Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Ai yn y pantomeim Llysnafyn es di ar y llwyfan am ei bod hi'n ben-blwydd arnat ti, Gwen? Dwi'n cofio hynna'n iawn, ac yn berwi o eiddigedd nad o'n i'n cael mynd ar y llwyfan!
Na, doeddat ti ddim yna (ac mae hynny'n gneud sens hefyd o feddwl mai 2 fis oed oeddat ti). Dwi'n cofio mai rhwng Mam a ffrind ysgol (ysgol feithrin mae'n rhaid os mai 1981 oedd hi) i mi ro'n i'n ista a'r ffrind yn cael panic atacs bob tro roedd y Llysnafyn yn dwad ymlaen. Mae'n siwr mod i'n meddwl mod i'n tyff a finna'n 3 a hitha ond yn 2.
Mae'n rhaid mai ar fy mhen-blwydd yn 6 neu 7 y cesh i [fy ngorfodi i] fynd ar y llwyfan. Dwi'm yn cofio llawer am y pantomeim, ond rhyw ddynas di gwisgo fel deryn ddoth i fy nol i ac ar ddiwedd y peth (miwsical slebjans os dwi'n cofio'n iawn) mi oedd yn rhaid i mi gael sws slebjanllyd gan y boi na oedd yn actio Ken, perchennog y cartra hen bobol, yn Pobol y Cwm yn ddiweddarach. Dwi'm yn cofio teimlo mwy o gwilydd a swildod erioed (achos sws hir iawn oedd hi hefyd - smwwtsh, wath i chi ddeud).
Be dan ni angen ydi rhestr o bob pantomeim rhwng y saithdega a'r nawdega.
Dafydd?