Blodeuwedd - Y Panto.

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan gronw » Iau 29 Meh 2006 11:25 pm

-*SbRiNgS*- a ddywedodd:Idris Charles...oedd mam Twm Sion Cati...mae fy mhlentyndod ar chwal...

iych, good point.

o ie Twyllwr, panto jeifin jenkins oedd o, o'n i ddim yn cofio hynny. o'n i'n ifanc iawn amser hynny, un o'r unig bethe dwi'n cofio oedd y trên stêm horybl na, a crio! :D

diolch hefyd am atgoffa ni am Ceri Dig Iawn - o'n i (ychydig yn hŷn erbyn hynny ac yn llai o fabi mam) yn meddwl bod hi'n class! heb os nac oni bai hwn oedd fy hoff banto. gwychder. mae'n dal gen i ar fideo. tempted i fynd i'w wylio... na gronw, paid.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Gwen » Gwe 30 Meh 2006 7:53 am

gronw a ddywedodd:o ie Twyllwr, panto jeifin jenkins oedd o, o'n i ddim yn cofio hynny. o'n i'n ifanc iawn amser hynny, un o'r unig bethe dwi'n cofio oedd y trên stêm horybl na, a crio! :D


Doedd na'm trên ar gyfyl Jiw Jiw Jeifin Jenkins. Pam y bysa 'na - stori Sindarela (Sindirola) oedd hi, a rwdan neu rwbath oedd y dewisedig drafnidiaeth.

Dwi'm yn cofio dim byd am yr olygfa ti'n sôn amdani ond mae'n siwr mai yn Codi Stêm y gwelaist ti hi, flwyddyn cyn JJ JJ (1987 felly). Ond yn JJ JJ yn bendant yr oedd Bi-bop a Lwla a Mama Cas.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Gwe 30 Meh 2006 8:06 am

Beth sy dal yn scary i fi yw cofio Dai Sgaffalde fel Dame yn Jac a'r Jyreiniym :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Gwen » Gwe 30 Meh 2006 8:14 am

Cymro13 a ddywedodd:Beth sy dal yn scary i fi yw cofio Dai Sgaffalde fel Dame yn Jac a'r Jyreiniym :ofn:


Yn gneud stiw!

♪ Tato, tomato,
Cwstard oer a jam,
Grefi wedi llosgi'n ddu
A lwmp neu ddau o sbam.
Sbarion, sbwriel,
Llond llwy de o gliw,
Pen cabatshen neith y tro
A mewn ag e i'r stiw! ♪

Ac un o'r penillion:

♪ Wthnos nesa mae Yncyl Wil
Yn dod 'ma ar ei wylie;
Mae Yncyl Wil yn byta lot
Wy'n poeni am y bilie.
Ond wyddoch chi be wna i
Os bydd yn rhaid fi gwcan?
Berwi cynffon crocodeil
A changariw 'di stiwian. ♪


Dwi'n siwr fod dros wythnos wedi pasio erbyn diwedd y panto, a dal dim sôn am Yncyl Wil...
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Llun 03 Gor 2006 12:46 pm

Gwen a ddywedodd:Be dan ni angen ydi rhestr o bob pantomeim rhwng y saithdega a'r nawdega.


Wedi ffeindio fe yn hen lyfr Slot 23 oedd da fi

Dyma fe

1971/72 - Cwmni Theatr Cymru - Mawredd mawr
1972/73 - Cwmni Theatr Cymru - Gweld Ser
1973/74 - Cwmni Theatr Cymru - Dan y Don
1974/75 - Cwmni Theatr Cymru - Pwyll Gwyllt
1975/76 - Cwmni Theatr Cymru - Afagddu
1976/77 - Cwmni Theatr Cymru - Madog
1977/78 - Cwmni Theatr Cymru - Jac y Jyngl
1978/79 - Cwmni Theatr Cymru - Eli Babi
1979/80 - Cwmni Theatr Cymru - Mwstwr y Clwstwr
1980/81 - Cwmni Theatr Cymru - Rasus Cymylau
1981/82 - Cwmni Theatr Cymru - Guto Nyth Cacwn
1982/83 - Cwmni Theatr Cymru - Noa(Sioe Nadolig)
1983/84 - Panto 84 - Dyfroedd y Dyfnion
1984/85 - Panto 85 - Rwj Raj
1985/86 - Hwyl a Fflag - Go Fflamia
1986/87 - Hwyl a Fflag - Jim Cro Crystyn
1987/88 - Hwyl a Fflag - Codi Stem
Cwmni Whare Teg - Jiw Jiw Jeifin Jenkins
1988/89 - Cwmni Whare Teg - Jac a'r Jyreiniym
1989/90 - Cwmni Whare Teg - Robin ap Croeso
1990/91 - Cwmni Whare Teg - Twm Sion Cati
1991/92 - Cwmni Whare Teg - Y Brenin Arthur a'r Blewyn Hir
1992/93 - ??? - Blodeuwedd
1993/94 - ??? -(Rhywbeth am Cantre'r Gwaelod oedd
yn hollol shit)

Ydi hwnna'nateb dy gwestiwn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 03 Gor 2006 1:37 pm

1994/95 - Culhwch ac Olwen.

