13 - ti gallu cadarnhau hynny?
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan -*SbRiNgS*- » Iau 29 Meh 2006 10:22 pm

Idris Charles...oedd mam Twm Sion Cati...mae fy mhlentyndod ar chwal...
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Rhithffurf defnyddiwr
-*SbRiNgS*-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 157
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 12:29 pm
Lleoliad: Llanuwchllyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai