Pwy yma sy'n hoffi pysgota?
Dw i wrth fy modd pan ga i gyfle (prin) o wneud; dw i'n hoff o bysgota môr o'r lan, a defnyddio lygwns fel fy mhrif abwyd (er bod sliwennod y tywod i'w gweld yn mynd yn dda ddoe)
Dyma le i rannu tips 'sgota, fel lle ydi'r llefydd gorau ar y funud i fynd a dal sgods o bob math, a rhannu eich cyfrinachau bysgota gorau!
Oes unrhyw un efo tips da am fecryll thua gogledd Gwynedd ac Ynys Mon ar y funud? Ac a oes rhywun yn gwybod y ffyrdd orau o ddal pysgod fflat?