(Dwi'n cofio hyn gan i fy ngwaith celf i am y chwedl gael ei arddangos mewn oriel oedd yn cyd-fynd â'r panto. Dwi fawr o artist, ac mi ddywedodd fy ffrind fod 'y darn' (sef cyfuniad bler o paper maché, paent a glitter) yn edrych fel rhywbeth oedd plentyn mewn ysgol arbennig wedi ei neud).

Mi aeth fy chwaer a finnau (oedd yn 14 ac 17 ar y pryd :wps: ) i weld y pantomeim. Dwi'n meddwl mai Trefor Selway oedd y dêm, ac mae gen i gof o gân a oedd yn mynd "Roc-a-roli roli roc".
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Twpsan » Mer 26 Gor 2006 3:54 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:1994/95 - Culhwch ac Olwen.
Dwi'n meddwl mai Trefor Selway oedd y dêm, ac mae gen i gof o gân a oedd yn mynd "Roc-a-roli roli roc".


Ddim yn Brenin Arthur oedd hwna - fo a Arwyn Davies yn canu`r ddeuawd roc a rol?

"....Homework wedi gorffen,
A dim ar Es Ffor Si,
Cydiwch eich pyjamas....."

"Pawb pawb rocio,
pawb i guro`i dwylo,
Roli roli roc a rol,
Roli roli roc a rol!"

neu wbath tebyg!
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan naddwr » Mer 26 Gor 2006 11:44 pm

Wnaeth Huw Tudur erioed canu gyda Catsgam - ei gyn wraig sydd wrth y llyw yno!


gronw a ddywedodd:yn Twm Sion Cati oedd Catrin Fychan, deffinyt. hi oedd Leri. dwi'n cofio hi'n crio mewn carchar hefyd Llefenni (yn rhannol achos nes i ailwylio'r panto tua unwaith yr wythnos am flwyddyn :wps:). a Twm Sion Cati oedd Huw Tudur/Tudor? fel dedodd Cymro13, oedd yn canu efo Catsgam yn ddiweddarach dwi'n meddwl :?

y panto cynta dwi'n cofio oedd yr un efo Hywel Gwynfryn a rhywun fel dwy chwaer hyll (o'r enw Bibop a Lwla??), a rhyw ferch fach wedi cael ei chlymu ar lein rheilffordd, a dwi jyst yn cofio'r trên yn dod yn nes ac yn nes....... :crio:

fe'm sgariwyd am fywyd.
:winc:
naddwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 26 Gor 2006 11:34 pm

Postiogan Gwen » Iau 27 Gor 2006 9:09 am

Cymro13 a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:Be dan ni angen ydi rhestr o bob pantomeim rhwng y saithdega a'r nawdega.

Ydi hwnna'nateb dy gwestiwn :winc:


Rwan dwi'n gweld hwn. Diolch, Cymro13 - gwych.

Dwi'n dechra meddwl rwan mai cymysgedd o atgofion o nifer o wahanol bantomeims sgen i (gw. uchod). Dwi fatha swn i'n cofion mai yn 'Dyfroedd Dyfnion' roedd Llysnafyn... ond ella mod i'n anghywir. Dafydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 27 Gor 2006 9:16 am

Gwen a ddywedodd:
gronw a ddywedodd:o ie Twyllwr, panto jeifin jenkins oedd o, o'n i ddim yn cofio hynny. o'n i'n ifanc iawn amser hynny, un o'r unig bethe dwi'n cofio oedd y trên stêm horybl na, a crio! :D


Doedd na'm trên ar gyfyl Jiw Jiw Jeifin Jenkins. Pam y bysa 'na - stori Sindarela (Sindirola) oedd hi, a rwdan neu rwbath oedd y dewisedig drafnidiaeth....


Dwi'm yn cofio hwnna, ond yn cofio JJ a 4 planc y Mabinogi - rhywbeth pantomeim-esque ond ar y teli. Da oedd! :D
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron