Eglwys fechan Llandrillo

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Eglwys fechan Llandrillo

Postiogan Mali » Gwe 28 Gor 2006 4:39 am

Newydd fod yn edrych ar luniau huwwaters o'r eglwys fechan yn Llandrillo.Yn cofio mynd yno sawl gwaith pan yn blentyn, a braf iawn oedd gweld y lluniau. Diolch Huw. :D
Ond tybed beth ydi hanes yr eglwys fechan hon sydd ond yn dal chwech o fobl?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhys » Gwe 28 Gor 2006 7:28 am

Dwi rhyw hanner cofio mynd i hwn rwan wedi ti sôn, oes dolen at luniau Huw? Bues i Ganada'n ddiweddar ac ar y ffordd i Niagara o Toronto, dyma'r gyrrwr bws yn stopio'n gyflym wrth yr eglwys hwn a honni mai dyma'r un lleiaf yn y byd a mond 8 person all ffitio ynddo. Yn amlwg roedd hyn yn gelwydd noeth gan ma'r un yn Llandrillo yw'r lleiaf!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 28 Gor 2006 9:28 am

Welish i nhw hefyd, diddorol iawn. Yn wahanol i bwb arall o ddyffryn clwyd fe ymddengys, dwi rioed wedi bod yno :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Twpsan » Gwe 28 Gor 2006 9:34 am

Paid a phoeni, dwi 'rioed di bod chwaith. Na`i ychwanegu o at fy 'tw dw list' :wps:
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan huwwaters » Gwe 28 Gor 2006 10:11 am

Dwi'n meddwl bod gwasanaeth yn cael ei gynnal yno unwaith yr wythnos. Dwi efo ryw syniad na unai nos Fercher neu nos Sul.

Capel ar gyfer pererindodau ydyw dwi'n meddwl, ac un sy'n dilyn yr hanfodion o gael mor, nant a thref yn gyfagos. MAe angen cofio fod y Capel mewn ardal Cymreig iawn ar un adeg. Fedrwch chi weld hyn o'r enwau lleol fel Dinerth sy'n dod o Din Arth (Caer yr Arth) sydd wrth ymyl Bryn Euryn, cartref ednyfed Fychan sef right hand man Llywelyn. Hefyd enwau fel Creuddyn a Llan Rhos.

Sant Trillo adeiladodd y Capel, ond mae cyfeiriadau at Sant Elian, sef sant lleol arall. Mae pentref tu cefn i Hen Golwyn o'r enw Llanelian yn Rhos. Mae son fod y capel gwreiddiol wedi ei hadeiladu ar safle sydd bellach o dan dwr. Pan mae'r llanw yn isel, fedrwch chi weld gwaelodion boncyffion coed yn y tywod. Mae stori tebyg yn Abergele, ble yn y fynwent mae hen carreg bedd yn deud fod y dyn sydd wedi ei gladdu yma arfer a byw 1 milltir a hanner i'r gogledd, sy'n digwydd bod yn y mor rwan.

Mae llwyth o storiau bach fel hyn, fel ffermwyr yn casglu glaswellt a gwair ochr arall i'r wal yma yn Nhowyn, tu allan i Abergele. Bellach mae ochr arall y wal yma yn dywod rwan. MAe lluniau i brofi hyn hefyd.

Cawn hefyd gofio mai wrth ymyl y capel yma gadawodd Madog am yr America.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mali » Gwe 28 Gor 2006 3:19 pm

LLawer o ddiolch i ti am yr holl wybodaeth uchod Huw. Tro nesaf fyddai adref , mi fydd yn rhaid i mi wneud pererindod arbennig i weld yr eglwys fach hon ....y lleiaf yn y byd?
:D
'Roeddet yn sôn fod y capel gwreiddiol bellach o dan y dwr, oes 'na ddyddiad i'r adeilad presenol tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Gwe 28 Gor 2006 3:24 pm

Rhys a ddywedodd:Dwi rhyw hanner cofio mynd i hwn rwan wedi ti sôn, oes dolen at luniau Huw? Bues i Ganada'n ddiweddar ac ar y ffordd i Niagara o Toronto, dyma'r gyrrwr bws yn stopio'n gyflym wrth yr eglwys hwn a honni mai dyma'r un lleiaf yn y byd a mond 8 person all ffitio ynddo. Yn amlwg roedd hyn yn gelwydd noeth gan ma'r un yn Llandrillo yw'r lleiaf!


Diolch i ti am lun yr eglwys leiaf yng Nghanada Rhys. Dyma'r tro cyntaf i mi wybod amdano. :D Heb grwydro i ochr ddwyreiniol y Wlad fawr yma eto!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Sul 30 Gor 2006 9:58 pm

Newydd gael hyd i hyn am 'Y Capel ar y Lan'. Ond am ryw reswm mae rhannau o'r erthygl ar goll.
:?

Capel Sant Trillo, ‘Y capel ar y lan”, Llandrillo-
yn-Rhos
Medi - ; Medi - Mae’r eglwys fechan
hon wedi’i chysegru i Sant Trillo a’i hadeiladu
tros ffynnon. Dywedir ei bod yn dyddio o’r ac
yn gysylltiedig mwy na thebyg â mynachlog gyfa-
gos Rhos Fynach. Roedd wedi dadfeilio erbyn
canol y a chafodd ei hadnewyddu ca ac
eto ym . Mae’r gwydr lliw yn ffenestr bigfaint
y dwyrain gan Morris ac o’r cyfnod hwnnw. Mae’r
capel yn ei ardd amgaeëdig ei hun ar y rhodfa
isaf, ger safle blaenorol cored bysgod y myna-
chod. grisiau a rhamp tarmac i’r Promenâd
Isaf o Marine Drive; mynedfa wastad i’r capel
ei hun. Marine Drive, Llandrillo-yn-Rhos;
o Fae Colwyn ar hyd y Promenâd ewch heibio i
Rhos Point, mae’r capel oddeutu hanner milltir
ymhellach islaw’r ffordd ar y dde.
Eglwys San Siôr, Crossley Road, Llandrillo-yn-


Ella wnaiff o fwy o synnwyr i ti Huw?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai